Ganwyd Michelle Sank yn Ne Affrica ac ymgartrefodd yn y DU ym 1987. Fe’i magwyd yn ystod cyfnod Apartheid, ac mae’n ferch i fewnfudwyr o Latfia. Dywed mai’r cefndir hwn roddodd sail i’w diddordeb mewn isddiwylliannau ac archwilio materion a heriau cymdeithasol cyfoes. Mae ei phortreadau crefftus yn asio lleoedd a phobl, gan greu naratifau a thirluniau cymdeithasegol, gweledol a seicolegol.
Mae ei ffotograffau wedi cael eu harddangos a’u cyhoeddi’n eang yn y DU, Ewrop, Awstralia a Mecsico, De Affrica ac UDA. Mae ei delweddau ymysg casgliadau parhaol Alain Servais, Brwsel; Open Eye Gallery Archive, Lerpwl; Societe Jersiaise ac Amgueddfa Guernsey, Ynysoedd y Sianel; Southeast Museum of Photography, Fflorida; The Museum of Fine Arts, Houston, Tecsas; RAMM, Caerwysg; a’r Museum of Youth Culture, y DU.
Mae wedi ennill sawl gwobr glodfawr, gan gynnwys:
Gwobr Portreadau Taylor Wessing, British Journal of Photography, ac yn fwy diweddar, y categori portreadau yng Ngwobrau Ffotograffiaeth Sony World 2024.
Mae wedi cyhoeddi pum llyfr hyd yma. Cyhoeddwyd ei gwaith diweddaraf am gymuned Burnthouse Lane yng Nghaerwysg gan Dewi Lewis y mis hwn.

Zenande, Sinawe, Zinathi, and Buhle (winning image in the Sony World Photo Award for Portraiture 2024) ©Michelle Sank

Maurice from My.Self ©Michelle Sank
Mae TALK PHOTO yn ddigwyddiad cymdeithasol sy’n cael ei gynnal bob pythefnos yng ngofod arddangos Oriel Colwyn, lle mae siaradwyr gwadd yma YN BERSONOL i rannu cyflwyniadau a chipolwg i’w gwaith neu brosiectau, gyda chynulleidfa gyfeillgar, fach.
Mae’r sgyrsiau’n dechrau am 7pm (drysau’n agor am 6.30pm) ac mae tocynnau i’w cael ar sail y cyntaf i’r felin.
Os ydych yn gallu rhoi cyfraniad tuag at y sgyrsiau, yna dewiswch opsiwn cyfrannu, os gwelwch yn dda – bydd hyn o gymorth uniongyrchol i Oriel Colwyn a pharhad y digwyddiadau hyn yn y dyfodol.
Os yw’n well gennych beidio â rhoi cyfraniad, dewiswch yr opsiwn am docyn AM DDIM.
Gan nad oes llawer o le, byddwn yn cyfyngu nifer y bobl yn y gynulleidfa i 30, ac rydym yn falch o gynnig opsiwn AM DDIM er mwyn cael gwared ag unrhyw rwystrau ariannol rhag bod yn bresennol.