Browser does not support script.
Jon Pountney
17 Awst, 2017 - 30 Medi, 2017
17/08/2017 00:00:00
Mae Jon Pountney yn artist sy’n byw yn Nhrefforest. Mae ei waith yn cyffwrdd â themâu hanes, nostalgia, ymdeimlad o gymuned, naratif ac, yn fwy diweddar, syniadau cymhleth ‘treftadaeth’ ddiwydiannol. Artist 2D ydyw’n bennaf, ac mae’n defnyddio ffotograffiaeth, paentio, arlunio a ffilm, gan ddatblygu cyfresi o waith. Rhoddir rhai prosiectau at ei gilydd dros nifer o flynyddoedd. Mae wedi bod yn cofnodi blaendraeth y Sblot yng Nghaerdydd yn y ffordd yma dros y tri haf diwethaf. Mae’r blaendraeth (unig draeth Caerdydd!) yn draeth di-nod, heb lawer o gofnodion amdano, ac mae’n llawn gwastraff tirlenwi, rwbel, brics, glo a gwastraff slag o waith dur.
Beachcombing © Jon PountneyDros lawer o flynyddoedd yn y 1950au, 60au a’r 70au, fe’i defnyddiwyd fel man lle’r oedd gwastraff o lawer o adeiladau Caerdydd yn cael ei adael, gan gynnwys o waith clirio slymiau ardal Portmanmoor yn y Sblot, gwaith dur enfawr East Moors, a hefyd (os ydych chi’n credu’r sibrydion) gorsaf reilffordd Fictoraidd hardd Heol y Frenhines.Beachcombing © Jon Pountney
Archwilir golygfa foel, unig, ond hardd yma mewn ffotograffiaeth, lluniau bywyd llonydd wedi eu creu o wrthrychau wedi eu canfod, a ffilm fer.
Beachcombing © Jon Pountney
Cofrestrwch gyda’ch cyfeiriad e-bost i gael y newyddion diweddaraf.
Bydd Oriel Colwyn yn defnyddio'r wybodaeth a roddwch ar y ffurflen hon i gysylltu â chi ac i ddarparu diweddariadau a marchnata. Cadarnhewch yr hoffech glywed gennym trwy e-bost trwy dicio'r blwch isod:
Gallwch newid eich meddwl unrhyw bryd drwy glicio ar y ddolen dad-danysgrifio yn nhroedyn unrhyw e-bost a gewch gennym, neu drwy gysylltu â ni yn curator@orielcolwyn.org. Byddwn yn trin eich gwybodaeth â pharch. I gael rhagor o wybodaeth am ein harferion preifatrwydd, ewch i'n gwefan. Drwy glicio isod, rydych yn cytuno y gallwn brosesu eich gwybodaeth yn unol â'r telerau hyn.
Rydym yn defnyddio Mailchimp fel ein platfform marchnata. Trwy glicio isod i danysgrifio, rydych yn cydnabod y bydd eich gwybodaeth yn cael ei throsglwyddo i Mailchimp i'w phrosesu. Dysgu rhagor am arferion preifatrwydd Mailchimp.