Mae ‘Bwlch-y-Clawdd’, a godwyd yn 1928 yn fwlch mynydd (450m) sy’n cysylltu Cwm Rhondda – yn ne Cymru – gyda’r dref lle ganwyd Dan, ac y mae’n dal i fyw ynddi, sef Pen-y-Bont ar Ogwr. Mae wedi’i gysylltu hefyd â Chwm Afan ar hyd yr A4107, sy’n arwain i’r arfordir a thref ddiwydiannol Port Talbot. Ffordd y Bwlch ei hun yw’r A4061, sy’n ymestyn tua 25 milltir.
Gap in the Hedge - ©Dan Wood
Nid yn unig oedd y bwlch yn linyn cyswllt rhwng y cymoedd, gan gynnig gwell cyfleoedd gwaith i bobl leol, roedd hefyd yn lwybr byr holl-bwysig i ddiwydiannau’r cymoedd; oedd yn ymwneud yn bennaf â glo. Defnyddiodd rhieni Dan y bwlch eu hunain wrth symud i fyw i Ben-y-bont yn 1966; gan ddechrau eu busnes eu hunain yno’n fuan wedyn.
“Wedi’i seilio’n llac ar hiraeth, mae ‘Gap in the Hedge' yn myfyrio ar daith yr arferwn fynd arni gyda fy Mam i ymweld â pherthnasau yng Nghwm Rhondda, bob dydd Sadwrn pan oeddwn yn fachgen bach. Hwn oedd fy mlas cyntaf ar daith ffordd ac rwy'n gallu cofio bron pob modfedd o'r daith. Byddwn yn eistedd yno yn sedd flaen car bach coch fy Mam ac wedi fy ymgolli a’m swyno gan y coedwigoedd, y tai teras a’r arwyddion yn rhybuddio am gerrig yn syrthio. Teimlwn fod y daith yn cymryd am byth, ond doedden ni byth yn mynd ymhellach na 30 munud o gartref.”
Ceisia’r gyfres gofnodi harddwch y darn eiconig hwn o dirlun de Cymru, ac mae hefyd yn archwilio’r berthynas sydd gan bobl - boed yn bobl leol, twristiaid neu'n weithwyr - gyda'r tirlun a'r amgylchedd. Ac yn y bôn, yr hyn sydd i ddod yn y dyfodol ar gyfer y rhan hon o dde Cymru yn dilyn Brexit a’r diwedd ar gyllid Ewropeaidd.
Gap in the Hedge - ©Dan Wood
Mae pentrefi cyfagos Nant-y-moel a Chwmparc - ill dau yn gyn gymunedau glofaol - o boptu i’r mynydd, wedi eu hymgorffori yn y prosiect, gan fod y ddau yn eistedd yng nghysgod ‘Y Bwlch’.
Gap in the Hedge - ©Dan Wood
Dangoswyd Gap in the Hedge am y tro cyntaf ym Mae Colwyn fel rhan o Ŵyl Northern Eye eleni. Rydym yn falch o allu parhau i arddangos y darn hyfryd hwn o waith yn ein prif oriel tan ddiwedd mis Rhagfyr.
Dan Wood
Wedi ei eni yng Nghymru yn 1974, mae Dan Wood wedi dysgu ei hun sut i fod yn ffotograffydd dogfen a phortreadau, a darganfyddodd ffotograffiaeth yn gynnar yn y 90au drwy ei gariad at y diwylliant sglefr-fyrddio.
Mae ei waith wedi ei gynnwys mewn sawl cyhoeddiad gan gynnwys The British Journal of Photography, CCQ Magazine, Ernest Journal a Jungle Magazine.
Mae Dan wedi cymryd rhan mewn mwy na 45 o arddangosfeydd yn genedlaethol ac yn rhyngwladol, gan gynnwys 6 sioe unigol ac yn 2018 cafodd ei gyhoeddi fel un o enillwyr BJP, gwobr Portrait of Britain.
Mae sawl darn o waith wedi’u cynnwys yn y casgliadau parhaol yn MMX Gallery , Llundain a hefyd ystafell brintiau Film's Not Dead , Llundain.
Mae ei lyfrau a phrintiau ‘Suicide Machine’ a ‘Gap in the Hedge’ wedi’u cynnwys yn y casgliad yn Martin Parr Foundation , Bryste.
www.danwoodphoto.com