Documentary Photography Awards 2025

Royal Photographic Society

6 Hydref, 2026 - 31 Hydref, 2026

Date(s)
06 - 31/10/2026
Cyswllt
Royal Photographic Society
Disgrifiad
web cover 10_Jubair Ahmed Arnob_Student Category COVER

Arddangosfa Deithiol
Gwobrau Ffotograffiaeth Ddogfennol 2025

Cymdeithas Ffotograffiaeth Frenhinol

Mae Gwobr Ffotograffiaeth Ddogfennol y Gymdeithas Ffotograffiaeth Frenhinol yn ddigwyddiad rhyngwladol sy’n denu ffotograffwyr dogfennol a storïwyr gweledol eithriadol o bob rhan o’r byd.

Mae 9 prosiect wedi’i arddangos, 3 o bob categori – Aelodau, Myfyrwyr ac Agored. Mae’r fformat yma yn golygu bod yr arddangosfa yn gallu dangos gwaith dogfennol hir gan aelodau’r Gymdeithas Ffotograffiaeth Frenhinol yn ogystal â ffotograffwyr mwy profiadol yn y categori Agored.

 Blue lit building with 6 windows, there is a figure of a person in the top middle window
(c) Amin Nazari

Mae’r prosiectau dethol yn wahanol iawn i’w gilydd ac yn amrywio o waith dogfennol cymdeithasol i waith sy’n archwilio effaith gwrthdaro a rhyfel, newid amgylcheddol, gwrywdod, bywoliaethau traddodiadol, tai, plentyndod, trefoli, cof, bywyd cymunedol ac argyfwng personol. Gyda’i gilydd maent yn rhoi darlun o beth mae ffotograffiaeth ddogfennol yn gallu bod a sut fedrwn ni ei defnyddio i rannu straeon pwysig, personol a chymdeithasol.

 people praying on their knees in a war torn city
(c) Abdelr Hman Alkahlout

Y gwobrau a’r ffotograffwyr sy’n arddangos;

Categori’r Aelodau
John Harrison, Bellwether
Amin Nazari, Anxious Frames
Jacopo Lacamo, Ov’era

Categori Agored
Abdelr Hman Alkahlout, Faces of Gaza’s Silent Testimony
Alex Bex, Memories of Dust
Jim Mortram, Small Town Inertia

Myfyrwyr:
Tianxiao Wang, The Sea Sustains Us
Richie Elder, Dumbiedykes
Jubair Ahmed Armob, The Place Where I Used To Play...

Bydd arddangosfa deithiol gyda detholiad o waith y ffotograffwyr buddugol i’w gweld yn Oriel Colwyn, Theatr Colwyn, Ffordd Abergele, Bae Colwyn, LL29 7RU o 6 Hydref tan 31 Hydref 2026, gyda digwyddiad agoriadol ddydd Sadwrn 10 Hydref.

*Cover Image (c) Jubair Ahmed Arnob

RPS Logo

TANYSGRIFIO

Cofrestrwch gyda’ch cyfeiriad e-bost i gael y newyddion diweddaraf.

Caniatâd Marchnata

Bydd Oriel Colwyn yn defnyddio'r wybodaeth a roddwch ar y ffurflen hon i gysylltu â chi ac i ddarparu diweddariadau a marchnata. Cadarnhewch yr hoffech glywed gennym trwy e-bost trwy dicio'r blwch isod:

Gallwch newid eich meddwl unrhyw bryd drwy glicio ar y ddolen dad-danysgrifio yn nhroedyn unrhyw e-bost a gewch gennym, neu drwy gysylltu â ni yn curator@orielcolwyn.org. Byddwn yn trin eich gwybodaeth â pharch. I gael rhagor o wybodaeth am ein harferion preifatrwydd, ewch i'n gwefan. Drwy glicio isod, rydych yn cytuno y gallwn brosesu eich gwybodaeth yn unol â'r telerau hyn.

Rydym yn defnyddio Mailchimp fel ein platfform marchnata. Trwy glicio isod i danysgrifio, rydych yn cydnabod y bydd eich gwybodaeth yn cael ei throsglwyddo i Mailchimp i'w phrosesu. Dysgu rhagor am arferion preifatrwydd Mailchimp.

Intuit Mailchimp