StreetLife

25 Ebrill, 2012 - 28 Gorffennaf, 2012

Date(s)
25/04/2012 - 28/07/2012
Disgrifiad
SL1

Roedd Street Life yn nodi agoriad swyddogol Oriel Colwyn, gofod oriel newydd sydd wedi’i leoli uwchben Theatr Colwyn ym Mae Colwyn sydd wedi’i adnewyddu’n ddiweddar.

Mae’r arddangosfa yn galluogi i breswylwyr ac ymwelwyr ymgysylltu â’r ardal a chreu eu darn o waith celf cymunedol eu hunain.

Roedd waliau’r oriel wedi’u gorchuddio â map strydoedd ar raddfa fawr a gwahoddwyd pobl i ymweld ac ychwanegu eu ffotograffau 6×4 eu hunain ato.  Roedd y map hwn fel cynfas gwag a thrwy ddefnyddio eu ffotograffau eu hunain, roedd gan yr ymwelwyr y cyfle i’w drawsnewid i’w dehongliad gweledol unigryw eu hunain o’r Bae.  Gall y ffotograffau gynnwys rhywbeth corfforol, fel y pier neu eu tŷ eu hunain er enghraifft, gall hyd yn oed fod yn rhywbeth sy’n gysylltiedig ag atgof neu deimlad am yr ardal.

SL1

Mae’r map yn ymestyn o ymyl Bae Penrhyn i’r chwarel yn Llanddulas ac mae’n cynnwys Llandrillo-yn-Rhos, Bae Colwyn, Hen Golwyn, Ucheldir Colwyn a rhywfaint o Fochdre.

Aeth yr arddangosfa’n fyw ddydd Iau 26 Ebrill ac aeth ymlaen am ychydig dros 3 mis.  Gobeithio y bydd rhannau o’r map yn mynd ymlaen ar daith o gwmpas llyfrgelloedd, ardaloedd cymunedol ac ysgolion amrywiol drwy gydol y flwyddyn. Mae blog rhyngweithiol a phwrpasol Street Life wedi’i archifo yn http://streetlifeproject.wordpress.com/

SL2

Adolygiad gan Stephen Clarke

Wedi’i lansio ar 26 Ebrill, mae Oriel Colwyn yn ofod arddangos newydd ar gyfer celf a ffotograffiaeth sy’n rhan o Theatr Colwyn. Ar gyfer yr arddangosfa agoriadol, o’r enw Street Life, mae’r oriel wedi dewis prosiect cymunedol sy’n gydweithrediad rhwng y trefnwyr ac ymwelwyr cyntaf yr oriel.

Cydweithio oedd ffocws un sesiwn yn Symposiwm Ffotograffiaeth Cenedlaethol Redeye eleni (NPS4). Bu i’r sesiwn gwestiynu “a all cydweithio greu ffyrdd newydd o feddwl, arbed adnoddau a chodi proffil”.  Roedd y siaradwyr yn cynnwys yr Athro Ffotograffiaeth Anna Fox, yr artist a’r ysgrifennwr Anthony Luvera, a’r Cyfarwyddwr Anne McNeill o Impressions Gallery, Bradford.

Aeth Anna Fox i’r afael â’r mater yn ymwneud â ‘ffyrdd newydd o feddwl’. Disgrifiodd Fox y prosiect Travelling Light a gafodd ei ddechrau gan Brifysgol y Celfyddydau Creadigol yn Farnham (UCA) a Sefydliad Cenedlaethol Dylunio, India (NID). Roedd myfyrwyr o bob sefydliad wedi paru â’i gilydd i archwilio themâu yn ymwneud â hunaniaeth a lle.  Mae pobl a lle wrth wraidd Street Life Oriel Colwyn.  Mae curadur yr oriel, Paul Sampson, wedi cynhyrchu map strydoedd o’r ardal sy’n llenwi waliau’r oriel o’r llawr i’r nenfwd.  Gwahoddir ymwelwyr i ychwanegu eu cipluniau eu hunain sy’n gysylltiedig â’r lleoliadau ar y map hwn.   Yn debyg i’r prosiect UCA/NID, bydd Street Life yn datblygu wrth i’r broses o gydweithio ddatblygu, gan benderfynu sut mae’r gymuned hon yn diffinio ei hun.

