Mae’r CLWB FFILM FFOTOGRAFFIAETH yn cynnal ffilm neu raglen ddogfen ffotograffiaeth bob ryw 6 wythnos ar brynhawn dydd Sadwrn yn sinema fendigedig Theatr Colwyn.
Dyma gyfle i wylio ffilm sy’n ymwneud â ffotograffiaeth, cyfarfod hen ffrindiau a gwneud ffrindiau newydd ac yna mynd am ddiod neu bryd bach o fwyd rywle yn y dref i gymdeithasu fel y mynnwch chi.
Mae ail ddigwyddiad y Clwb Ffilm Ffotograffiaeth DDYDD SADWRN 5 CHWEFROR am 4pm (drysau’n agor am 3.30pm) a byddwn yn dangos y ffilm McCULLIN .
O… ac un peth arall, nid clwb ydi o mewn gwirionedd, dim ond hoffi’r enw oeddem ni … Dydi o ddim yn rhywbeth dethol, does dim rhaid i chi ymuno ac mae yna groeso i bawb!
McCullin
Cyfarwyddwyr Jacqui Morris a David Morris Tystysgrif (15)
DYDD SADWRN 5 CHWEFROR 2022 am 4pm (drysau’n agor am 3.30pm)
I lawer, Don McCullin yw’r ffotograffydd rhyfel gorau sydd yn dal i fod yn fyw ac mae’n aml yn cael ei enwi fel ysbrydoliaeth i ffoto-newyddiadurwyr heddiw. Am y tro cyntaf, mae McCullin yn siarad yn agored am ei yrfa a oedd yn ymestyn dros dri degawd a’r ffotograffau a oedd yn aml yn diffinio adegau hanesyddol.
Roedd y ffotograffydd sy’n cael ei ddathlu, Don McCullin, yn gweithio i’r Sunday Times o 1966 i 1983, ar adeg lle’r oedd y papur newydd yn cael ei gydnabod yn eang fel bod ar flaen y gad gyda ffoto-newyddiaduraeth ymchwiliol ryngwladol. Yn ystod y cyfnod hwnnw, bu iddo ymdrin â rhyfeloedd a thrychinebau dyngarol ar bron bob cyfandir: o’r rhyfel cartref yng Nghyprus, y rhyfel yn Fietnam a’r newyn a grëwyd gan ddyn ym Miaffra i sefyllfa ddigartrefedd Llundain yn ystod y Chwedegau.
Mae rhaglen ddogfen Jacqui a David Morris a enwebwyd ar gyfer BAFTA yn defnyddio fideo cyfoethog a manwl o’r archif a chyfweliadau manwl anhygoel i ddatgelu’r gwir y tu ôl i ddelweddau pwerus a dadleuol McCullin, gan roi ei stori ryfeddol at ei gilydd mewn modd arbennig. Gan archwilio nid yn unig bywyd a gwaith McCullin, ond sut mae ethos newyddiaduriaeth wedi newid drwy gydol ei yrfa, mae’r ffilm yn sylwebaeth ar hanes ffoto-newyddiaduraeth sy’n cael ei adrodd drwy lens un o’i ffotograffwyr mwyaf enwog.