EICH CYMRU CHI?
GALWAD AGORED - Byddwch yn rhan o arddangosfa ffotograffiaeth newydd yn Oriel Colwyn.
Rydym yn rhoi arddangosfa newydd ynghyd i ddathlu’r nifer o wahanol ffyrdd y gall Cymru gael ei gweld, ei phrofi a’i deall.
I ddechrau, rydym wedi dewis ychydig o luniau gan rhai o’n ffrindiau - ffotograffau sy’n cipio rhywbeth o’u perthynas eu hunain gyda Chymru. Rŵan rydym eisiau ei ehangu a gweld sut mae Cymru’n edrych trwy eich llygaid chi.

Wales. Llandudno. Bank Holiday 2013. (c) Martin Parr/Magnum Photos
Beth mae Cymru’n ei olygu i chi?
Beth mae cymuned Cymraeg yn ei olygu i chi?
Sut mae’n teimlo, edrych neu olygu i gael cysylltiad â’r man hwn?

Loggerheads Clifftop, Towards Moel Famau, 2010. (c) Tom Wood
Does dim angen i chi fod yn Gymraeg. Does dim angen i chi fyw yng Nghymru.
Efallai cawsoch eich geni yng Nghymru ond yn byw dramor. Efallai eich bod wedi byw yma trwy gydol eich bywyd. Efallai eich bod wedi symud yma, yn ymweld yn aml, gyda theulu yma, ymweld ar eich gwyliau, neu’n syml bod gennych gysylltiad i Gymru sy’n anodd ei roi mewn geiriau.
Mae gennym ni ddiddordeb ym mhopeth.
Rydym yn chwilio am ffotograffau sy’n dweud rhywbeth am eich Cymru chi - wedi’i greu yng Nghymru, neu archwilio eich cysylltiad gyda Chymru, ei phobl, llefydd a chymunedau.

Tintern Fete. 2026 (c) David Hurn
Gall fod yn dirlun, portread, golygfa o stryd, eiliad teuluol, manylion bob dydd, rhywbeth annisgwyl, rhywbeth cyfarwydd, neu’n syml rhywbeth sy’n cipio teimlad neu eich profiad o Gymru a’r gymuned Gymreig.
Nid oes cyfyngiadau o ran arddull na dull. Rydym ni eisiau gweld eich safbwynt chi o Gymru a Chymreictod.

