Tim Wallace Seminar

31 Mai, 2014, 12am

Date(s)
31/05/2014
Disgrifiad
tim-wallace-seminar-4

Ffotograffydd Hysbysebu Masnachol Rhyngwladol y Flwyddyn a Ffotograffydd Ceir y Flwyddyn Diwydiant Moduron y DU

YR UNIG SGWRS SYDD WEDI’I CHYNLLUNIO AR GYFER ELENI!

 

Mae Tim Wallace o Ambient Life am gymryd amser o’i amserlen brysur i ymweld â Sioe Ffotograffiaeth ac Optig Cambrian Photography ac Oriel Colwyn, lle bydd yn cyflwyno seminar ysbrydoledig am ei waith yn ein theatr 300 sedd. Gallwch ddisgwyl clywed awgrymiadau a chyngor yn cael eu cyflwyno mewn modd ffraeth a di-flewyn-ar-dafod, ac yna Sesiwn Holi ac Ateb.

Cafodd Tim ei ddisgrifio’n ddiweddar gan Scott Kelby fel un o'r Deg ffotograffydd mwyaf dylanwadol yn y Byd heddiw. Gyda honiadau felly a rhestr o gleientiaid yn cynnwys Aston Martin, Land Rover, Lamborghini, Ferrari a chasgliad trawiadol o ddelweddau gwych i gyd-fynd â hynny, mae’r seminar hon yn un na ddylech ei methu.

tim-wallace-seminar-1

Mae ei waith wedi'i gyhoeddi'n fyd-eang ac wedi'i arddangos yng nghylchgrawn ‘Victor’ sy’n gylchgrawn byd-eang, uchel ei glod a blaenllaw yn y diwydiant. Mae safbwynt Tim ohono’i hun ychydig yn fwy syml. Mae’n cael ei adnabod am ei agwedd ddiymhongar, mae ei draed yn gadarn ar y ddaear ac mae ei awydd i gynhyrchu gwaith creadigol wedi bod yno ers pan oedd yn ifanc iawn pan afaelodd mewn camera am y tro cyntaf, “I mi mae Ffotograffiaeth yn angerdd creadigol, y gallu i ddefnyddio golau a ffurf i ddal mewn un ddelwedd yr hyn a welaf yn fy nychymyg fy hun…”

tim-wallace-seminar-8

“Mae fy ngwaith yn aml yn cael ei ystyried yn gysyniadol a dramatig ac i mi mae ffotograffiaeth yn broses, ni chlywch mohonof byth yn mwmian 'fe wnaiff y tro' gan nad yw hynny'n ddigon i mi. Mae bywyd yn fyr ac rwy'n anelu at wneud fy mywyd i yn un gwerth chweil a diddorol gyda gwaith sy'n adlewyrchu hynny gobeithio.

Fy nod mewn bywyd yw bod yn fi fy hun bob amser, bod yn greadigol, bod yn ddidwyll ac yn bennaf oll gwella rhan fach o fywydau pobl gyda delweddau sy'n difyrru ac weithiau'n ysgogi'r teimladau a oedd gen i pan dynnais i’r lluniau. Rwyf wedi ennill gwobrau ac rwyf bob amser yn meddwl efallai eu bod nhw wedi cael y Tim Wallace anghywir, hei rwy'n ddiolchgar bob amser ond byth yn cymryd fy hun nac unrhyw gyflawniadau o ddifrif, mae bywyd yn rhy fyr a bydd pobl yn eich anghofio'n gyflym.

Neidiais oddi ar glogwyn yn Norwy ychydig flynyddoedd yn ôl mewn naid BASE, pam?, wel oherwydd ei fod yn teimlo'n iawn i mi wneud hynny i mi fy hun ar y pryd, rwy'n credu’n wirioneddol bod unrhyw beth mewn bywyd yn bosibl, gweithio'n galed, bod yn berson gonest, dweud wrth y bobl yr ydych yn eu caru beth maen nhw'n ei olygu i chi mor aml ag y gallwch chi, ac yn bennaf oll, mynd allan a thynnu lluniau oherwydd weithiau dyna le gall pethau rhyfeddol ddigwydd."

Er nad yw Tim yn cael ei dalu am ddod, ers iddo adnabod Sarah yn Cambrian Photography, mae ei hangerdd dros helpu pobl mewn angen trwy Fanc Bwyd The King’s Storehouse, wedi cael cymaint o argraff arno fel ei fod eisiau helpu mewn rhyw ffordd.
Mae Tim hefyd yn awyddus iawn i roi rhywbeth yn ôl i’r gymuned ffotograffiaeth ac roedd wrth ei fodd yn clywed am Lightbox, y Grŵp Camera i Bobl Ifanc yr ydym yn ei gynnal yma yn Oriel Colwyn.

O ganlyniad i hyn mae Tim wedi gofyn i’r tâl mynediad gael ei roi i'r ddau sefydliad gwych yma i'w cynorthwyo i wneud mwy a helpu mwy.
Os ydych yn teimlo yr hoffech gyfrannu mwy fyth, yna gellir cymryd rhoddion ar ddiwrnod y sioe hefyd. Er bod rhoddion ariannol yn wych, byddai rhoddion bwyd hirhoedlog ac offer ffotograffig newydd neu ail law hefyd yn hynod dderbyniol.

Cost tocynnau’r seminar yw £9.99 (rhodd) ac maent ar gael drwy Eventbrite yn unig gan ddefnyddio’r botwm isod. Maen nhw eisoes yn hedfan allan yn gyflym iawn, sylwch mai dim ond 300 o leoedd sydd ar gael yn y theatr ac fe'ch cynghorir i archebu yn fuan i osgoi cael eich siomi.

TANYSGRIFIO

Cofrestrwch gyda’ch cyfeiriad e-bost i gael y newyddion diweddaraf.

Caniatâd Marchnata

Bydd Oriel Colwyn yn defnyddio'r wybodaeth a roddwch ar y ffurflen hon i gysylltu â chi ac i ddarparu diweddariadau a marchnata. Cadarnhewch yr hoffech glywed gennym trwy e-bost trwy dicio'r blwch isod:

Gallwch newid eich meddwl unrhyw bryd drwy glicio ar y ddolen dad-danysgrifio yn nhroedyn unrhyw e-bost a gewch gennym, neu drwy gysylltu â ni yn curator@orielcolwyn.org. Byddwn yn trin eich gwybodaeth â pharch. I gael rhagor o wybodaeth am ein harferion preifatrwydd, ewch i'n gwefan. Drwy glicio isod, rydych yn cytuno y gallwn brosesu eich gwybodaeth yn unol â'r telerau hyn.

Rydym yn defnyddio Mailchimp fel ein platfform marchnata. Trwy glicio isod i danysgrifio, rydych yn cydnabod y bydd eich gwybodaeth yn cael ei throsglwyddo i Mailchimp i'w phrosesu. Dysgu rhagor am arferion preifatrwydd Mailchimp.

Intuit Mailchimp