10/10/2026 15:00:00
- Date(s)
- 10/10/2026
- Cyswllt
- Talk Photo
- Registration URL
- https://theatrcolwyn.ticketsolve.com/ticketbooth/shows/1173676616
- Disgrifiad
Talk Photo: Archwilio Ffyrdd Eraill o Adrodd Straeon Gweledol
Harry Hall
Er mwyn nodi agor arddangosfa Gwobrau Ffotograffiaeth Ddogfennol y Royal Photographic Society, rydym yn falch iawn o groesawu Harry Hall, FRPS, cadeirydd Grŵp Dogfennol y gymdeithas ar gyfer digwyddiad arbennig Talk Photo. Bydd Harry yn rhannu ei brofiad o ffotograffiaeth ddogfennol ac yn cynnig ei wybodaeth am y genre.

Dyddiad: Dydd Sadwrn 10th Hydref
Amser: 3pm (drysau ar agor 2.30pm)
Lleoliad: I fyny'r grisiau yn Oriel Colwyn
Dechreuodd Harry dynnu lluniau pan oedd ar daith mynydda. Wedi’i swyno gan fywyd mewn pentrefi diarffordd, dechreuodd gofnodi’r diwylliannau a’r cymunedau y daeth ar eu traws mewn ardaloedd anghysbell. Arweiniodd y diddordeb hwn at astudio MA mewn Ffotograffiaeth Ddogfennol Gyfoes, ac yna PhD mewn Ethnograffeg Weledol.
Mae ei brosiectau ffotograffig wedi archwilio trefoli cymunedau nomadig, llwybrau masnach hynafol a’r fasnach Dhow ar draws Cefnfor yr India. Yn fwy diweddar, mae wedi ymgymryd â nifer o brosiectau’n canolbwyntio ar sefydliadau trydydd sector, yn cynnwys banciau bwyd, Byddin yr Iachawdwriaeth, Bugeiliaid y Stryd a Recyk y’Bike.

From the series: Nomad (c) Harry Hall
Yn 2019, ymunodd Harry â’r Pwyllgor Grŵp Dogfennol, ble roedd ganddo rôl allweddol i ddatblygu’r arddangosfa deithiol Gwobrau Dogfennol. Yn gynharach eleni, cafodd ei ethol yn Gadeirydd y Grŵp Dogfennol.
Sgwrs Harry
Archwilio Ffyrdd Eraill o Adrodd Straeon Gweledol
Gan dynnu ar enghreifftiau gan enillwyr blaenorol y Gwobrau Ffotograffiaeth Ddogfennol ynghyd â’i brosiectau ei hun, bydd Harry yn archwilio materion a dulliau cyfoes mewn ffotograffiaeth ddogfennol.
Bydd yn ystyried y strategaethau gweledol amrywiol y mae ffotograffwyr yn eu defnyddio i ymchwilio i straeon, cymunedau a materion cymdeithasol a sut gall dulliau amgen siapio’r ffordd y mae naratif dogfennol yn cael ei greu a’i gyfathrebu.

From the series: Dark Spaces (c) Harry Hall
Mae
TALK PHOTO yn ddigwyddiad cymdeithasol gyda’r nos a gynhelir yn rheolaidd yn Oriel Colwyn, lle mae siaradwyr gwadd yma
YN BERSONOL i rannu cyflwyniadau a chipolwg i’w gwaith neu brosiectau, gyda chynulleidfa gyfeillgar, fach.
Mae tocynnau cynulleidfa ar gael ar sail cyntaf i’r felin.
Os ydych yn gallu rhoi cyfraniad tuag at y sgyrsiau, yna dewiswch opsiwn cyfrannu, os gwelwch yn dda – bydd hyn o gymorth uniongyrchol i Oriel Colwyn a pharhad y digwyddiadau hyn yn y dyfodol.
Os yw’n well gennych beidio â rhoi cyfraniad, dewiswch yr opsiwn am docyn AM DDIM.
Gan nad oes llawer o le, byddwn yn cyfyngu nifer y bobl yn y gynulleidfa i 30, ac rydym yn falch o gynnig opsiwn
AM DDIM
er mwyn cael gwared ag unrhyw rwystrau ariannol rhag bod yn bresennol.