Cynhyrchodd Homer Sykes rai o'r ffotograffau dogfennol mwyaf eiconig o glwb y Blitz yn Llundain tua 1980. Roedd ei luniau’n cynnwys y “Blitz Kids” ar yr union adeg yr oedd y mudiad Rhamantaidd Newydd yn esblygu o fod yn isddiwylliant bach i un o arddulliau gweledol a cherddorol mwyaf dylanwadol y 1980au. Yn wahanol i ffotograffwyr ffasiwn caboledig oedd yn gweithio mewn stiwdios neu ar gyfer cylchgronau, yr oedd Sykes mynd ati i dynnu lluniau o’r Blitz fel ffotograffydd dogfennol, a oedd yn rhoi teimlad uniongyrchol, personol ac arsylwadol i'w waith. Mae ei ffotograffau'n llawn lloriau dawnsio gorlawn, colur dramatig, teilwra wedi'i ysbrydoli gan y fyddin, ystumiau theatrig, steilio rhyweddhylifol, ac egni arbrofol diwylliant ysgol gelf Llundain. Yn hytrach na thynnu lluniau o wisgoedd yn unig, dogfennodd Sykes sut yr oedd pobl ifanc yn defnyddio ffasiwn a pherfformiad i ailddyfeisio eu hunain a dianc rhag cyfyngiadau bywyd bob dydd.

Stephen Jones the milliner dancing with Jayne Chilkes. He is wearing "... my father’s suit, but he certainly didn’t wear it with cream gloves, a cream beret and a pussy cat bow" (c) Homer Sykes
Un o agweddau mwyaf trawiadol ffotograffau Sykes o’r Blitz yw pa mor amrwd a naturiol y mae'n dal i edrych. Roedd cynrychioliadau diweddarach o'r mudiad Rhamantaidd Newydd yn aml yn gaboledig, yn fasnachol, ac yr oedd ganddynt gysylltiad cryf â'r diwydiant ffasiwn, ond gwnaeth Sykes dynnu lluniau o’r diwylliant cyn y trawsnewidiad hwnnw. Mae ei ffotograffau'n dal awyrgylch y Blitz pan oedd grŵp cymharol fach o bobl yn dod at ei gilydd yn wythnosol a oedd wedi’i lywio gan greadigrwydd, ffantasi, a hunanfynegiant yn hytrach nag enwogrwydd. Roedd llawer o'r dillad yr oedd unigolion a oedd yn mynd i’r clwb yn eu gwisgo wedi'u gwneud â llaw neu wedi'u haddasu o hen wisgoedd milwrol, gwisgoedd hanesyddol, hudoliaeth Hollywood, ffuglen wyddonol, cabaret, ac androgynedd wedi'i ysbrydoli gan Bowie. Mae'r ffotograffau'n dangos cenhedlaeth yn trin bywyd nos fel modd o gelfyddyd perfformio.
Mae ffotograffau Sykes o’r Blitz a Heaven yn cyd-fynd yn naturiol â'i gorff ehangach o waith dogfennol, sy'n aml yn archwilio isddiwylliannau Prydeinig, defodau cyhoeddus, a'r ffyrdd y mae pobl yn cyfleu hunaniaeth trwy ddillad a sut maen nhw’n edrych. Mae ei waith yn dangos ffasiwn y cyfnod yn ogystal â’r awyrgylch cymdeithasol o'i gwmpas: y cyffro y tu allan i glybiau, natur theatraidd ynghlwm â chael mynediad i fannau preifat, a'r ymdeimlad y gallai bywyd nos fod yn llwyfan ar gyfer ailddyfeisio pwy ydyn nhw.

