Clwb Ffilm Ffotograffiaeth #007

Barnaby Clay

30 Tachwedd, 2022, 12am

Date(s)
30/11/2022
Cyswllt
Barnaby Clay
Disgrifiad
5-web

SHOT! THE PSYCHO-SPIRITUAL MANTRA OF ROCK

Dydd Mercher 30 Tachwedd
7pm (drysau yn agor 6.30pm)

small-The-Art-of-SURU-Unbroken-copy-1024x791 (1)

Mae’r CLWB FFILM FFOTOGRAFFIAETH yn cynnal ffilm neu raglen ddogfen ffotograffiaeth bob tua 4-6 wythnos yn sinema fendigedig Theatr Colwyn

Gwyliwch ffilm seiliedig ar ffotograffiaeth, cwrdd â ffrindiau, gwneud ffrindiau a chael eich ysbrydoli!

Mae ein 7fed digwyddiad Clwb Ffilm Ffotograffiaeth DDYDD MERCHER 30 TACHWEDD am 7pm (drysau’n agor am 6:30pm) pryd y byddwn ni’n dangos y ffilm SHOT! THE PSYCHO-SPIRITUAL MANTRA OF ROCK (tystysgrif 15).

Ac un peth arall, dyw e ddim yn glwb go iawn, fel ein henw ni..........does dim angen ymuno yn ffurfiol ac mae croeso i unrhyw un!


SHOT! THE PSYCHO-SPIRITUAL MANTRA OF ROCK

cyfarwyddwr Barnaby Clay  Tyst(15)

DYDD MERCHER 30 Tachwedd 2022 am 7pm (drysau 6.30pm)

80168033


Mae SHOT! THE PSYCHO-SPIRITUAL MANTRA OF ROCK yn daith i straeon lliwgar a bohemaidd hanes roc a rôl. Antur sinematig sy’n treiddio’n ddwfn i feddwl un o ffotograffwyr byw mwyaf y byd roc a rôl: Mick Rock.

6
Mick Rock

Trwy lygad ingol mytholeg roc a rôl; crëwr eiconau, archwiliwr seicedelig, bardd, a cheidwad breuddwydion, mae Mick Rock yn mynd ar drywydd ei stori o ddisgleirdeb glam roc Llundain i ffyrnigrwydd pync Efrog Newydd, ac i ganol y mileniwm newydd.

Mae Mick yn troi i wynebu ei hun a’r profiadau o fod yn geidwad cofnodion gweledol chwedlau a hanesion a ddyrchafodd ef yn eicon yn y stori hon sy’n sôn am ailymddangosiad roc a rôl.       Mae lluniau Mick sydd bellach yn enwog o David Bowie, Queen, Syd Barrett (yr aelod a sefydlodd Pink Floyd), Blondie, Lou Reed ac Iggy Pop yn awr wedi sodro ein seice torfol am byth ac am genedlaethau i ddod. 

4-web
David Bowie ©Mick Rock

5-web
Queen ©Mick Rock

3-web-copy
Blondie ©Mick Rock

Mae’r ffilm hon sydd wedi’i chyflwyno yn ei eiriau ei hun, ochr yn ochr â lluniau hudolus a hen ffilm archif sydd erioed wedi’i gweld na’i chlywed erioed o’r blaen, recordiadau sain a deunydd gwreiddiol, yn datgelu Rock enigmatig a’i fywyd anturus y tu ôl i’r camera ac fel aelod annatod o ddilynwyr yr artist gan lunio a gweithio gyda rhai o gerddorion a phersonoliaethau mwyaf anhygoel, adnabyddus a dawnus y deugain mlynedd ddiwethaf.

2
David Bowie, Iggy Pop and Mick Rock ©Mick Rock

Ac yntau’n grewr eiconau, ac yn eicon yn ei rinwedd ei hun, mae Rock ymysg nifer fach o ffotograffwyr a oedd hefyd yn destun sylw ffotograffwyr wrth iddo gerdded carpedi coch yn Los Angeles, Llundain, Efrog Newydd ac o gwmpas y byd.


GIGS Y GAEAF

Winter-Sounds_Social-Media-Tile_W1-Announcement_E_e4dc0a3dd19be031c9c40ed8100ea3fb-copy

Mae gŵyl newydd sbon sy’n dathlu cerddoriaeth fyw, synau a’r gair llafar yn dod i Gonwy! Rhwng 25 Tachwedd a 4 Rhagfyr 2022 Gigs y Gaeaf yn llenwi llefydd ar draws y sir, yn rhoi’r sbotolau ar dalent gerddorol o Gymru a thu hwnt!

Bydd y digwyddiadau am ddim ac am gost gostyngol.

- I gael rhagor o wybodaeth, cliciwch ar y llun uchod.


Rydym ni’n cydnabod yn ddiolchgar gefnogaeth Ffilm Cymru Wales ar gyfer ein dangosiadau Clwb Ffilm Ffotograffiaeth rheolaidd.

Film-Club-Footer-web

TANYSGRIFIO

Cofrestrwch gyda’ch cyfeiriad e-bost i gael y newyddion diweddaraf.

Caniatâd Marchnata

Bydd Oriel Colwyn yn defnyddio'r wybodaeth a roddwch ar y ffurflen hon i gysylltu â chi ac i ddarparu diweddariadau a marchnata. Cadarnhewch yr hoffech glywed gennym trwy e-bost trwy dicio'r blwch isod:

Gallwch newid eich meddwl unrhyw bryd drwy glicio ar y ddolen dad-danysgrifio yn nhroedyn unrhyw e-bost a gewch gennym, neu drwy gysylltu â ni yn curator@orielcolwyn.org. Byddwn yn trin eich gwybodaeth â pharch. I gael rhagor o wybodaeth am ein harferion preifatrwydd, ewch i'n gwefan. Drwy glicio isod, rydych yn cytuno y gallwn brosesu eich gwybodaeth yn unol â'r telerau hyn.

Rydym yn defnyddio Mailchimp fel ein platfform marchnata. Trwy glicio isod i danysgrifio, rydych yn cydnabod y bydd eich gwybodaeth yn cael ei throsglwyddo i Mailchimp i'w phrosesu. Dysgu rhagor am arferion preifatrwydd Mailchimp.

Intuit Mailchimp