Mae Oriel Conwy yn falch o gyflwyno trydedd sioe blwyddyn olaf myfyrwyr ffotograffiaeth HND Coleg Llandrillo.
Bydd pob arddangosfa yn para am wythnos ac yn arddangos ffotograffwyr presennol sy’n dod i’r amlwg.
Mae’r drydedd arddangosfa, a’r olaf, yn cynnwys gwaith tri myfyriwr sy’n graddio, sydd wedi dod at ei gilydd i gynhyrchu sioe ar y cyd.
Lee Hayes
Mae gen i ddiddordeb mewn tirluniau sydd wedi’u haddasu gan law dyn, a chefais fy nhynnu i’r ardal ddiwydiannol ger ffin arfordir gogledd Cymru. Roeddwn yn chwilfrydig i weld sut mae’r tirlun yn newid yn ddramatig o’r amgylchedd gwledig, naturiol i amgylchedd diwydiannol wedi’i addasu gan law dyn wrth i chi ddod yn agosach i ardaloedd mwy trefol.
Wrth i chi yrru i lawr arfordir gogledd Cymru, gallwch weld y newid wrth i chi ddod yn agosach i’r ardaloedd gyda phoblogaeth uchel. Cefais fy magu mewn tref fach yng Nghymru, a chefais fy llethu gan y gorsafoedd pŵer ac adeiladu gweithgynhyrchu mawr, roeddwn yn ei weld yn ddychrynllyd, ond eto’n ddiddorol. Mae wedi fy ysbrydoli i geisio cyfleu neges yn fy ngwaith sy’n dangos effaith negyddol prynwriaeth ar yr amgylchedd a’r gymdeithas ddynol.

Wrth dynnu lluniau, rwy’n ceisio gweld y byd fel fy mod yn gweld popeth â meddwl hollol ffres, meddwl mwy cynhenid a naturiol, gan geisio edrych ar y darlun ehangach, a cheisio rhoi popeth at ei gilydd yn weledol ac yn feddyliol, heb unrhyw gredoau a syniadau am fodolaeth wedi’u rhag-benderfynu.