Stars, Stripes and Steam

Stephen Clarke

20 Medi, 2024 - 5 Tachwedd, 2024

Date(s)
20/09/2024 - 05/11/2024
Cyswllt
Stephen Clarke
Disgrifiad
stephen-clarke-stars-stripes-and-steam-1

Mae Efrog Newydd yn un o ddinasoedd pwysicaf y byd. Mae rhai pobl dan y gamargraff mai hi yw prifddinas yr Unol Daleithiau weithiau, ac ni ellir gwadu ei harwyddocâd fel canolbwynt pŵer diwylliannol ac economaidd America. 

stephen-clarke-stars-stripes-and-steam-1

Big Flag © Stephen Clarke

In the mid-1990s, Stephen Clarke visited this city on two occasions; each visit lasting no more than a week. The photographs that he took Yng nghanol y 1990au, aeth Stephen Clarke ar ymweliad â’r ddinas hon ddwywaith; a’r ymweliadau hynny’n para llai nag wythnos yr un. Mae’r ffotograffau a dynnodd yn ystod y cyfnodau byr hyn yn y ddinas yn cynnig cipolwg rhannol wedi’i seilio ar ei brofiad ei hun. 

stephen-clarke-stars-stripes-and-steam-2
Roadworks and Steam © Stephen Clarke

Mae amseriad yr arddangosfa hon yn fwriadol: ar noswyl etholiadau’r Unol Daleithiau 2024, anogir y gwylwyr i fyfyrio ar y gorffennol a bwrw amcan ynglŷn â dyfodol Unol Daleithiau America.

stephen-clarke-stars-stripes-and-steam-3
Nuts About Nuts © Stephen Clarke

Wrth i’r arddangosfa ddod i ben nos Fawrth 5 Tachwedd, sef dyddiad Etholiadau’r Unol Daleithiau, rydym yn eich gadael yn fwriadol heb gyhoeddi canlyniad yr etholiad, gyda chyfeiriad America tua’r dyfodol yn ansicr. 

Drwy ryw fath o gyd-ddigwyddiad, mae yna arwyddocâd i ddyddiad 5 Tachwedd yma yn y DU hefyd.

stephen-clarke-stars-stripes-and-steam-4
Fight Back © Stephen Clarke

Mae Stephen Clarke yn Uwch Ddarlithydd Celf a Dylunio: Astudiaethau Beirniadol a Chyd-destunol ym Mhrifysgol Caer. Astudiodd yng Ngholeg Celf Casnewydd, De Cymru (BA mewn Celfyddyd Gain, 1989) a’r Winchester School of Art, Prifysgol Southampton (MA mewn Celfyddyd Gyfoes a Theori, 1996 ac MA mewn Gwaith Print Celfyddyd Gain, 2004).  

Sylfaen ei waith celf yw’r archif o ffotograffau y mae wedi bod yn eu tynnu ers 1981. Mae ganddo ddiddordeb mewn Topograffeg Newydd a ffotograffiaeth ddogfennol, yn ogystal â chyfosod ffotograffau a chollage. 

Mae ei ffotograffau wedi’u cyhoeddi gan y cyhoeddwyr annibynnol,  Café Royal BooksFistful of Books, ac Out of Place Books.

Stephen Clarke

Taith Arddangosfa Rithwir

TANYSGRIFIO

Cofrestrwch gyda’ch cyfeiriad e-bost i gael y newyddion diweddaraf.

Caniatâd Marchnata

Bydd Oriel Colwyn yn defnyddio'r wybodaeth a roddwch ar y ffurflen hon i gysylltu â chi ac i ddarparu diweddariadau a marchnata. Cadarnhewch yr hoffech glywed gennym trwy e-bost trwy dicio'r blwch isod:

Gallwch newid eich meddwl unrhyw bryd drwy glicio ar y ddolen dad-danysgrifio yn nhroedyn unrhyw e-bost a gewch gennym, neu drwy gysylltu â ni yn curator@orielcolwyn.org. Byddwn yn trin eich gwybodaeth â pharch. I gael rhagor o wybodaeth am ein harferion preifatrwydd, ewch i'n gwefan. Drwy glicio isod, rydych yn cytuno y gallwn brosesu eich gwybodaeth yn unol â'r telerau hyn.

Rydym yn defnyddio Mailchimp fel ein platfform marchnata. Trwy glicio isod i danysgrifio, rydych yn cydnabod y bydd eich gwybodaeth yn cael ei throsglwyddo i Mailchimp i'w phrosesu. Dysgu rhagor am arferion preifatrwydd Mailchimp.

Intuit Mailchimp