Creu Cerflun Terry

Ffotograffau gan Paul Cooper

10 Ebrill, 2026 - 31 Gorffennaf, 2026

Date(s)
10/04/2026 - 31/07/2026
Cyswllt
Ffotograffau gan Paul Cooper
Disgrifiad
TJ Cover

ARDDANGOSFA ODDI AR Y SAFLE  – LLYFRGELL COLWYN BAE


Codi’r llen ar greu Cerflun newydd Terry Jones ym Mae Colwyn

- Ffotograffau gan Paul Cooper

 

Does dim angen i ni gyflwyno Terry Jones … ond rhag ofn – fo oedd y Cymro yn Monty Python, y criw comedi hwnnw a oedd yn enwog am i’w ffilm, ‘Life of Brian’, gael ei gwahardd o Aberystwyth. Wedi’i eni ym Mae Colwyn, roedd Terry yn Gymro balch, byth a hefyd yn datgan ei Gymreictod mewn acen yn syth o Surrey.

Roedd Bae Colwyn yn agos iawn at galon Terry. Bu ei rieni a’i nain a’i daid yn perfformio yma, a Terry oedd noddwr cyntaf un Theatr Colwyn. 

Daeth y syniad am gerflun gan ffrindiau Terry yn Theatr Colwyn, lle byddai’n galw’n aml ar gyfer digwyddiadau dangos ffilmiau neu godi arian ym Mae Colwyn. Ar ôl ei farwolaeth ym mis Ionawr 2020 o ganlyniad i ddementia, cysylltodd Theatr Colwyn â Sally a Bill, plant Terry, i ofyn a oedden nhw’n meddwl y byddai comisiynu cerflun o Terry yn syniad da. Roedd y ddau’n meddwl ei fod yn syniad bendigedig a lansiwyd ymgyrch i godi arian, dan law Ymddiriedolaeth Celfyddydau Conwy mewn partneriaeth â theulu Terry, ym mis Awst 2024, gan gyrraedd ei tharged ym mis Chwefror 2025.

Sculptor working with piece.
(c) Paul Cooper

Comisiynwyd yr artist lleol, Nick Elphick, i ddod â cherflun Terry’n fyw. Mae Nick yn weledydd angerddol sydd wedi treulio’r rhan fwyaf o’i yrfa’n astudio’r ffurf ddynol. Mae wedi bod yn destun penawdau di-rif, ac wedi ennill cydnabyddiaeth fyd-eang, am ei ddelwau efydd cywrain. Yn debyg iawn i Terry, mae Nick yn meiddio herio’r traddodiadwyr ac yn codi dau fys arnyn nhw! Er mwyn adlewyrchu bywyd a dreuliwyd yn bod yn wirion, roeddem yn credu y byddai’n addas i Terry gael ei gynrychioli mewn cymeriad.

Sculptor working with piece., surrounded by many other pieces.
(c) Paul Cooper

Meddai cyfaill oes Terry, Michael Palin: “Terry always insisted on doing his own stunts, and I think that sitting stark naked (apart from a tie) on Colwyn Bay promenade, in all weathers, is the ultimate tribute to the lengths he was always prepared to go to for comedy. I hope his wonderfully generous bottom will become an emblem of the town he loved so much.”

Sculptors placing molten metal into a mould.
The Lost Foundry - (c) Paul Cooper

Mae'r cerflun yn cyflwyno Terry fel yr organydd, yn noethlymun groen ar wahân i’w dei’n chwifio a’i wallt gwyllt, yn wên o glust i glust yn ei ystum clasurol. Wrth gerfio’r organ, mae Nick Elphick wedi manteisio ar ryddid artistig i drawsffurfio’r offeryn yn ddesg ysgrifennu i Terry, gan ddod ag amrywiol agweddau ei yrfa amlochrog yn fyw i adlewyrchu’r dyn cyfan, y tu hwnt i’r Python.

Sculptor chipping away material from a metal head.
The Lost Foundry - (c) Paul Cooper

Terry fyddai’r cyntaf i feddwl bod cerflun ohono’i hun yn syniad gwirion, ond yn ddistaw bach, byddai wedi bod yn hynod falch bod tref ei blentyndod wir yn ei dderbyn fel Cymro. 

Sculptors applying the finishing touches to a statue.
The Lost Foundry - (c) Paul Cooper

Mae’r cerflun maint llawn (a ddadorchuddir ddydd Sadwrn 25 Ebrill 2026) yn sefyll ar y Promenâd, nid ar blinth, ond ar y ddaear ymysg y bobl sy’n mynd a dod ar hyd y traeth, er mwyn iddyn nhw gael ysgwyd ei law neu roi braich amdano a chael sgwrs a thynnu llun.

Advertisement poster showing the details in this article.

Roedd Terry wastad yn ddyn hawddgar, agos atoch, felly credwn y byddai wrth ei fodd yn cael bod wrth y traeth a oedd mor annwyl iddo, gartref unwaith eto yn ei dref enedigol.

Sally Jones looking at a sculpted head depicting Terry.
Sally Jones & Terry - (c) Paul Cooper

TANYSGRIFIO

Cofrestrwch gyda’ch cyfeiriad e-bost i gael y newyddion diweddaraf.

Caniatâd Marchnata

Bydd Oriel Colwyn yn defnyddio'r wybodaeth a roddwch ar y ffurflen hon i gysylltu â chi ac i ddarparu diweddariadau a marchnata. Cadarnhewch yr hoffech glywed gennym trwy e-bost trwy dicio'r blwch isod:

Gallwch newid eich meddwl unrhyw bryd drwy glicio ar y ddolen dad-danysgrifio yn nhroedyn unrhyw e-bost a gewch gennym, neu drwy gysylltu â ni yn curator@orielcolwyn.org. Byddwn yn trin eich gwybodaeth â pharch. I gael rhagor o wybodaeth am ein harferion preifatrwydd, ewch i'n gwefan. Drwy glicio isod, rydych yn cytuno y gallwn brosesu eich gwybodaeth yn unol â'r telerau hyn.

Rydym yn defnyddio Mailchimp fel ein platfform marchnata. Trwy glicio isod i danysgrifio, rydych yn cydnabod y bydd eich gwybodaeth yn cael ei throsglwyddo i Mailchimp i'w phrosesu. Dysgu rhagor am arferion preifatrwydd Mailchimp.

Intuit Mailchimp