Off the Beaten Track: Cipolwg ar Fywyd Cymunedol Effaith Isel
Bydd llawer ohonom wedi dychmygu sut beth fyddai ffordd o fyw symlach. Efallai ein bod yn dychmygu mân-ddaliad gydag ieir a gwely llysiau, neu adeiladu a byw mewn tŷ economaidd wedi’i adeiladu o ddeunyddiau a ailddefnyddiwyd sy’n ynni effeithlon. Mae’n hawdd rhamantu bywyd cytûn gyda natur, ond beth yw’r realiti mewn gwirionedd?
Mae’r ffotograffwyr Jonathan Goldberg ac Amanda Jackson wedi treulio misoedd yn annibynnol, yn dogfennu bywyd bob dydd mewn dwy gymuned sydd wedi datblygu o amgylch bywyd cynaliadwy: Jackson ym mhentref economaidd Lammas yng Ngogledd Sir Benfro, Cymru, a Goldberg yn Grow Heathrow ym mhentref Sipson yn Middlesex, ger maes awyr Heathrow.
Wedi’u huno gan eu priod ddyheadau i archwilio, dangos a dathlu ffordd o fyw cymunedol effaith isel yn y DU, penderfynodd Goldberg a Jackson weithio gyda’i gilydd i gynhyrchu’r arddangosfa newydd, Off the Beaten Track yng ngaleri Oriel Colwyn. Yn cael eu harddangos mae printiau o The Runway Stops Here (Grow Heathrow) gan Goldberg a To Build A Home gan Jackson. Nid yn unig y mae’r arddangosfa’n cynnig cipolwg ar sut fywyd sydd yn y cymunedau unigryw hyn, ond mae hefyd yn archwilio’r tebygrwydd a’r gwahaniaethau rhyngddynt. Daeth y ddwy i fodolaeth tua saith neu wyth mlynedd i ffwrdd ac maen nhw'n gartref i bobl sydd wedi troi cefn ar gymuned prif ffrwd; eto mae’r cymunedau wedi datblygu yn eu ffyrdd eu hunain.
Cafodd y safle lle lleolir Grow Heathrow - hen feithrinfeydd planhigion yng Ngorllewin Llundain - ei feddiannu i ddechrau gan brotestwyr amgylcheddol a oedd yn flin gyda chynigion i adeiladu trydedd redfa yn y maes awyr. Y nod oedd creu 'canolbwynt' i drigolion lleol ymgyrchu yn erbyn y bwriad i ddymchwel eu tai, ond mae’r gofod wedi datblygu i fod yn bentref economaidd ynddo’i hun – mae tai wedi cael eu hadeiladu gan ddefnyddio deunyddiau cynaliadwy, mae paneli solar a thyrbin gwynt yn darparu pŵer, ac mae tai gwydr wedi’u hinswleiddio yn ogystal â chyfleusterau coginio.
Daeth Goldberg ar draws y safle yn 2011. Fe’i trawyd gan y croeso cynnes a gafodd gan deimlo ei fod wedi dod ar draws iwtopia. Dechreuodd dynnu lluniau, mewn digwyddiadau i ddechrau, a dros amser dechreuodd ddogfennu bywyd ar y safle yn rheolaidd. Mae ei ddarluniau sensitif yn portreadu bywyd bob dydd y safle a phersonoliaethau’r trigolion, y mae llawer ohonynt wedi aros yno am wythnosau, a rhai am flynyddoedd. Ond nid yw bywyd yn fêl i gyd: dyw’r bygythiad o gael eu troi allan byth yn bell i ffwrdd a gall gaeafau fod yn oer a llwm.
Ymwelodd Jackson â Lammas yn Nhir y Gafel ddwywaith yn 2010 a chafodd y gymuned cymaint o effaith arni fel iddi brynu llain gerllaw, a dechrau rhannu ei hamser rhwng fanno a'i chartref yn Malvern. Dechreuodd dynnu ffotograffau o Lammas, sy’n cynnwys naw mân-ddaliad. Yn ystod ei hymweliad cyntaf, fel Goldberg, llwyddodd i bortreadu rhinweddau cynhenid cymuned o bobl sydd wedi dewis ffordd o fyw cynaliadwy yn seiliedig ar rannu gwerthoedd, oddi wrth seilwaith confensiynol. Gallwn weld y tu mewn i dai clyd, wedi’u gwneud o ddeunyddiau a geir yn bennaf o'r tir, porfeydd gwyrdd hyfryd, a phlant heb ofid yn y byd wedi gwisgo fel tylwythau teg. Mae natur ddigyfnewid ac agosatrwydd yn treiddio yn nelweddau Jackson, ond fel prosiect Goldberg, mae To Build A Home yn gofyn a yw’r ‘freuddwyd’ swynol o fywyd cynaliadwy mor ddelfrydol ag yr ymddengys.
Nid yw’r prosiectau, a’r arddangosfa yn ei chyfanrwydd, yn cynnig unrhyw atebion pendant. Eu bwriad, meddai'r ffotograffwyr, yw dangos sut mae pobl yn y llefydd hyn yn byw - sut beth yw gwrthryfela yn erbyn y brif ffrwd a byw'r bywyd rydych am ei fyw. Mewn amseroedd mor gythryblus, mae rhywbeth cysurus mewn gwybod bod cymunedau fel y rhain, sy’n ffynnu ar ymddiriedaeth a chydlafurio, yn bodoli.

O’r gyfres To Build A Home: © Amanda Jackson

The Runway Stops Here (Grow Heathrow) © Jonathan Goldberg

O’r gyfres To Build A Home: © Amanda Jackson

The Runway Stops Here (Grow Heathrow) © Jonathan Goldberg