Laura Morris

Sioe Blwyddyn Olaf

30 Mai, 2014 - 5 Mehefin, 2014

Date(s)
30/05/2014 - 05/06/2014
Cyswllt
Sioe Blwyddyn Olaf
Disgrifiad
Laura (1)

Mae Oriel Colwyn yn falch o gyflwyno yr ail o dair sioe blwyddyn olaf myfyrwyr ffotograffiaeth HND Coleg Llandrillo.

Bydd pob arddangosfa yn para am wythnos ac yn arddangos ffotograffwyr presennol sy’n dod i’r amlwg.

Laura Morris 

Ganed Laura Morris yn nhirweddau hardd Gogledd Cymru ac mae wedi byw yma am y rhan fwyaf o’i hoes ac wedi magu ei theulu yma. Iddi hi does dim yn well na gwisgo pâr o esgidiau cerdded a mynd i grwydro’r mynyddoedd gan archwilio’r dirwedd a dod i adnabod yr ystod eang o gymeriadau sy’n byw yma.

Daw’r bobl sy’n poblogi’r rhanbarth o’r gymuned amaethyddol a daeth y rhan helaeth o’r hyn a’i hysbrydolodd o’r gymuned hon. Mae ymdrechion ffermwyr sy’n gweithio ar y tir ac yn parhau â’r arferion a drosglwyddwyd o genhedlaeth i genhedlaeth yn hynod o bwysig i Laura. Y modd y mae goroesi a diogelu yn cyd-fyw, rhywbeth sydd wedi ei gysylltu’n anorfod gyda ffermio, sy’n ysgogi’r rhan fwyaf o’r ymdrech greadigol a’r ymagwedd ddogfennol tuag at Fywyd Gwledig.

 

Laura (1)

 

Dyma ffynhonnell ei meddylfryd creadigol a’r rheswm y tu ôl i ddogfennu bywyd gwledig. Mae’r ffotograffydd, James Ravilious, a ddogfennodd fywyd gwledig yng Ngogledd Dyfnaint, wedi ysbrydoli Laura i gyflawni’r gwaith mae wedi ei wneud yng Ngogledd Cymru.

“Un o lwyddiannau artistig a dogfennol mawr ffotograffiaeth yn yr 20fed ganrif”. (The Independent). Fel mae llun James Ravilious yn ei ddangos, tirwedd arbennig gyda harddwch cain ei hun.

Bydd yr arddangosfa hon yn mynd â chi ar daith ar draws tirweddau naturiol Gogledd Cymru dros fynyddoedd, trwy bentrefi hardd ac i ffermydd anghysbell a’r bobl. Cafodd llawer o’r lluniau hyn eu tynnu mewn marchnadoedd ffermwyr lleol ac arwerthiannau, sy’n amlwg yn ddigwyddiadau cymdeithasol yn ogystal ag yn rhan hanfodol o fywyd fferm. Roedd y marchnadoedd hyn yn rhoi cyfle i Laura gymryd lluniau gonest, gan gynhyrchu portreadau naturiol a dal bywyd fel mae’n digwydd. Mae’r lluniau yn portreadu ffordd o fyw sy’n galed ond yn rhoi boddhad mewn rhan fach o Ogledd Cymru.

Cawsant eu creu gan ddefnyddio dau gyfrwng gwahanol, digidol a ffilm 35 mm du a gwyn.

TANYSGRIFIO

Cofrestrwch gyda’ch cyfeiriad e-bost i gael y newyddion diweddaraf.

Caniatâd Marchnata

Bydd Oriel Colwyn yn defnyddio'r wybodaeth a roddwch ar y ffurflen hon i gysylltu â chi ac i ddarparu diweddariadau a marchnata. Cadarnhewch yr hoffech glywed gennym trwy e-bost trwy dicio'r blwch isod:

Gallwch newid eich meddwl unrhyw bryd drwy glicio ar y ddolen dad-danysgrifio yn nhroedyn unrhyw e-bost a gewch gennym, neu drwy gysylltu â ni yn curator@orielcolwyn.org. Byddwn yn trin eich gwybodaeth â pharch. I gael rhagor o wybodaeth am ein harferion preifatrwydd, ewch i'n gwefan. Drwy glicio isod, rydych yn cytuno y gallwn brosesu eich gwybodaeth yn unol â'r telerau hyn.

Rydym yn defnyddio Mailchimp fel ein platfform marchnata. Trwy glicio isod i danysgrifio, rydych yn cydnabod y bydd eich gwybodaeth yn cael ei throsglwyddo i Mailchimp i'w phrosesu. Dysgu rhagor am arferion preifatrwydd Mailchimp.

Intuit Mailchimp