
Mae’r arddangosfa hon yn bortread o’r cymunedau Affricanaidd a Charibïaidd yn y DU.
Mae lluniau lliw digidol Glenn Edwards yn canolbwyntio ar y ddegawd ddiwethaf a phrofiadau’r cymunedau Affricanaidd yng Nghymru yn benodol.

Dwbl 4 African Cafe-Casnewydd ©Glenn Edwards.
Mae lluniau ffilm du a gwyn Vanley Burkes yn dal cymunedau Caribïaidd y 1970au-90au yng nghanolbarth Lloegr yn hyfryd, gan bortreadu bywyd personol, cymdeithasol ac economaidd pobl dduon wrth iddynt gyrraedd, setlo a sefydlu yng nghymdeithas Prydain.

Dominos yn The Bulls Head, Lozells Road. 1988 - ©Vanley Burke.
Mae’r arddangosfa’n agor deialog bwysig rhwng dau artist o wahanol gefndiroedd - ffoto-newyddiadurwr o Gymru Glenn Edwards a ffotograffydd Prydeinig o Jamaica Vanley Burke. Denwyd y ddau artist at ei gilydd wrth iddynt geisio adrodd stori cymunedau du Prydeinig.
Mae waliau allanol yr oriel yn arddangos ffotograffau Glenn Edwards o’r 6 mlynedd diwethaf, yn cofnodi amrywiaeth o gymunedau Affricanaidd gwahanol sy’n byw ym mhob cwr o Gymru. Gan ddechrau gyda gwasanaeth bendithio babi newydd-anedig a gorffen gyda ffarwel mab i’w fam mewn gwasanaeth coffa, yr hyn a welwn yn y canol yw cipolwg ar fywydau preifat a chyhoeddus pobl - y diwylliannau gwahanol, yr hunaniaeth ddeuol, y crefyddau, y dathliadau, y gerddoriaeth, y cyflawniadau, y gweithredu dros newid a’r straeon personol sy’n ein clymu at ein gilydd.

Diwrnod Affrica - Rodney Parade, Casnewydd - ©Glenn Edwards.
Mae’r ffoto-newyddiadurwr Glenn Edwards, sydd wedi ennill gwobr ffotograffydd y wasg y flwyddyn wedi teithio’n eang yn tynnu lluniau ar gyfer sefydliadau newyddion cenedlaethol a rhyngwladol yn cynnwys The Times a The Independent. Sefydlodd Olu Oni ac yntau Africa Welsh News, papur newydd ar-lein:
“Ei nod yw rhoi llwyfan i straeon newyddion da o Affrica o safbwynt Cymreig a chreu cyfleoedd a rhannu sgiliau ar gyfer y gymuned Affricanaidd yng Nghymru.”
- GLENN EDWARDS
Dyfarnwyd Cymrodoriaeth er Anrhydedd y Gymdeithas Ffotograffiaeth frenhinol i’r artist a’r ffotograffydd Vanley Burke yn 2021 ac mae wedi arddangos yn eang yn cynnwys yn TATE Prydain.
"Dim ond gallu gweld rhywbeth nad yw eraill yn gallu ei weld o ran gwerth ydi o. Ac yna ei ddangos i bobl. Mae arnynt angen gweld eu cyfraniad i’r gymuned hon. Maen nhw wedi bod yn cyfrannu at y peth yma ers y 50au a thu hwnt, ond does dim cyfeiriad ato. Mae’n ymwneud ag adlewyrchu eu hunain, maen nhw mor awyddus i weld eu hunain. Ond bydd hwn yno, nid yw’n mynd i unman...."
- VANLEY BURKE
