Llandrillo BA Photography Show 2026

In Common Ground

16 Mai, 2026 - 6 Mehefin, 2026

Date(s)
16/05/2026 - 06/06/2026
Cyswllt
In Common Ground
Disgrifiad
BA cover

Bob blwyddyn, mae Oriel Colwyn yn cymryd y cyfle i gefnogi ac arddangos sioe derfynol arddangosfeydd grŵp myfyrwyr sy’n cwblhau cyrsiau FdA a BA (Anrhydedd) mewn Ffotograffiaeth yng Ngholeg Llandrillo.


Ym mis Mai byddwn yn cyflwyno gwaith y myfyrwyr BA i chi:

Mae eu sioe yn dangos y gwahanol genres o ffotograffiaeth sydd o fewn y grŵp, yn ogystal â nodi pwysigrwydd cydweithio i gydlynu arddangosfa ffotograffig ystyrlon.

Digwyddiad agoriadol – dydd Sadwrn, 16 Mai.

Cynhelir yr arddangosfa tan 6 Mehefin.

In Common Ground

Gyda:

Pauline Beacham

“Mae’r corff hwn o waith yn cyflwyno cyfres o ffotograffau o Oradour-sur-Glane, y pentref coffa yn Ffrainc sydd wedi ei gadw yn ei gyflwr adfeiliedig ers i’r trigolion gael eu lladd gan luoedd y Natsïaid ym 1944. Bûm yn ymweld ag Oradour-sur-Glane yn nechrau 2025 gyda’r bwriad o ddogfennu’r ymweliad ac ymateb yn ddiweddarach i’r delweddau hynny wrth i mi fyfyrio ar fy nheimladau ar ôl y daith. Mae’n anodd rywsut meddwl am le fel hyn fel cyfle i dynnu lluniau. Roedd ofn tynnu lluniau anystyriol arnaf. Roeddwn eisiau i’m delweddau fod yn fud a pharchus o’r dioddefaint a ddaeth i ran y gymuned fechan honno ym 1944. Ymddangosai ffotograffiaeth ddigidol yn amhriodol, felly penderfynais weithio gyda ffilm. Meddyliais am y ffotograffau a fyddai wedi cael eu tynnu yno cyn 1939. Plant a theuluoedd, lluniau ysgol, rhywbeth yn y papur newydd lleol, efallai. Fe wawriodd arnaf y dylwn geisio profi’r hyn y gallasai rhywun yn defnyddio camera o’r cyfnod hwn fod wedi ei deimlo ar adeg tynnu llun. Prynais hen gamera plygu 2 a ¼ gyda ffocws parth a ffenestr fach goch ar y tu ôl ar gyfer rhifau fframiau. Roedd yn rhaid i mi ddefnyddio mesurydd golau ac arafu’r broses yn fawr fel bod y cyfrifiadau’n gywir ac ati. Bûm yn gweithio mewn modd tebyg gyda hen gamera 35mm hefyd. Pan oeddwn yno, teimlwn fy mod ar bigau’r drain a bod pob sŵn yn cael ei chwyddo. Bûm yn gweithio’n galed ac yn meddwl am bob llun yr oeddwn yn ei dynnu.”

Delwedd o waliau adfeiliedig
© Pauline Beacham


Sophie Devonshire

“Mae fy arferion presennol yn cylchdroi o gwmpas syniadau o dirwedd a sut beth ydyw i fyw mewn amgylchedd gwledig. O’m cartref ym Melin y Coed, Llanrwst, gallaf weld y lluniau cardiau post o’m cwmpas i gyd, ond dydw i ddim yn byw yn yr olygfa honno. Mae’r byd yn fodern a thechnolegol, ac rwyf i’n rhan ohono. Rwy’n gyrru car, rwy’n defnyddio ffôn clyfar, ac mae gennyf ôl troed digidol.

Dewisais fyw yn y dirwedd anghysbell hon am fy mod yn ei hoffi. Rwy’n hoffi’r aer, y golygfeydd a’r holl bethau amlwg, ond nid llun ydy hyn – teimlad ydyw, ac rwy’n mynd i’r afael â hyn yn fy ngwaith. Sut ydw i’n dod ag ymdeimlad modern o’m bodolaeth i ysblander gweledol ffotograffiaeth tirwedd heb ei orlwytho ag ystrydeb?

Mae fy nghefndir mewn gwyddoniaeth, a bûm yn gweithio am sawl blwyddyn fel dadansoddwr labordy i gwmnïau petrocemegol a’r maes fferyllol. Roeddwn yn edrych ar bethau yn fanwl iawn, yn chwilio am synthesis ac anomaleddau. Rwy’n hoffi gweld pethau fel hyn – yn agos, heb gyd-destun, bron – gyda dim byd y tu hwnt i ymyl y ffrâm lle mae’r chwyddo yn dod i ben.

Weithiau byddaf yn aros, wrth fynd am dro neu yn yr ardd, ac yn edrych ar rywbeth fel hyn: dim cysylltiad â’i amgylchoedd, dim ond craffu ar wrthrych yn ddadansoddol mewn amser. Rwy’n tynnu llun ac yna’n edrych yn ôl ar y byd sydd o’m cwmpas. Mae’n gwneud synnwyr herio’r persbectif weithiau.”


