19/07/2025 19:00:00
- Date(s)
- 19/07/2025
- Cyswllt
- Talk Photo
- Registration URL
- https://theatrcolwyn.ticketsolve.com/ticketbooth/shows/1173665165
- Disgrifiad
Mae Sian Bonnell yn artist sy’n byw ac yn gweithio yn Nyfnaint. Mae ei gwaith artistig yn ceisio herio ein syniadau o natur celf a’i bwnc.

Dyddiad: Dydd Sadwrn 19 Gorffennaf
Amser: 7pm (drysau 6.30pm)
Lleoliad: I fyny'r grisiau yn yr Oriel yn Oriel Colwyn
Gan weithio gyda gwrthrychau a gofodau sydd ar gael iddi, mae Sian yn gweld ei chamera fel cyd-droseddwr neu gynhyrfwr, yn ei herio i wneud pethau. Ac yn y ffordd yma mae’n dod yn asiant hud. "Trowch gamera ar blentyn mi fydd yn chwarae i fyny, yn dangos ei hun, yn tynnu wynebau, a bydd oedolion yn sefyll mewn ystum. Mae hyn oll yn berfformiad, mae’r camera yn gofyn amdano – ac rydym ni’n ufuddhau."

When the Domestic Meets the Wild Beachclean 1999 (c)Sian Bonnell
Bydd ei monograff Wilful Amateur yn cael ei gyhoeddi yn yr haf, sy’n darparu trosolwg o’i gwaith o 1978 hyd heddiw. Yn anghronolegol, mae’r llyfr yn dod â’i gwaith cynnar a diweddarach i ohebiaeth newydd.

Mae gwaith Sian wedi’i arddangos a’i gyhoeddi yn eang, ac ar gael a chadw mewn sawl casgliad cyhoeddus a chorfforaethol, fel Amgueddfa Fictoria ac Albert, Amgueddfa Celf Gain Houston, Tecsas, y Ransom Center, Tecsas a’r Bibliotheque Nationale, Paris.

Disciplines #29 2014 (c) Sian Bonnell

Ten Seconds #1 2022 (c) Sian Bonnell
Mae
TALK PHOTO yn ddigwyddiad cymdeithasol sy’n cael ei gynnal bob pythefnos yng ngofod arddangos Oriel Colwyn, lle mae siaradwyr gwadd yma
YN BERSONOL i rannu cyflwyniadau a chipolwg i’w gwaith neu brosiectau, gyda chynulleidfa gyfeillgar, fach.
Mae tocynnau cynulleidfa ar gael ar sail cyntaf i’r felin.
Os ydych yn gallu rhoi cyfraniad tuag at y sgyrsiau, yna dewiswch opsiwn cyfrannu, os gwelwch yn dda – bydd hyn o gymorth uniongyrchol i Oriel Colwyn a pharhad y digwyddiadau hyn yn y dyfodol.
Os yw’n well gennych beidio â rhoi cyfraniad, dewiswch yr opsiwn am docyn AM DDIM.
Gan nad oes llawer o le, byddwn yn cyfyngu nifer y bobl yn y gynulleidfa i 30, ac rydym yn falch o gynnig opsiwn
AM DDIM
er mwyn cael gwared ag unrhyw rwystrau ariannol rhag bod yn bresennol.