Conwy Revealed

Amrywiol

1 Ionawr, 2019 - 31 Mawrth, 2019

Date(s)
01/01/2019 - 31/03/2019
Cyswllt
Amrywiol
Disgrifiad
1

Bu Oriel Colwyn, mewn partneriaeth â Gwasanaeth Ieuenctid Conwy, yn cynnig cyfle i bobl ifanc ddysgu am hanes Conwy, gan gofnodi eu siwrnai trwy ffotograffiaeth.

Bu’r gweithdai, a oedd yn para wythnos, yn fodd o rymuso’r grŵp i ymchwilio i gofnodion ffotograffig a gedwir gan Wasanaeth Archifau Conwy a dilyn olion traed ffotograffydd lleol y wasg, Walter Harris.

2
Dyn anhysbys yn sefyll y tu allan i siop y groser, Siop Gornel A. I. Williams, ar gyffordd y Stryd Fawr a Sgwâr Lancaster, Conwy. [c.1901-1902]

3
Ffotograff gweithdy 2018

Wrth gadw oddi wrth y byd digidol sy’n datblygu’n gyflym heddiw, dysgodd y grŵp sut i ddefnyddio sgiliau ffotograffiaeth traddodiadol. Gan ddefnyddio camerâu ffilm 35mm wedi’u llwytho â ffilm du a gwyn, buont yn archwilio Conwy mewn ymateb i’r archifau hanesyddol.

Ar ôl dysgu sgiliau newydd, bu aelodau’r grŵp wedyn yn prosesu a datblygu eu ffilmiau eu hunain yn ystafell dywyll Oriel Colwyn. Aethant yn eu blaenau i ddysgu sut i gynhyrchu printiau Gelatin Arian yn yr ystafell dywyll gan ddefnyddio’r negatifau newydd.

4
CRIWSER AFON PRINCESS CHRISTINE, CONWY, ar y llithrfa gyda dau aelod o griw a theithwyr. [c.1950]

5
Ffotograff gweithdy 2018

Trwy’r gweithdai bu’r bobl ifanc yn llwyddiannus wrth weithio tuag at gymhwyster AGORED mewn ffotograffiaeth.

“Roedd y prosiect yma’n hollol wych. Roedd yn ddiddorol iawn. Roeddwn yn dysgu rhywbeth newydd drwy’r amser, yn arbennig yn yr ystafell dywyll. Cawsom amser gwych. Roedd yn brofiad gwych dysgu pethau newydd.”

    - Harley

“Roedd y prosiect yn hynod o ddiddorol. Roedd pawb i’w weld yn mwynhau. Fy hoff ran oedd yr ystafell dywyll ac argraffu’r negatifau. Roedd yn brofiad diddorol ac rwy’n edrych ymlaen at y prosiect nesaf!”

    - Rhiannon

“Rwy’n teimlo fy mod wedi magu hyder wrth weithio gydag eraill ac wedi gwneud mwy o ffrindiau. Mae cymryd rhan yn y prosiect wedi fy ysbrydoli i brynu fy nghamera fy hun a thynnu mwy o luniau. Roedd hi’n bleser bod yn rhan o’r prosiect. Roedd Paul a Rachel yn athrawon gwych ac rwy’n gobeithio bydd mwy o brosiectau tebyg yn y dyfodol.”

    - George

“Mi wnes i fwynhau’r cwrs ffotograffiaeth ac roeddwn wrth fy modd yn mynd o gwmpas gwahanol leoedd adnabyddus a dieithr ym Mae Colwyn a Chonwy yn tynnu lluniau o unrhyw beth y mynnwn. Mi wnes i fwynhau defnyddio’r ystafell dywyll hefyd oherwydd ei fod yn rhywbeth nad oedd unrhyw un ohonom wedi’i wneud o’r blaen ac roedd yn ddiddorol iawn ceisio gweithio yn y tywyllwch. Helpodd y cwrs ffotograffiaeth hwn i mi wneud ffrindiau newydd na fyddech yn dod ar eu traws mewn bywyd pob dydd, ond fel grŵp fe wnaethom greu cysylltiad cryf rhwng pob un ohonom ac fe wnaethom weithio’n dda fel tîm a helpu ein gilydd ar hyd y ffordd.”

    - Daisy

6
Gorsaf Reilffordd Conwy – Agorwyd yr orsaf ar 1 Mai 1848, ac fe’i caewyd yn rhan o doriadau Beeching ar 13 Chwefror 1966. Fe ailagorodd ar 29 Mehefin 1987. [Ebrill 1970]

7
Ffotograff gweithdy 2018

Ariannwyd drwy Raglen Weithgareddau’r Ganolfan Ddiwylliant, Cyngor Celfyddydau Cymru, Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy, Cronfa Dreftadaeth y Loteri, Llywodraeth Cymru, Cronfa Datblygu Cymunedau Gwledig a Gwynt y Môr mewn partneriaeth ag Ymddiriedolaeth Celfyddydau Conwy.

TANYSGRIFIO

Cofrestrwch gyda’ch cyfeiriad e-bost i gael y newyddion diweddaraf.

Caniatâd Marchnata

Bydd Oriel Colwyn yn defnyddio'r wybodaeth a roddwch ar y ffurflen hon i gysylltu â chi ac i ddarparu diweddariadau a marchnata. Cadarnhewch yr hoffech glywed gennym trwy e-bost trwy dicio'r blwch isod:

Gallwch newid eich meddwl unrhyw bryd drwy glicio ar y ddolen dad-danysgrifio yn nhroedyn unrhyw e-bost a gewch gennym, neu drwy gysylltu â ni yn curator@orielcolwyn.org. Byddwn yn trin eich gwybodaeth â pharch. I gael rhagor o wybodaeth am ein harferion preifatrwydd, ewch i'n gwefan. Drwy glicio isod, rydych yn cytuno y gallwn brosesu eich gwybodaeth yn unol â'r telerau hyn.

Rydym yn defnyddio Mailchimp fel ein platfform marchnata. Trwy glicio isod i danysgrifio, rydych yn cydnabod y bydd eich gwybodaeth yn cael ei throsglwyddo i Mailchimp i'w phrosesu. Dysgu rhagor am arferion preifatrwydd Mailchimp.

Intuit Mailchimp