Mohamed Hassan

GWEITHDY

16 Awst, 2026, 11am

Date(s)
16/08/2026
Cyswllt
GWEITHDY
Registration URL
https://theatrcolwyn.ticketsolve.com/ticketbooth/shows/1173675915
Disgrifiad
Mo

Hysbyseb gweithdy

Date: Dydd Sul 16 Awst

Amser: 11am - 3pm

Cost: £25 y pen

Lleoliad: Cyfarfod yn Oriel Colwyn


Ymchwiliad Ffotograffig o Fae Colwyn gyda Mohamed Hassan

Ymunwch â’r ffotograffydd Mohamed Hassan am ddiwrnod o anturio ffotograffig, yn darganfod tirluniau, trefluniau a thraethluniau Bae Colwyn trwy bersbectif newydd.

Dyma weithdy sy’n addas i rai o bob lefel ac mae wedi’i gynllunio ar gyfer unrhyw un sydd eisiau datblygu eu ffotograffiaeth, p’un a ydynt newydd ddechrau neu’n adeiladu ar brofiad blaenorol. Trwy drafod, gwneud ymarferion a thynnu lluniau dan arweiniad, fe fyddwch yn dysgu technegau a dulliau i’w defnyddio yn eich gwaith eich hun.

Mae’r gweithdy’n dechrau am 11am yn yr oriel, lle byddwn ni’n edrych ar adrodd straeon yn weledol, trefnu lluniau a defnyddio golau a chyfansoddiad yn greadigol. Byddwn wedyn yn cychwyn ar droed i dynnu lluniau o Fae Colwyn, gan gymryd amser i sylwi ac ymateb i newidiadau o’n hamgylch.

Er bod y diwrnod yn canolbwyntio ar y dref a’i thirluniau, os bydd cyfle a bod pobl yn fodlon i ni wneud hynny, byddwn hefyd yn edrych ar dynnu lluniau o bobl yn y mannau hyn.

Byddwn wedyn yn dychwelyd i’r oriel i weld a thrafod ffotograffau’r diwrnod fel grŵp. Mae croeso mawr i rai sy’n tynnu lluniau ar ffilm, er na fydd y lluniau ar gael i’w rhannu yn ystod y sesiwn – byddem wrth ein boddau’n eu gweld ar ôl iddynt gael eu datblygu.

Dim ond lle i 10 o bobl sydd ar y gweithdy.

Bydd yn cael ei gynnal boed glaw neu hindda, felly cofiwch wisgo’n addas ar gyfer y tywydd. Bydd angen i chi ddod â´ch camera neu’ch ffôn clyfar eich hun.

Mae cyfraniad o £25 yn sicrhau eich lle ac yn mynd yn uniongyrchol at gynnal y gweithdy.

CAEL TOCYNNAU

TANYSGRIFIO

Cofrestrwch gyda’ch cyfeiriad e-bost i gael y newyddion diweddaraf.

Caniatâd Marchnata

Bydd Oriel Colwyn yn defnyddio'r wybodaeth a roddwch ar y ffurflen hon i gysylltu â chi ac i ddarparu diweddariadau a marchnata. Cadarnhewch yr hoffech glywed gennym trwy e-bost trwy dicio'r blwch isod:

Gallwch newid eich meddwl unrhyw bryd drwy glicio ar y ddolen dad-danysgrifio yn nhroedyn unrhyw e-bost a gewch gennym, neu drwy gysylltu â ni yn curator@orielcolwyn.org. Byddwn yn trin eich gwybodaeth â pharch. I gael rhagor o wybodaeth am ein harferion preifatrwydd, ewch i'n gwefan. Drwy glicio isod, rydych yn cytuno y gallwn brosesu eich gwybodaeth yn unol â'r telerau hyn.

Rydym yn defnyddio Mailchimp fel ein platfform marchnata. Trwy glicio isod i danysgrifio, rydych yn cydnabod y bydd eich gwybodaeth yn cael ei throsglwyddo i Mailchimp i'w phrosesu. Dysgu rhagor am arferion preifatrwydd Mailchimp.

Intuit Mailchimp