Browser does not support script.
Mike McCartney
1 Ebrill, 2014 - 12 Mai, 2014
01/04/2014 00:00:00
Arddangosfa o luniau heb eu cyhoeddi o’r blaen gan y ffotograffydd rhyngwladol o fri, Mike McCartney.
Fe ddaw’r lluniau nodweddiadol o gasgliad helaeth Mike o sêr mawreddog y sîn cerddoriaeth.
Yn eu mysg y mae prif leisydd U2, Bono, yn darllen ei sgript yng ngolau tortsh yn ymyl seremoni wobrwyo’r Brits; llun agos o Sandie Shaw sydd yn edrych wedi blino; ‘Tad Bedydd’ Cerddoriaeth Soul James Brown, tynnwyd y llun ddiwedd 2006 yn un o’r cyngherddau olaf cyn ei farwolaeth ym mis Rhagfyr y flwyddyn honno; portread dwys o ddrymiwr Nirvana Dave Grohl, a Little Richard yn amlwg yn canu nerth ei ben tra’n neidio ar ben piano cyngerdd!
Daeth brawd Paul McCartney i enwogrwydd yn y 1960au a 70au tra’n defnyddio’r enw llwyfan “Mike McGear”, fe ddringodd ei fand The Scaffold i frig y siartiau.
Erbyn heddiw mae o wedi arfer dangos ei astudiaethau ffotograffig mewn sefydliadau mawreddog megis Washington Smithsonian a’r Oriel Bortreadau Genedlaethol. Mae Oriel Colwyn yn falch o ymuno â’r rhestr honno.
Mae’r arddangosfa yn Oriel Colwyn yn cyd-fynd â thaith Mike a’i sioe genedlaethol mewn 30 o leoliadau ym mis Ebrill a mis Mai, yn cynnwys Theatr Colwyn ar 1 Ebrill i gyd-fynd â’r arddangosfa’n agor.
Cofrestrwch gyda’ch cyfeiriad e-bost i gael y newyddion diweddaraf.
Bydd Oriel Colwyn yn defnyddio'r wybodaeth a roddwch ar y ffurflen hon i gysylltu â chi ac i ddarparu diweddariadau a marchnata. Cadarnhewch yr hoffech glywed gennym trwy e-bost trwy dicio'r blwch isod:
Gallwch newid eich meddwl unrhyw bryd drwy glicio ar y ddolen dad-danysgrifio yn nhroedyn unrhyw e-bost a gewch gennym, neu drwy gysylltu â ni yn curator@orielcolwyn.org. Byddwn yn trin eich gwybodaeth â pharch. I gael rhagor o wybodaeth am ein harferion preifatrwydd, ewch i'n gwefan. Drwy glicio isod, rydych yn cytuno y gallwn brosesu eich gwybodaeth yn unol â'r telerau hyn.
Rydym yn defnyddio Mailchimp fel ein platfform marchnata. Trwy glicio isod i danysgrifio, rydych yn cydnabod y bydd eich gwybodaeth yn cael ei throsglwyddo i Mailchimp i'w phrosesu. Dysgu rhagor am arferion preifatrwydd Mailchimp.