28/06/2025 15:00:00
- Date(s)
- 28/06/2025
- Cyswllt
- Talk Photo
- Registration URL
- https://theatrcolwyn.ticketsolve.com/ticketbooth/shows/1173665089
- Disgrifiad
Yn y sgwrs yma, mae Rolf yn edrych yn ôl ar ei grefft dros y degawd diwethaf, gyda phwyslais ar y llwybr y cymerodd ei ffotograffiaeth dros y blynyddoedd diwethaf.

Dyddiad: Dydd Sadwrn 28 Mehefin
Amser: 3pm (drysau 2.30pm)
Lleoliad: I fyny'r grisiau yn yr Oriel yn Oriel Colwyn
Mae’r pandemig ac astudio ar gyfer cwrs MA ffotograffiaeth wedi trawsnewid ei agwedd tuag at y cyfrwng ffotograffiaeth, dewis yr hyn sy’n cael sylw a’r broses o greu llun.
Erbyn hyn, yn hytrach na ffotograffiaeth o strydoedd prysur a chyflym mewn dinasoedd yn y DU ac Ewrop, mae’n gweithio’n lleol ac yn cynnwys dulliau mwy cysyniadol mewn i’w brosiectau.

Yn ganolog i’w ffotograffiaeth mae chwilio am, a phrofi strategaethau creadigol i weld perthnasoedd gofod-lle yn yr amgylchedd adeiledig, diwylliannol ac i ddal hanfod lle fel y’i gwelir drwy ei lygaid a’i feddwl.

Bydd yn ymhelaethu ar resymwaith y prosiect analog “Corpus | Delicti” - sydd i’w weld yn Oriel Colwyn ar hyn o bryd - sydd yn arbrawf o sut allwn ni ddefnyddio'r deunydd ffotograffig i gofnodi argoelion heblaw golau, i archwilio materoldeb yr hyn sy’n cael sylw yn y llun a sut y gellir adlewyrchu hyn a’i recordio yn y lluniau.
Mae
TALK PHOTO yn ddigwyddiad cymdeithasol sy’n cael ei gynnal bob pythefnos yng ngofod arddangos Oriel Colwyn, lle mae siaradwyr gwadd yma
YN BERSONOL i rannu cyflwyniadau a chipolwg i’w gwaith neu brosiectau, gyda chynulleidfa gyfeillgar, fach.
Mae tocynnau cynulleidfa ar gael ar sail cyntaf i’r felin.
Os ydych yn gallu rhoi cyfraniad tuag at y sgyrsiau, yna dewiswch opsiwn cyfrannu, os gwelwch yn dda – bydd hyn o gymorth uniongyrchol i Oriel Colwyn a pharhad y digwyddiadau hyn yn y dyfodol.
Os yw’n well gennych beidio â rhoi cyfraniad, dewiswch yr opsiwn am docyn AM DDIM.
Gan nad oes llawer o le, byddwn yn cyfyngu nifer y bobl yn y gynulleidfa i 30, ac rydym yn falch o gynnig opsiwn
AM DDIM
er mwyn cael gwared ag unrhyw rwystrau ariannol rhag bod yn bresennol.