David Mojoros

Naratifau Gweledol 

“Mae’r arddangosfa hon yn gorff o waith sy’n archwilio arwyddocâd gweledol ac emosiynol bywyd pob dydd. Wedi eu gwreiddio mewn dull dogfennol, mae’r delweddau’n canolbwyntio ar adegau cyffredin, amgylcheddau sy’n cael eu hanwybyddu, a phynciau cyfarwydd sy’n amrywio o leoedd domestig a theulu i strydoedd, gwrthrychau, a chyfarfodydd byrhoedlog. Drwy hyn, mae’r gwaith yn herio syniadau traddodiadol o’r hyn sy’n cael ei ystyried yn deilwng o gael tynnu ei lun.

Wedi ei ddylanwadu gan ffotograffwyr fel William Eggleston, Tod Hido, Eugene Meatyard, Alexey Titarenko a Stephen Shore, mae’r prosiect yn defnyddio lliw fel adnodd i ddisgrifio ac i fynegi. Yn hytrach na defnyddio du a gwyn i ddramateiddio neu ymbellhau, defnyddir lliw i gynyddu realaeth a thynnu sylw at fanylion cynnil o fewn y ffrâm. Mae’r gwaith yn mabwysiadu arddull dawel, arsylwadol, sy’n caniatáu i olygfeydd fodoli heb ymyrraeth, gan annog y gwylwyr i arafu ac ailystyried arwyddocâd pethau pob dydd.

Crëir y delweddau drwy gyfuniad o brosesau digidol ac analog, sy’n adlewyrchu diddordeb mewn uniongyrchedd a materoldeb. Mae’r dull deuol hwn yn creu deialog rhwng parhad ac amherffeithrwydd, gan atgyfnerthu themâu cof, amser a phrofiad personol. Mae dilyniant y gwaith yn chwarae rôl allweddol – mae’n datblygu naratif gweledol sy’n adlewyrchu rhythm bywyd pob dydd. Tameidiog, ailadroddus, ond ystyrlon.

Yn y bôn, nid yw’r arddangosfa hon yn ymwneud â digwyddiadau anghyffredin – mae’n ymwneud â sylwi. Rwy’n gwahodd y gwyliwr i fyfyrio ar ei amgylchoedd ei hun a chanfod gwerth mewn adegau na sylwir arnynt fel arall. Drwy ddyrchafu’r cyffredin mae’r gwaith yn cwestiynu sut mae ystyr yn cael ei lunio drwy ffotograffiaeth a sut mae delweddau’n siapio ein dealltwriaeth o realiti.”

delwedd o oleuadau aneglur mewn tirwedd dywyll
© David Mojoros


Tesni Hunter

"Rwyf wedi cael fy amgylchynu gan olygfeydd a thirwedd hyfryd Cymru drwy gydol fy mywyd.  Mae fy ffotograffiaeth felly’n canolbwyntio’n bennaf ar dirweddau. Rwy’n caru’r dirwedd ei hun ac yn teimlo bod ffotograffiaeth yn ffordd dda o gyfleu a chynnal yr ennyd o lonyddwch personol yr wyf yn aml yn ei deimlo yn y lleoliadau hyn.

Crwydro coedwigoedd, ymlwybro drwy geunentydd, neu ddringo bryniau arfordirol yw fy nihangfa.  Dyma’r ffordd orau i ddianc rhag prysurdeb bywyd.  Mae edrych drwy’r camera’n mynd â fi i le hollol wahanol.  Rwyf wrth fy modd â chymhlethdod y jig-so mae’r camera’n ei gynnig, o gofnodi hanfod rhywle i dalu sylw i drefniant darnau a chydnabod y manylion sy’n newid â golau a chysgod. Mae hanes profiadau dynol i’w gweld ym mhobman o’n cwmpas, a mynegwyd hyn dros filoedd o flynyddoedd drwy wahanol ddarluniadau. Drwy fy ffotograffiaeth, roeddwn yn awyddus i fynegi fy angerdd a’m teimladau personol yn y lleoliadau hyn."

Delwedd tirwedd gydag adeiladau, afon a mynyddoedd wedi'u gorchuddio ag eira
© Tesni Hunter

Coleg Llandrillo Logo

TANYSGRIFIO

Cofrestrwch gyda’ch cyfeiriad e-bost i gael y newyddion diweddaraf.

Caniatâd Marchnata

Bydd Oriel Colwyn yn defnyddio'r wybodaeth a roddwch ar y ffurflen hon i gysylltu â chi ac i ddarparu diweddariadau a marchnata. Cadarnhewch yr hoffech glywed gennym trwy e-bost trwy dicio'r blwch isod:

Gallwch newid eich meddwl unrhyw bryd drwy glicio ar y ddolen dad-danysgrifio yn nhroedyn unrhyw e-bost a gewch gennym, neu drwy gysylltu â ni yn curator@orielcolwyn.org. Byddwn yn trin eich gwybodaeth â pharch. I gael rhagor o wybodaeth am ein harferion preifatrwydd, ewch i'n gwefan. Drwy glicio isod, rydych yn cytuno y gallwn brosesu eich gwybodaeth yn unol â'r telerau hyn.

Rydym yn defnyddio Mailchimp fel ein platfform marchnata. Trwy glicio isod i danysgrifio, rydych yn cydnabod y bydd eich gwybodaeth yn cael ei throsglwyddo i Mailchimp i'w phrosesu. Dysgu rhagor am arferion preifatrwydd Mailchimp.

Intuit Mailchimp