Dig It

Dean Chalkley

21 Mawrth, 2026 - 9 Mai, 2026

Date(s)
21/03/2026 - 09/05/2026
Cyswllt
Dean Chalkley
Disgrifiad
modernists_701_website_image_2x_hagm_standard

Mae Dean Chalkley (Ganwyd yn 1968 yn Essex, Lloegr, y DU) wedi bod yn cynhyrchu delweddau gweledol cyffrous ar gyffordd cerddoriaeth, ffasiwn a diwylliant ers tri degawd. 

Ar gyfer yr arddangosfa newydd hon, mae curadur Oriel Colwyn wedi bod yn tyrchu drwy waith o archif Dean i greu sioe sy’n dathlu detholiad o’i hen brosiectau unigryw, portreadau cerddorol a’i waith parhaus.


NEWYDDION AM AGORIAD YR ARDDANGOSFA

Mae’r arddangosfa yn agor brynhawn Sadwrn, 21 Mawrth, gyda pharti gwylio cerddorol arbennig - Rydym wedi perswadio Dean i ddod â dewis o berlau finyl gydag o, er mwyn gosod tôn y prynhawn (ydi, mae’n DJ hefyd!) CROESO I BAWB, nid oes angen tocyn, galwch heibio rhwng 2pm a 6pm i weld yr arddangosfa, cwrdd â Dean, a mwynhau’r gerddoriaeth!

Yn dilyn yr agoriad, bydd Dean yn siarad am ei waith a’i yrfa mewn digwyddiad Talk Photo arbennig yn yr oriel am 7pm (bydd hwn yn ddigwyddiad seti, bydd angen tocyn oherwydd mae cyfyngiad ar y niferoedd sydd ar gael - Os ydych chi’n gyflym, gallwch sicrhau eich lle YMA gyda thocynnau AM DDIM neu am rodd - talwch beth fedrwch)


Ers codi ei gamera ar gyfer Dazed & Confused yng nghanol y 90au, mae ysbryd positif ac egni creadigol enwog Dean Chalkley wedi ei weld yn dod yn un o ddogfenwyr isddiwylliant Prydain mwyaf blaenllaw y DU, ffotograffydd portreadau amlwg a ffotograffydd y byd cerddoriaeth uchel ei barch, sy’n gyfrifol am rai o ddelweddau mwyaf nodedig o’r byd cerddoriaeth yr unfed ganrif ar hugain. 

Mae gwaith Dean yn llawn dilysrwydd ac uniondeb, gan ei wneud yn gyfrwng perffaith ar gyfer brandiau i gyfathrebu gyda’u cynulleidfaoedd. Mae o wedi gweithio gyda llu o frandiau ffasiwn megis Levis, Adidas a Ray Ban, a thu allan i’r cyd-destun ffasiwn, ymgyrchoedd gyda Virgin, Sony Music ac Universal Pictures ymysg toreth o rai eraill.

Mae cyfrannu at gyhoeddiadau golygyddol, gan gynnwys Cylchgrawn yr Observer, Vanity Fair, Cylchgrawn y Sunday Times a pherthynas sy’n ymestyn dau ddegawd gydag NME yn amlygu ei barodrwydd i ymgysylltu gyda thalentau newydd, yn ogystal â’r enwogion. Mae diddordeb gwirioneddol yn ei wrthrychau a sut maent yn rhan o’r tapestri diwylliannol yn nodi ei waith, ac yn cynhyrchu delweddau sydd wir yn ysgogi’r meddwl.

Mae ei archif helaeth yn cynnwys ffotograffiaeth ffilm a chyfryngau cymysg, gyda phob llun yn cael ei gysylltu gan ei ymrwymiad sylweddol i’r syniad o steil personol fel dull o wrthsafiad diwylliannol. 

Yn wreiddiol wedi hyfforddi fel teiliwr, mae cariad Dean at steil teilwraidd wedi ysbrydoli rhai o’i brosiectau mwyaf enwog. Daeth ‘Return of the Rudeboy’, arddangosfa ymdrwythol yn Somerset House, ag isddiwylliant pwysig, oedd prin wedi’i ddogfennu, i brif lwyfan un o sefydliadau pennaf Llundain.

