Mae Oriel Conwy yn falch o gyflwyno trydedd sioe blwyddyn olaf myfyrwyr ffotograffiaeth HND Coleg Llandrillo.
Bydd pob arddangosfa yn para am wythnos ac yn arddangos ffotograffwyr presennol sy’n dod i’r amlwg.
Mae’r drydedd arddangosfa, a’r olaf, yn cynnwys gwaith tri myfyriwr sy’n graddio, sydd wedi dod at ei gilydd i gynhyrchu sioe ar y cyd.
Mel Tutton
Mae fy ngwaith yn chwareli llechi Gogledd Cymru wedi fy arwain ar daith anhygoel; mae’r dirwedd, sydd wedi cael ei haddasu drwy ymdrech ddynol, yn ysblennydd.
Roedd chwarel Dinorwig uwchben Llanberis yn cael ei hystyried fel y chwarel fwyaf yn y byd ar un adeg, mae crwydro o amgylch Dinorwig yng nghanol y gaeaf yn ysbrydoledig; mae maint y chwarel yn fy syfrdanu.

I mi, mae ffotograffiaeth yn ymwneud â thri pheth;
un, pwnc difyr,
dau, cyfansoddiad da,
a thri, golau ardderchog.
Mae gen i’r ddwy elfen gyntaf o’m cwmpas.
Mae’n ddigon posibl i gael llun ardderchog hyd yn oed os nad yw’r pwnc yn un da, neu os yw’r cyfansoddiad yn wan.
Ond mae’n rhaid i’r golau fod yn berffaith.
Fodd bynnag, os yw’r pwnc yn dda iawn, y cyfansoddiad yn gryf a’r golau yn wael, bydd eich llun yn siŵr o fod yn wael hefyd.
I gael llun ardderchog mae arnoch angen golau ardderchog.
Fel bob amser gyda ffotograffiaeth, yr her fwyaf fydd cael y golau sy’n gweddu fy mhwnc orau.
Golau atmosfferig.
Fy her i oedd chwilio am y golau hwn.