Yn NPS4, siaradodd Anthony Luvera am ei gyfranogiad â phrosiectau ffotograffig cydweithredol a chymunedol: cafodd ei brosiect ‘Hunan Bortreadau â Chymorth’ a gafodd ei ddatblygu gyda phobl a oedd yn ddigartref ei gynnwys yng nghylchgrawn Source (Haf 2006). Mae ffocws mwy anniddorol Oriel Colwyn ar ymwelwyr a phreswylwyr tref glan y môr, fel prosiect Luvera, yn perthyn i draddodiad o roi cyfle i oddrychau’r ffotograffiaeth gynrychioli eu hunain.  Yn wahanol i fyfyrwyr Fox, a fydd un diwrnod yn ffotograffwyr proffesiynol, ni fydd ffotograffwyr Street Life yn dilyn rheolau gwneud lluniau ac efallai yn ein rhyfeddu ni gyda’r canlyniadau.

Siaradodd Anne McNeill am ŵyl ffotograffiaeth Bradford, Ways of Looking (2011) a’r buddion sy’n gysylltiedig â’r ŵyl hon i broffil y ddinas yn Swydd Efrog.  Yn wahanol i Bradford, nid yw Colwyn yn ganolfan drefol fawr, ond fel llawer o lefydd mae’n dref sydd angen yr egni y gall menter ddiwylliannol newydd ei gynhyrchu.  Yn y cyfnod hwn o fod o dan bwysau’n ariannol, mentrau cyllideb isel fel Oriel Colwyn â’r Third Floor Gallery yng Nghaerdydd, sy’n gallu dechrau’r diddordeb hwn.  

Gyda chyllideb gyfyngedig a brwdfrydedd anhunanol, mae Oriel Colwyn yn enghraifft o’r hyn y gellir ei gyflawni.  Mae Sampson wedi gweithio â sectorau amrywiol o’r gymuned i gysylltu’r arddangosfa â chyfres o weithdai a gweithgareddau ar hanes llafar, treftadaeth a ffotograffiaeth.  

TJ

 

Mae’r bachgen lleol Terry Jones o Monty Python a noddwr Theatr Colwyn wedi cyfrannu’r ffotograff cyntaf – llun o lan y môr o’i blentyndod yng Ngholwyn.  Gobeithio y bydd y dechrau mentrus hwn yn cael ei adeiladu arno a bod y synergedd rhwng ffotograffiaeth a sinema yn cael ei archwilio.  Ochr yn ochr â’r ffilmiau annibynnol, clasurol ac iaith dramor sy’n cael eu dangos yn y sinema, gall hwn fod yn lleoliad i ffotograffiaeth annibynnol ymrwymedig.  - Stephen Clarke

SL al

SLpin

TANYSGRIFIO

Cofrestrwch gyda’ch cyfeiriad e-bost i gael y newyddion diweddaraf.

Caniatâd Marchnata

Bydd Oriel Colwyn yn defnyddio'r wybodaeth a roddwch ar y ffurflen hon i gysylltu â chi ac i ddarparu diweddariadau a marchnata. Cadarnhewch yr hoffech glywed gennym trwy e-bost trwy dicio'r blwch isod:

Gallwch newid eich meddwl unrhyw bryd drwy glicio ar y ddolen dad-danysgrifio yn nhroedyn unrhyw e-bost a gewch gennym, neu drwy gysylltu â ni yn curator@orielcolwyn.org. Byddwn yn trin eich gwybodaeth â pharch. I gael rhagor o wybodaeth am ein harferion preifatrwydd, ewch i'n gwefan. Drwy glicio isod, rydych yn cytuno y gallwn brosesu eich gwybodaeth yn unol â'r telerau hyn.

Rydym yn defnyddio Mailchimp fel ein platfform marchnata. Trwy glicio isod i danysgrifio, rydych yn cydnabod y bydd eich gwybodaeth yn cael ei throsglwyddo i Mailchimp i'w phrosesu. Dysgu rhagor am arferion preifatrwydd Mailchimp.

Intuit Mailchimp