New Romantics at Heaven Nightclub, 1980 (c) Homer Sykes
Daeth clwb y Blitz ei hun yn fan geni symbolaidd i'r “Blitz Kids” a'r mudiad Rhamantaidd Newydd ehangach. Roedd wedi’i leoli yn Covent Garden ac yn cael ei redeg gan Steve Strange, prif leisydd y band Visage, ochr yn ochr â'r DJ Rusty Egan, a datblygodd y clwb enw da yn gyflym am ei natur ddethol ac am ei steil fawreddog. Cyn Blitz, roedd Strange ac Egan wedi trefnu nosweithiau wedi'u hysbrydoli gan gerddoriaeth Bowie a Roxy yn Billy’s yn Soho, gan ddenu pobl ifanc greadigol â diddordeb mewn ffasiwn, cerddoriaeth ac arbrofi. Datblygodd Blitz yr awyrgylch hwnnw i rywbeth hyd yn oed yn fwy arddullaidd a theatrig. Roedd mynediad i'r clwb yn dibynnu'n fawr ar eich golwg, gwreiddioldeb ac agwedd. Roedd Steve Strange yn enwog am wrthod pobl wrth y drws (gan gynnwys Mick Jagger) os na fydden nhw’n bodloni safonau esthetig y clwb, gan atgyfnerthu'r syniad y gellid curadu hunaniaeth ei hun fel perfformiad.

The Blitz Club: (L-R) Christos Tolera, Barry (The Rat) Bryan, Stephen Linard, Steve Strange. (c) Homer Sykes
Ychwanegodd cefndir Steve Strange haen arall at fytholeg y mudiad. Cafodd ei eni yn Nhrecelyn yng Nghaerffili a'i fagu'n rhannol yn y Rhyl a Phorthcawl, symudodd i Lundain yn bymtheg oed gan ymdrochi yn niwylliant pync newydd y ddinas a’r diwylliant wedi hynny. Daeth Strange yn un o ffigyrau mwyaf amlwg y cyfnod wrth iddo gyflwyno synnwyr unigryw o ddrama a chreadigrwydd Cymreig. Ochr yn ochr â setiau DJ electronig ac Ewropeaidd Rusty Egan, creodd Blitz amgylchedd a oedd yn cyfuno hudoliaeth, dyfodolaeth, hiraeth a dihangfa.
Roedd mudiad y Blitz yn canolbwyntio ar hunanddyfeisio radical. Ffasiwn hanesyddol a dyfodolaidd yn gymysgedd â cherddoriaeth electronig wedi’i greu’n bennaf gan ddefnyddio syntheseisydd, mynegiant rhyweddhylifol, rhamantiaeth, a gormodedd theatrig. I lawer o bobl ifanc, yr oedd y Blitz yn cynnig dihangfa o realiti cymdeithasol ac economaidd llwm Prydain ddiwedd y 1970au, a oedd yn cael ei nodi gan ddiweithdra, dirywiad trefol, streiciau a thensiwn gwleidyddol. Tra bod y diwylliant pync yn mynegi dicter a gwrthdaro, ymatebodd y Rhamantiaid Newydd â ffantasi, ceinder a newid llwyr. Daeth y clwb yn rhywle y gellid ail-lunio hunaniaeth yn llwyr trwy ddillad, colur, cerddoriaeth a pherfformiad.

The Blitz Club: Steve Strange, Boy George and friend Wilf Rogers.(behind George) The end of the evening, counting out money. (c) Homer Sykes
Roedd y “Blitz Kids” yn cynnwys sêr y dyfodol a phobl greadigol dylanwadol fel Boy George, aelodau o Spandau Ballet a Visage, yr hetiwr Stephen Jones, a’r steilydd, y Dywysoges Julia. Byddai llawer o unigolion a aeth i’r Blitz yn llunio cerddoriaeth, ffasiwn, steilio, diwylliant cylchgronau a bywyd nos yn ddiweddarach drwy gydol yr 1980au. Dylanwadodd y mudiad hefyd ar ddiwylliant gweledol poblogaidd, yn enwedig mewn fideos cerddoriaeth, erthyglau golygyddol mewn cylchgronau, a chynnydd estheteg synth-pop.

