** Sioe oddi ar y safle **
- Venue Cymru, Llandudno
(Ebrill 2023 ymlaen)
Mae ‘Dyma Fi’ yn gydweithrediad rhwng Oriel Colwyn a Chartrefi Conwy.
Mae partneriaeth greadigol y prosiect wedi cael ei roi ar y rhestr fer ar gyfer Gwobr Celfyddydau a Busnes Cymru 2023.
Fel rhan o’r prosiect ‘Dyma Fi’, daeth tenantiaid Cartrefi Conwy yn enwogion am y diwrnod.
Daeth y syniad am y prosiect gan Paul Sampson, Curadur Oriel Colwyn. Mewn partneriaeth â Nerys Veldhuizen, cyn Gydlynydd Ymgysylltu â Phobl Hŷn Cartrefi Conwy, eu gweledigaeth oedd rhoi cyfle i’r tenantiaid hŷn serennu ac adrodd eu hanesion.
Tynnwyd lluniau’r cyfranogwyr yn eu cartrefi eu hunain gan y ffotograffydd portreadau enwog, Niall McDiarmid. Nid ffotograffau yn unig yw’r portreadau hyn, ond rhan o stori bob tenant. Tynnwyd ffotograffau hefyd o eitemau a oedd yn werthfawr i bob un o’r tenantiaid, a chasglwyd eu hanesion a’u sgyrsiau gan yr awdur a’r storïwr lleol, Gillian Brownson. Mae’r delweddau a’r testun yn galluogi tenantiaid i ddweud eu straeon a rhannu ychydig o’u bywydau gyda chi.

Anne & Little Anne - ©Niall McDiarmid - "Mae tristwch, ond mae pethau gwych yn digwydd. Rydym yn ffrindiau da iawn."
Mae’r portreadau hefyd yn ffurfio rhan o lyfr stori i ddod a’r ffotograffau yn fyw.
Meddai Paul Sampson, Curadur Oriel Colwyn: “Roeddem ni eisiau taflu goleuni ar hanesion bywyd aelodau hŷn y gymuned ac arddangos rhai o’u straeon anhygoel. Y nod oedd amlygu faint maent wedi cyfrannu tuag at y gymuned yr ydym yn bwy ynddo heddiw a faint maent yn parhau i gyfrannu i’r gymdeithas heddiw.”

Tony ©Niall McDiarmid - "Roeddwn yn hapus iawn iawn ac fe wnes i ffrindiau sydd gen i hyd heddiw. Dim ond cant a wnaed, roeddent yn arbennig iawn."
“Fe alwom yr arddangosfa yn Dyma Fi, oherwydd dyma oedd eu cyfle i ddangos pwy oeddent, a dangos beth oedd yn bwysig iddynt.”
Roedd Nerys yn cytuno ei fod yn amser i aelodau hŷn y boblogaeth gael cyfle i fod yn y sbotolau.
Dywedodd: “Yn rhy aml, pan mae pobl yn cyrraedd rhyw oed penodol, maen nhw’n diflannu yn llygaid y bobl ifanc. Mae pobl yn poeni cymaint am eu bywydau a’u gweithgareddau eu hunain nes eu bod yn anghofio bod y genhedlaeth hŷn yn dal i chwarae rôl hanfodol yn ffyniant y gymuned, a bod ganddyn nhw ddiddordebau, hobïau, breuddwydion ac uchelgeisiau o hyd, waeth beth fo’u hoedran.”

Marian - ©Niall McDiarmid - “Cymerais flwyddyn allan. Cymaint o anturiaethau! Dydw i ddim eisiau rhoi mewn, rhaid i mi gael bywyd. Y gyfrinach yw, peidiwch â thyfu i fyny!”
DELWEDDAU A STRAEON LLAWN YMA
Ni fyddai DYMA FI yn bosibl heb gyllid Cam Diwylliant ac rydym yn ddiolchgar iawn i Gelfyddydau a Busnes Cymru am gefnogi’r prosiect.