30 Mile Radius

David Hurn

17 Mehefin, 2023 - 17 Medi, 2023

Date(s)
17/06/2023 - 17/09/2023
Cyswllt
David Hurn
Disgrifiad
HUD1997003W04109-03-17-copy-1024x677

Dechreuodd David Hurn ei yrfa fel ffotograffydd wedi hyfforddi’i hun. Ar y dechrau bu’n gynorthwyydd gydag Asiantaeth Reflex, a buan iawn y daeth yn un o ffotograffwyr dogfennol mwyaf blaenllaw Prydain wrth ddogfennu’r Chwyldro yn Hwngari ym 1956.

Oherwydd ei chwilfrydedd am y byd o’i gwmpas aeth Hurn yn ei flaen i fod yn rhan o’r chwyldro cymdeithasol ym Mhrydain ac America yn y 1960au, gan dynnu lluniau llawer o bobl eiconig ym myd ffilmiau a cherddoriaeth, gan gynnwys y Beatles, Sean Connery a Jane Fonda. Ym 1967 ymunodd ag asiantaeth Magnum Photo fel aelod cyflawn.

Yn ogystal ag ennill bri rhyngwladol am ei waith ffotograffig, mae David Hurn hefyd yn adnabyddus am sefydlu’r Ysgol Ffotograffiaeth Ddogfennol yng Nghasnewydd, de Cymru. Ar ôl gadael ym 1989, trodd Hurn i ffwrdd o ffotonewyddiaduraeth ddogfennol er mwyn creu gwaith gyda dull mwy personol, ac y mae’n parhau i greu heddiw o’i gartref yn Nhyndyrn, Cymru.


Mae David Hurn wedi bod yn tynnu lluniau o Gymru – ei phobl, ei thirlun a’i diwylliant – ers dros hanner canrif ac mae’n dal wrth heddiw fel un o aelodau hwyaf eu tymor yr asiantaeth enwog Magnum Photo.

Mae’r arddangosfa unigryw hon yn cynnwys deg ar hugain o ffotograffau, oll wedi’u creu o fewn cwmpas o ddeg milltir ar hugain o Oriel Colwyn, ac mae’n rhoi cipolwg ar ogledd Cymru yn hoff arddull un o’r ffotograffwyr dogfennol uchaf eu parch ym Mhrydain heddiw.


“Yn y 1970au cynnar, fe ddychwelais o fywyd prysur yn Llundain i fy nghartref yng Nghaerdydd, Cymru, er mwyn gorffwys.

Fe wnes i fwynhau fy amser cymaint, fe benderfynais aros, prynu bwthyn a threulio traean o fy nyfodol yn tynnu lluniau a cheisio ‘darganfod fy niwylliant’.”

HUD1997003W04109-03-17-copy-1024x677
G.B. WALES. 1997. Eryri. Cneifio defaid. © David Hurn/MAGNUM PHOTOS

“Fel bob amser ar brosiect newydd, fe luniais ‘we pry cop’ o bosibiliadau syml iawn. Nid Beibl fel y cyfryw, ond mwy o rwyd diogelwch er mwyn sicrhau nad oeddwn yn mynd yn rhy bell i gyfeiriadau gwahanol.”

David-Hurn_30-mile_spider-1024x935
© David Hurn

“Nid oedd gen i ddiddordeb mewn meysydd penodol, ond roedd gen i ddiddordeb mewn gwaith, chwaraeon, addysg, tirlun ac ati, a ble bynnag y byddai hynny yn fy arwain h.y. bywyd drwy fy llygaid i.”

HUD1986001W02932-09-copy-1024x683
G.B. WALES. 1986. Y Rhyl. Yr Heulfan. © David Hurn/MAGNUM PHOTOS

“Ar ôl hanner canrif o dynnu lluniau, fe wnes i ddarganfod nad oedd yr un man yng Nghymru lle nad oeddwn yn gallu creu arddangosfa o fewn radiws o bum milltir ar hugain o’r pwynt hwnnw - oni bai am arfordir y gogledd…fy esgus yw bod hanner yn ddŵr, felly roedd rhaid addasu ychydig: Radiws 30 Milltir.”
– David Hurn – Mai 2023


Arddangosfa yn agor - dydd Sadwrn 17 Mehefin (4pm-6pm)

Rydym yn falch o groesawu DAVID HURN i agoriad arddangosfa ‘30 Mile Radius’.

AM DDIM // FREE –  Croeso i bawb  // All Welcome


DAVID HURN – Sgwrs Ffotograffydd

‘How To When Floundering’

Dydd Sul 18 Mehefin - 12pm (11.30am drysau’n agor)

Gan y bydd y sgwrs ym mhrif ofod yr oriel, bydd y niferoedd yn gyfyngedig.

Digwyddiad â Thocynnau Cyfyngedig (archebwch eich lle ymlaen llaw).

Book Ticket - Minimum Donation of £8

(Ar ôl archebu lle, mae dewis i archebu copi o ‘Gatalog’ yr arddangosfa - sgroliwch i lawr am y dewis wrth dalu - dim ond 1 yr un os gwelwch yn dda).

mailchimp-Catalog-copy

Rydym yn falch o gyhoeddi bod Oriel Colwyn wedi cydweithio gyda David Hurn a’r Offline Journal ar gyhoeddiad y catalog  arddangosfeydd newydd cyntaf a gyhoeddwyd yn rhifyn #010 yr Offline Journal.  

Bydd nifer cyfyngedig iawn o’r catalog 40 tudalen a gyhoeddwyd ar gyfer yr arddangosfa ar gael yn Oriel Colwyn yn ystod yr agoriad ar 17 Mehefin neu drwy dudalen archebu ar gyfer y sgwrs ddydd Sul.

TANYSGRIFIO

Cofrestrwch gyda’ch cyfeiriad e-bost i gael y newyddion diweddaraf.

Caniatâd Marchnata

Bydd Oriel Colwyn yn defnyddio'r wybodaeth a roddwch ar y ffurflen hon i gysylltu â chi ac i ddarparu diweddariadau a marchnata. Cadarnhewch yr hoffech glywed gennym trwy e-bost trwy dicio'r blwch isod:

Gallwch newid eich meddwl unrhyw bryd drwy glicio ar y ddolen dad-danysgrifio yn nhroedyn unrhyw e-bost a gewch gennym, neu drwy gysylltu â ni yn curator@orielcolwyn.org. Byddwn yn trin eich gwybodaeth â pharch. I gael rhagor o wybodaeth am ein harferion preifatrwydd, ewch i'n gwefan. Drwy glicio isod, rydych yn cytuno y gallwn brosesu eich gwybodaeth yn unol â'r telerau hyn.

Rydym yn defnyddio Mailchimp fel ein platfform marchnata. Trwy glicio isod i danysgrifio, rydych yn cydnabod y bydd eich gwybodaeth yn cael ei throsglwyddo i Mailchimp i'w phrosesu. Dysgu rhagor am arferion preifatrwydd Mailchimp.

Intuit Mailchimp