Porthcawl, Wales. July 2023 (c) Niall McDiarmid
AM DDIM I GYMRYD RHAN
Cyflwynwch hyd at 2 ddelwedd i’w hystyried.
Gall eich delweddau fod yn gysylltiedig fel rhan o gyfres, neu’n gwbl ar wahân fel ffotograffau unigol.
Gofynion Delwedd
-
Rhaid i’r delweddau fod yn addas ar gyfer argraffu hyd at faint A3.
-
Yn ddelfrydol, dylai ffeiliau gael eu cyflwyno ar 300dpi.
-
Cyflwynwch y fersiwn ansawdd uchaf sydd ar gael o’ch delwedd (cyfyngiad o 10mb ar gyfer bob ffeil)
Dywedwch Fwy Wrthym Ni
Ynghyd â’ch ffotograff, hoffem wybod ychydig mwy amdanoch chi a’r ddelwedd rydych wedi’i gyflwyno. Dylech gynnwys:
- Eich enw - yr enw hoffech gael ei gynnwys o dan eich ffotograff os caiff ei ddewis.
- Teitl - rhowch deitl i’ch ffotograff os ydych yn dymuno. Os nad, gallwn nodi Dideitl.
- Gwybodaeth am eich ffotograff - disgrifiad neu eglurhad byr o’ch delwedd, ac os hoffech, rhywbeth am y stori neu’r cysylltiad y tu ôl iddo. Cadwch hwn yn 100 gair neu lai.
- Dolenni ychwanegol - os hoffech i bobl ddarganfod mwy o’ch gwaith, gallwch gynnwys dolenni i’ch cyfryngau cymdeithasol a/neu wefan.
Agobred i Baw
Yn agored i ffotograffwyr o bob oed, lefel sgil a gallu. Gall ffotograffau gael eu cymryd gan ddefnyddio unrhyw fath o gamera neu gamera ffôn.
Gwaith Eich Hun
Rhaid i’r holl ddelweddau fod yn waith y ffotograffydd sy’n eu cyflwyno.
Delweddau Cyfansawdd a Deallusrwydd Artiffisial
Caniateir delweddau cyfansawdd, os yw’r holl ddelweddau cyfansawdd yn waith y ffotograffydd.
Rhaid i holl ffotograffau gael eu tynnu gyda chamera neu gamera ffôn ac ni ddylent gael eu creu gan ddefnyddio rhaglenni deallusrwydd artiffisial.
Nid ydym yn annog cyflwyno delweddau sydd wedi’u haddasu’n drwm gyda deallusrwydd artiffisial. Fodd bynnag, mae defnyddio offer deallusrwydd artiffisial fel rhan o’r broses olygu gyffredinol yn dderbyniol os y defnyddir yn rhesymol ac i wella yn hytrach na chreu y ffotograff.
Cofrestriadau Lluosog
Ni dderbynnir cofrestriadau lluosog, a chaiff unrhyw beth y tu hwnt i'ch dau gyflwyniad delwedd cyntaf eu heithrio.
Byddwn ni’n argraffu’r delweddau sy’n cael eu dewis heb unrhyw gost i chi, a byddent yn cael eu harddangos yn yr oriel yn Oriel Colwyn trwy gydol fis Rhagfyr a mis Ionawr. Bydd y gwaith sy’n cael eu dewis hefyd yn cael eu rhannu ar-lein trwy ein rhwydweithiau cymdeithasol er mwyn rhoi cymaint o sylw â phosibl iddynt.
RAFFL GUDD
Ar ddiwedd yr arddangosfa, bydd y ffotograffau ar gael i fynd adref am £10 yr un trwy raffl gudd ddewisol.
Ni fyddwch chi’n dewis ffotograff neu ddelwedd benodol. Yn hytrach, byddwch yn cymryd siawns a chael ffotograff wedi ei ddyrannu i chi ar hap o’r arddangosfa.
Nid yw’n ofynnol i chi gymryd rhan yn y raffl gudd fel rhan o’r alwad agored… ond os caiff eich delwedd ei ddewis, byddwn yn cysylltu â chi a byddwch yn cael y dewis i brynu tocyn am bob delwedd a ddewisir. Bydd unrhyw docynnau sydd heb eu hawlio yn cael eu cynnig i’r cyhoedd ac ymwelwyr yr arddangosfa.
Trwy gyflwyno eich gwaith, rydych yn cytuno y bydd eich delwedd(au) yn cael eu cynnwys yn awtomatig fel rhan o’r raffl gudd hon os cânt eu dewis.
Mae’r raffl gudd yn fwy na gwneud ffotograffau’n fforddiadwy yn unig. Mae’n ffordd o greu cysylltiadau rhwng ffotograffwyr a chynulleidfaoedd trwy siawns. Efallai y byddwch yn darganfod ffotograffydd nad ydych erioed wedi clywed amdanynt o’r blaen, neu’n ennill delwedd sy’n cysylltu â chi’n annisgwyl, neu efallai y byddwch yn ennill ffotograff gan rywun na fyddech erioed wedi gweld eu gwaith fel arall.
Mae’r ffi fechan o £10 ar gyfer cyfranogi yn y raffl, yn ein helpu ni i adennill ychydig o’r costau o argraffu a chynnal yr arddangosfa, wrth ei gwneud yn bosibl i fwy o bobl ddod yn berchen ffotograff unigryw o’r sioe.
-
Rydych yn cyflwyno ffotograff.
-
Mae’n cael ei ddewis ar gyfer yr arddangosfa.
-
Mae rhywun yn cymryd siawns arno.
-
Mae ffotograff yn cael cartref newydd, a rhywle ar hyd y ffordd, mae dau ffotograffydd - dau ddieithryn - yn cysylltu.
Ac yn y broses, gobeithiwn y bydd cysylltiadau newydd yn cael eu creu.

Offa's Dyke (c) McCoy Wynne
Rydym eisiau dod a chasgliad o ffotograffau ynghyd sy’n dangos nifer o wahanol wynebau, llefydd a safbwyntiau o Gymru - gan greu portread cyfunol a wneir gan y bobl sy’n ei weld, ei brofi ac yn cysylltu.
Os yw Cymru’n gartref i chi, yn rhywle rydych yn dychwelyd, rhywle yr ydych newydd ei ddarganfod, neu’n rhywle rydych yn teimlo cysylltiad o bell…
EICH CYMRU CHI?
GALWAD AGORED - AR AGOR RŴAN
CEISIADAU’N CAU 23:59, DYDD SUL, 8 TACHWEDD
CYFLWYNWCH EICH GWAITH YMA
*Y print bach…
Trwy gyflwyno eich cais i ‘Eich Cymru Chi - Galwad Agored’, rydych yn rhoi caniatâd i’ch delweddau gael eu defnyddio gan Oriel Cymru ar gyfer dibenion arddangos, ar y cyd â hysbysebu/cysylltiadau cyhoeddus ategol a chodi arian (mewn print ac ar-lein). Ni ellir darparu taliad am y defnydd hwn. Bydd y ffotograffydd yn derbyn credyd llawn.