Browser does not support script.
Sioe Blwyddyn Olaf 2014
30 Mai, 2014 - 5 Mehefin, 2014
30/05/2014 00:00:00
Mae Oriel Conwy yn falch o gyflwyno’r cyntaf allan o dair sioe blwyddyn olaf gan fyfyrwyr ffotograffiaeth HND Coleg Llandrillo.
Bydd pob arddangosfa yn para am wythnos ac yn arddangos ffotograffwyr presennol sy’n dod i’r amlwg.
“Fe ddois i ffotograffiaeth yn ddiweddarach mewn bywyd. Rwyf wedi mwynhau tynnu lluniau erioed, ond fe gymerodd hwb yn y cyfeiriad cywir er mwyn fy mherswadio i’w wneud yn llawn amser. Rwy’n mwynhau distawrwydd a ffyrnigrwydd y byd. Bydd y dirwedd yn dweud stori wrthych chi os edrychwch arno yn y ffordd iawn. Mae’n anodd dangos ysblander y tirlun neu forlun heb eich tywys yno i weld dros eich hun, felly fy ngobaith yw fy mod yn gallu gwneud cyfiawnder â’r tirluniau a morluniau gyda’r gwaith ar y waliau o’ch amgylch.”
“The land is a living breathing thing and it’s light changes its character every second of every day, That’s why I love it so much.” - Fay Godwin
“Wrth i’r byd newid, mae’n ymddangos fod llai o bobl yn oedi i fwyhau’r hyn sydd ar ôl o’r byd hynod hardd. Rydym yn treulio ein holl amser yn dogfennu’r pethau nad ydynt yn bwysig a phan fydd y pethau sydd yn bwysig, megis perffeithrwydd naturiol ein daear wedi mynd, ychydig iawn fydd ar ôl i’w cofio.
Dyna pam rwyf wrth fy modd gyda’r genre hwn o ffotograffiaeth.
Dyna pam rwy’n tynnu’r ffotograffau hyn.”
- Dawn Burgess
Cofrestrwch gyda’ch cyfeiriad e-bost i gael y newyddion diweddaraf.
Bydd Oriel Colwyn yn defnyddio'r wybodaeth a roddwch ar y ffurflen hon i gysylltu â chi ac i ddarparu diweddariadau a marchnata. Cadarnhewch yr hoffech glywed gennym trwy e-bost trwy dicio'r blwch isod:
Gallwch newid eich meddwl unrhyw bryd drwy glicio ar y ddolen dad-danysgrifio yn nhroedyn unrhyw e-bost a gewch gennym, neu drwy gysylltu â ni yn curator@orielcolwyn.org. Byddwn yn trin eich gwybodaeth â pharch. I gael rhagor o wybodaeth am ein harferion preifatrwydd, ewch i'n gwefan. Drwy glicio isod, rydych yn cytuno y gallwn brosesu eich gwybodaeth yn unol â'r telerau hyn.
Rydym yn defnyddio Mailchimp fel ein platfform marchnata. Trwy glicio isod i danysgrifio, rydych yn cydnabod y bydd eich gwybodaeth yn cael ei throsglwyddo i Mailchimp i'w phrosesu. Dysgu rhagor am arferion preifatrwydd Mailchimp.