Blitz Kids New Romantics Julia Fodor Princess Julia with Blitz Club Space Cadets dancing the night away (c) Homer Sykes
Er bod Heaven yn aml yn gysylltiedig â'r un cyfnod, yr oedd ei berthynas â'r “Blitz Kids” a'r mudiad Rhamantaidd Newydd yn fwy anuniongyrchol na chanolog. Yr hyn a oedd yn cysylltu Heaven â'r byd hwnnw oedd y gorgyffyrddiad ehangach rhwng bywyd nos cwiar, ffasiwn avant-garde, cerddoriaeth synth-pop, a diwylliant clybiau arbrofol yn Llundain ddiwedd y 1970au a dechrau'r 1980au. Symudodd llawer o artistiaid, cerddorion, perfformwyr, ac unigolion a oedd yn mynd i glybiau yn hwylus rhwng lleoliadau fel Blitz, Heaven, The Embassy, Billy’s, ac yn ddiweddarach clybiau fel Taboo a Batcave. Gyda'i gilydd, ffurfiodd y mannau hyn ecosystem greadigol gydgysylltiedig lle’r oedd cerddoriaeth, rhywioldeb, ffasiwn a pherfformiad yn dylanwadu ar ei gilydd yn barhaus.
Agorodd Heaven ym 1979 o dan fwâu gorsaf Charing Cross a daeth yn un o glybiau hoyw mawr cyntaf Prydain yn gyflym iawn ar adeg pan oedd llawer o leoliadau cwiar yn dal i fod yn gudd, dan ddaear, neu ar y cyrion. Yn wahanol i glwb y Blitz, a roddodd bwyslais mawr ar ddarparu ar gyfer mwynhad pobl ddethol a theatredd gweledol, daeth Heaven yn adnabyddus am ei raddfa, pa mor agored ydoedd, a'i bwysigrwydd i fywyd nos LHDTC+. Gwnaeth helpu i ddod â diwylliant clybiau cwiar ymhellach i'r brif ffrwd ac yn ddiweddarach daeth yn ddylanwadol iawn yn natblygiad cerddoriaeth house, diwylliant rave, techno, a cherddoriaeth ddawns fasnachol ym Mhrydain.

Girl on left is Lorraine from the dance troupe Spoonoch. Girl with black bob hairstyle is Wendy May who was Billy Idol's girlfriend in the band Chelsea. (c) Homer Sykes
Yn ddiwylliannol, daeth y mudiad Rhamantaidd Newydd i'r amlwg yn rhannol fel ymateb i ddigalondid a chyni ym Mhrydain ddiwedd y 1970au. Roedd clwb y Blitz a chlybiau cysylltiedig yn cofleidio hudoliaeth, dihangdod, ffantasi ac arbrofi artistig yn lle hynny. Lledodd eu dylanwad ymhell y tu hwnt i fywyd nos, gan lunio cerddoriaeth synth-pop, ffasiwn yr 1980au, mynegiant rhywedd, delweddau mewn cylchgronau, a diwylliant clybiau rhyngwladol. Roedd hyd yn oed David Bowie yn cydnabod arwyddocâd y mudiad, gan gastio aelodau rheolaidd clwb y Blitz yn y fideo ar gyfer “Ashes to Ashes”, gan anfarwoli’r mudiad yn y diwylliant poblogaidd yn effeithiol.

Heaven Nightclub, Charing Cross, London (c) Homer Sykes
Gyda'i gilydd, trawsnewidiodd Blitz a Heaven fywyd nos yn rhywbeth llawer mwy arwyddocaol na diddanu yn unig. Daeth y clybiau hyn yn fannau lle’r oedd ffasiwn, cerddoriaeth, rhywioldeb, hunaniaeth a pherfformiad yn uno i greu diwylliant newydd. Gwnaethon nhw helpu i ailddiffinio beth allai clwb nos fod: nid lle i ddawnsio yn unig, ond amgylchedd creadigol lle gellid creu hunaniaethau, estheteg a thueddiadau artistig.