Marian Delyth

Talk Photo

17 Mehefin, 2025, 7pm

Date(s)
17/06/2025
Cyswllt
Talk Photo
Registration URL
https://theatrcolwyn.ticketsolve.com/ticketbooth/shows/1173664841
Disgrifiad
Cover

Mae Marian Delyth yn ffotograffydd Cymreig a ddaeth i garu cyfrwng ffotograffiaeth tra’n astudio dylunio graffeg yng Ngholeg Celf Casnewydd yn y 1970au. pan fyddai hi’n taro mewn i ddarlithoedd yr Ysgol Ffotograffiaeth Dogfennol dan arweiniad David Hurn.

Aeth ymlaen I astudio yng Ngholeg Polytechnig Birmingham cyn dechrau ar ei gyrfa a fu’n bennaf yn y diwydiant cyhoeddi yma yng Nghymru. 

Mae ei gwaith ffotograffig i’w weld mewn llawer o lyfrau megis ‘100 lle i’w weld yng Nghymru’ a enillodd gwobr Llyfr y Flwyddyn ac ‘Enlli tu hwnt i’r Swnt’ (traethawd ffotograffig estynedig o’r ynys).

Mae ei gwaith wedi ei gyhoeddi yn helaeth mewn cylchgronau ac mae wedi arddangos ei gwaith yn gyson yma Yn y D.U. a thu hwnt.

winni_1md
Winnie Jenkins, Brynhyfryd, Bontnewydd, Mynydd Bach, Ceredigion. 1977

Y llynedd cafwyd arddangosfa arolwg unigol fawr, dathliad o 50 mlynedd o waith, ei chynnal fel rhan ganolog o Wyl Ffoto Cymru yn y Ffotogallery, Caerdydd - a gyflwynodd yr arddangosfa fel a ganlyn:

darnau_4792md
Poster arddangosfa gyda’r ffotograff - Comin Greenham. 1986

“Mae Delyth yn ffotograffydd a dylunydd sy’n gweithio o’i stiwdio ym Mlaenplwyf, ger Aberystwyth, ac mae hi wedi gweithio’n ddiflino i ddathlu cymunedau ledled Cymru drwy ddogfennu achosion dros gyfiawnder cymdeithasol a hinsawdd sy’n effeithio ar gymdeithas yn lleol ac yn fyd-eang. Mae ei gwaith sydd wedi ei wreiddio yn y traddodiad dogfennol yn cyfathrebu straeon grymus y bobl a’r lleoedd sy’n eirioli dros gyfiawnder i iaith, tir a rhyddid.”

 anti-apartheid86md
Ar ddiwedd gwrthdystiad Gwrth-apartheid, Caerdydd. 1986

“Mae Darnau/Fragments yn arddangos chwilfrydedd radicalaidd a chyson Delyth; yn adrodd stori am y profiad dinesig, milltir sgwar newidiol y Mynydd Bach; Cymru fel cenedl o ymgyrchedd; y traddodiad anghydffurfiol a chymunedau o Gasnewydd i Landudno, Ynys Enlli i Lydaw, oll yn ymdrin â phob pwnc gyda pharch a gofal.”

wib2503_6449b.mdjpg
Protest gan Merched mewn Du yn erbyn trais yn erbyn merched, Aberystwyth. 2025

“Nod yr arddangosfa hon yw cadrnhau ei safle fel un o artistiaid mwyaf dylanwadol Cymru ac mae’n dathlu ei chyfraniadau sylweddol i hunaniaeth artistig a gweledol Cymru.”

Bydd y sgwrs yn Oriel Colwyn yn disgrifio’r broses o archwilio ei harchif wnaeth arwain at yr arddangosfa a’i gwaith diweddar.

clean.water_5203md
Ymgyrch o blaid môr glân gan Syrffwyr yn erbyn carthffosiaeth, Aberystwyth. 2024

*Ffotograff Portread: (c) Laurentina Miksys

 

Talk Photo

Mae  TALK PHOTO yn ddigwyddiad cymdeithasol sy’n cael ei gynnal bob pythefnos yng ngofod arddangos Oriel Colwyn, lle mae siaradwyr gwadd yma  YN BERSONOL i rannu cyflwyniadau a chipolwg i’w gwaith neu brosiectau, gyda chynulleidfa gyfeillgar, fach.

Mae’r sgyrsiau’n dechrau am 7pm (drysau’n agor am 6.30pm) ac mae tocynnau i’w cael ar sail y cyntaf i’r felin.

Os ydych yn gallu rhoi cyfraniad tuag at y sgyrsiau, yna dewiswch opsiwn cyfrannu, os gwelwch yn dda – bydd hyn o gymorth uniongyrchol i Oriel Colwyn a pharhad y digwyddiadau hyn yn y dyfodol.

Os yw’n well gennych beidio â rhoi cyfraniad, dewiswch yr opsiwn am docyn AM DDIM.

Gan nad oes llawer o le, byddwn yn cyfyngu nifer y bobl yn y gynulleidfa i 30, ac rydym yn falch o gynnig opsiwn  AM DDIM  er mwyn cael gwared ag unrhyw rwystrau ariannol rhag bod yn bresennol.

TANYSGRIFIO

Cofrestrwch gyda’ch cyfeiriad e-bost i gael y newyddion diweddaraf.

Caniatâd Marchnata

Bydd Oriel Colwyn yn defnyddio'r wybodaeth a roddwch ar y ffurflen hon i gysylltu â chi ac i ddarparu diweddariadau a marchnata. Cadarnhewch yr hoffech glywed gennym trwy e-bost trwy dicio'r blwch isod:

Gallwch newid eich meddwl unrhyw bryd drwy glicio ar y ddolen dad-danysgrifio yn nhroedyn unrhyw e-bost a gewch gennym, neu drwy gysylltu â ni yn curator@orielcolwyn.org. Byddwn yn trin eich gwybodaeth â pharch. I gael rhagor o wybodaeth am ein harferion preifatrwydd, ewch i'n gwefan. Drwy glicio isod, rydych yn cytuno y gallwn brosesu eich gwybodaeth yn unol â'r telerau hyn.

Rydym yn defnyddio Mailchimp fel ein platfform marchnata. Trwy glicio isod i danysgrifio, rydych yn cydnabod y bydd eich gwybodaeth yn cael ei throsglwyddo i Mailchimp i'w phrosesu. Dysgu rhagor am arferion preifatrwydd Mailchimp.

Intuit Mailchimp