Corpus|Delicti - Raffl Cadair Gynfas!
Dyma gyfle i chi ennill un o’r cadeiriau cynfas sy’n cael eu harddangos ar hyn o bryd yn arddangosfa Corpus|Delicti Rolf Kraehenbuehl yn Oriel Colwyn.
Mae’r ddwy gadair gynfas unigryw o’r arddangosfa, sydd â delweddau unigol o forglawdd Bae Colwyn ei hun arnyn nhw, ar gael i’w hennill.

Mae pob rhodd o £5 yn rhoi un cyfle i chi ennill - rhowch roddion mewn lluosrifau o 5 i gael mwy o gyfleoedd i ennill (e.e. £10 = 2 docyn, £15 = 3 tocyn, ac ati).
CAEL TOCYNNAU
Bydd pob rhodd yn mynd yn uniongyrchol tuag at raglen arddangosfeydd a sgyrsiau Oriel Colwyn.
Diolch yn fawr iawn i Rolf am fod mor garedig â rhoi’r cadeiriau celf hyfryd hyn yn wobr.
Fe gewch chi ymlacio mewn steil dros yr haf!
Mae croeso i chi gyfrannu/ymgeisio o bob cwr o’r byd.
Gall yr enillwyr ddod draw i’r oriel i gasglu eu cadair os ydyn nhw’n byw yn lleol.
Os yw’r enillydd yn dod o unrhyw le yn y DU, byddwn yn talu am gludiant, ond os ydych chi’n byw y tu allan i’r DU, rydych chi’n cytuno i dalu’r costau cludo rhyngwladol.
Mae’r raffl yn cau ar 28 Mehefin, a bydd enwau’r ddau enillydd yn cael eu tynnu ar hap ar ôl hynny.
Nid oes gwobr ariannol ar gael yn lle’r cadeiriau.
Pob lwc, a diolch i chi am gefnogi Oriel Colwyn.