Shaka Maidoh & Sam Lambert_Return of the RudeboyReturn of the Rudeboy (c) Dean Chalkley

Wedi’i lunio a’i drefnu ar y cyd gyda’r cyfarwyddwr creadigol Harris Elliott, roedd yr arddangosfa chwe ystafell yn archwilio steil, swagar ac arwyddocâd ‘Rudeboy’ yr unfed ganrif ar hugain. Roedd portreadau Dean yn cyflwyno delwedd fyd-eang o’r steil perffaith, yr hyder, a’r annibyniaeth oedd wrth wraidd y mudiad.

return_of_the_rudeboy34_website_image_2x_hagm_standardReturn of the Rudeboy (c) Dean Chalkley

Wedi’i sbarduno gan gariad pur at gerddoriaeth a’i photensial o ran hunanfynegiant, mae portreadau Dean yn amrywio o arloeswyr tawel i sêr pop. Mae’n parhau i gasglu archif o artistiaid anhygoel y mae eu gobaith, eu hegni a’u theatr yn ein cludo tu hwnt i’r fan a’r lle.

Daft PunkDaft Punk (c) Dean Chalkley

Fel cynhyrchydd ffilmiau, mae Dean yn archwilio unigolion a’u cymunedau ar ffiniau diwylliant Prydain. Roedd New Faces yn arddangos steil, cerddoriaeth a safbwyntiau sîn cyfoes y Mods.

Scott & Tomas #1_The New FacesThe New Faces (c) Dean Chalkley

Daeth Young Souls yn fuan wedyn, i gyflwyno cenhedlaeth newydd o ddilynwyr ymroddedig Northern Soul, wedi’u huno gan swyn dawnsio. 

Lottie_Young SoulsYoung Souls (c) Dean Chalkley

Ym mis Medi 2023, nododd Wigan hanner canrif ers agor Casino Wigan gyda rhaglen o ddigwyddiadau a gweithgareddau a oedd yn archwilio beth oedd y clwb eiconig hwn yn ei olygu i bobl bryd hynny, yn ogystal â’i heffaith barhaol ar bobl heddiw. Estynnwyd gwahoddiad i Dean gan Adran Diwylliant, y Celfyddydau a Threftadaeth Cyngor Wigan i gyfrannu ei brosiect ffotograffiaeth Young Souls at arddangosfa o’r enw 50 Years On: The Soul Stays Strong. Cytunodd, ac fe gynhigiodd i greu dwy elfen unigryw newydd, yn arbennig ar gyfer y sioe.

Mae Good For The Soul, yr elfen gyntaf, yn ffilm fer, ddynamig sy’n canolbwyntio ar ddawnsiwr Northern Soul, sy’n mynegi ei hun drwy gyfrwng cerddoriaeth yr enaid brin iawn. Mae’r ffilm yn llawn ergydion ac yn gyflym, gyda dawnsio arbenigol gan Durassie Kiangangu, gyda thrac Northern Soul anadnabyddus - True True Love gan Tobi Lark. 

Yr ail elfen yw Young Souls 2023, sef cyfres ffotograffig newydd, sy’n cyflwyno 23 o bobl ifanc o genhedlaeth enaid heddiw, sy’n rhan weithredol o’r sîn. Estynnodd Dean wahoddiad i eneidiau ifanc i’r hen adeilad Woolworth’s yn Standishgate, Wigan, lle cynhaliwyd sesiwn ffotograffiaeth wythnosau’n unig cyn i’r arddangosfa agor - yn yr un lleoliad.

Dilynodd Young Souls 2023 esthetig y prosiect gwreiddiol yn 2011, ond mae’r gwrthrychau yn y gyfres newydd hon yn dod â’r arsyllwr yn ôl i heddiw, gan amlygu sut mae’r sîn yn parhau i ffynnu.

perry_winkles_neech01_website_image_2x_hagm_standard
Young Souls (c) Dean Chalkley

Yn 2022, cyflwynodd Dean brosiect arbrofol, uchelgeisiol, o’r enw New Perspectives. Roedd y cysyniad creadigol hybrid yn dod â chwe cherddor gwadd ynghyd, nad oeddent wedi gweithio fel grŵp cyn hyn. Dros ddau ddiwrnod, ysgrifennodd a recordiodd y grŵp ddarn unigryw o gerddoriaeth heb unrhyw fath o broses gynllunio ymlaen llaw.

Mae’r prosiect yn adlewyrchu ffordd gysyniadol o feddwl Dean, yn ogystal â’i sgiliau fel ffotograffydd a chyfarwyddwr ffilmiau byr. Cyflwynodd dimensiwn newydd gyda gwahanol agweddau i’w ymarfer, gan greu fframwaith y gallai eraill ei gynhyrchu a’i berfformio.

O ganlyniad, mae’r darn o waith yn cynnwys ffotograffiaeth a ffilm yn dogfennu’r broses, gan gynnwys finyl 12" o’r trac So Pure a recordiwyd gan y grŵp, a enwodd eu hunain yn Phono 48 yn ystod y broses.

Llwyfannwyd arddangosfa o gyfryngau cymysg megis printiau ffotograffig mawr, ffilm fer ac arddangosiadau eraill yn Amgueddfa Diwylliant Ieuenctid ar Shaftesbury Avenue, Llundain, ac o ganlyniad rhyddhawyd y ffilm fer ar-lein, gyda’r gerddoriaeth ar gael ar lwyfannau ffrydio.

Yn 2025, nododd Dean Chalkley garreg filltir sylweddol gyda chyhoeddiad Back in Ibiza 1998-2003, yn rhyngwladol gan ACC Art Books. Mae’r gyfrol hon yn dod â detholiad o archif fawr Chalkley ynghyd, a grëwyd wrth ddogfennu Ibiza ar droad y ganrif.

BACK IN IBIZA 1998-2003
Signed copies of the book will be available at Oriel Colwyn in very limited numbers.

Bydd nifer cyfyngedig o gopïau wedi’u llofnodi o’r llyfr ar gael yn Oriel Colwyn.

Mae’r llyfr yn cynnwys cyfraniadau gan ffigyrau enwog sy’n gysylltiedig â’r sîn hwnnw hefyd. Mae Chalkley yn creu atmosffer hedonistaidd drwy ei dudalennau, ac uwch deimlad o hapusrwydd sy’n cael ei ddiffinio gan swyn yr ynys, gan gyfleu angerdd ac agosatrwydd.

O du mewn i ogof Amnesia, i derasau heulog Café del Mar, mae Chalkley yn cyfleu’r cydchwarae rhwng yr ecstatig a’r dinod, gan baentio portread o Ibiza sydd gymaint am y bobl ag ydyw am y lle ei hun. Mae’r llyfr ffotograffig yn denu’r arsyllwr, gan eu gosod wrth galon a gwres y tirluniau braf, y clwb wedi’i oleuo gan neon a dyddiau ysgafnfryd.


Ibiza 2
Back in Ibiza (c) Dean Chalkley

Gan gyd-fynd â’r cyhoeddiad, arddangoswyd detholiad o Back in Ibiza 1998-2003 yn y Century Club a The Social yn Llundain, a lansiwyd y wefan ficro BACKINIBIZA.com, gan ymestyn y dialog ymhellach rhwng y delweddau, y diwylliant maent yn eu hadlewyrchu, a’r cynulleidfaoedd maent yn parhau i’w hysbrydoli.

Mae gwaith Dean yn croesi ffiniau, ac yn ddathliad cyfoethog o ddiwylliant, ac mae’r arddangosfa hon yn rhoi cipolwg i chi o’i waith anhygoel.

Gwefan: www.deanchalkley.com

TANYSGRIFIO

Cofrestrwch gyda’ch cyfeiriad e-bost i gael y newyddion diweddaraf.

Caniatâd Marchnata

Bydd Oriel Colwyn yn defnyddio'r wybodaeth a roddwch ar y ffurflen hon i gysylltu â chi ac i ddarparu diweddariadau a marchnata. Cadarnhewch yr hoffech glywed gennym trwy e-bost trwy dicio'r blwch isod:

Gallwch newid eich meddwl unrhyw bryd drwy glicio ar y ddolen dad-danysgrifio yn nhroedyn unrhyw e-bost a gewch gennym, neu drwy gysylltu â ni yn curator@orielcolwyn.org. Byddwn yn trin eich gwybodaeth â pharch. I gael rhagor o wybodaeth am ein harferion preifatrwydd, ewch i'n gwefan. Drwy glicio isod, rydych yn cytuno y gallwn brosesu eich gwybodaeth yn unol â'r telerau hyn.

Rydym yn defnyddio Mailchimp fel ein platfform marchnata. Trwy glicio isod i danysgrifio, rydych yn cydnabod y bydd eich gwybodaeth yn cael ei throsglwyddo i Mailchimp i'w phrosesu. Dysgu rhagor am arferion preifatrwydd Mailchimp.

Intuit Mailchimp