Rydym yn falch iawn o groesawu’r ffotograffydd David J Shaw yn ôl i Fae Colwyn ar gyfer digwyddiad Talk Photo.

Dyddiad: Dydd Sadwrn 21 Tachwedd
Amser: 3pm (drysau ar agor 2.30pm)
Lleoliad: I fyny'r grisiau yn Oriel Colwyn
Cyflwynodd David 'Jaywick Sands Happy Club' fel PechaKucha byr yng Ngŵyl y Northern Eye y llynedd ac rydym yn falch o glymu’r sgwrs newydd hon gyda lansiad ei ymgyrch Kickstarter i gynhyrchu’r gwaith fel llyfr newydd gyda’r cyhoeddwr enwog Dewi Lewis.
Mae David J Shaw yn ffotograffydd a newyddiadurwr wedi ei leoli yn St Leonards, y DU. Yn ogystal ag aseiniadau ffotonewyddiaduraeth rheolaidd ar gyfer allbynnau blaenllaw y byd, mae Shaw yn gweithio ar brosiectau hirdymor sy’n archwilio cymuned a chynrychiolaeth. Yn y rhain mae’n cydweithio ac yn gweithio’n agored gan gymryd gofal i gynrychioli straeon yn foesegol.
Yn dilyn newid cyfeiriad o ran gyrfa gan weithio gyda’r gwasanaethau brys, mae Shaw yn dychwelyd at ffotograffiaeth gyda sgiliau a chymhelliant newydd ac mae’n canolbwyntio ar brosiectau cymunedol ar draws y DU sy’n ymateb i gyflwr presennol y wlad a’i gwleidyddiaeth.

Bethany yn modelu dillad y dylunydd lleol Ieda Lima ar y morglawdd yn ardal Brooklands yn Jaywick (hawlfraint) David J Shaw
Mae 'Jaywick Sands Happy Club’ yn archwilio gwytnwch cymdeithasol a materion cynrychiolaeth tra’n dathlu grwpiau cefnogaeth gymunedol y mae’r bobl wedi eu creu eu hunain a diwylliant o ofal ym mhentref Jaywick, a ddisgrifiwyd fel ‘ardal fwyaf difreintiedig’ Lloegr.
Mae chwilio am Jaywick drwy Google yn creu rhestr hir o benawdau negyddol, gan gynnwys rhaglenni dogfen fel ‘Benefits By The Sea’ Channel 5. Yn 2025, am y pedwerydd tro yn olynol, datganodd y Gweinidog Tai, Cymunedau a Llywodraeth Leol mai’r pentref yw ‘ardal fwyaf difreintiedig Lloegr’ . Mae’r AS Nigel Farage o blaid Reform UK yn cynrychioli’r pentref.

Elikaa a Suzanne (ar y dde) yn dawnsio gyda ffrindiau yng nghlwb Broadway. Mae Elika yn ddynes draws a symudodd i Jaywick yn 2019. Yn Jaywick maent wedi dod o hyd i gartref sy’n eu derbyn a bu iddynt briodi’n ddiweddar (hawlfraint) David J Shaw
Er gwaetha’r hyn a ystyrir gan amlaf mae gan Jaywick gymuned sy’n ffynnu, a sydd â diwylliant cryf o ofal, ac mae’r boblogaeth leol yn falch o’r gymuned honno. Mae ysbryd pentref sy’n gwneud pethau drosto’i hun yn bodoli lle mae cymdogion yn gofalu am ei gilydd a lle mae aelodau o’r gymuned yn trefnu digwyddiadau fel prydau am ddim, banciau bwyd, partïon carioci, dawnsfeydd, arddangosfeydd celf a marchnadoedd fforddiadwy.

Pobl yn dathlu pen-blwydd Danny Sloggett yn 50 oed yn Eglwys Sant Christopher. (hawlfraint) David J Shaw
‘Jaywick Sands Happy Club’ yw enw un mudiad cefnogaeth gymunedol o’r fath ar lawr gwlad. Mae’r clwb yn cynrychioli diwylliant ehangach Jaywick – pentref sydd, er gwaethaf ei enw am broblemau cymdeithasol, yn fan lle mae’r gymuned yn byw yn ôl ei naratif ei hun, lle gall hyd yn oed carioci yn y tafarndai ddarparu man ar gyfer cefnogaeth a gofal.
Nod llyfr David, sydd wedi ei greu gyda’r bobl y mae’r lluniau yn eu cynrychioli, yw ail fframio naratif Jaywick drwy gynnig golwg gytbwys ar gymuned y mae ei stori’n cael ei hadleisio ledled y byd.
Bydd yn cael ei gyhoeddi gan Dewi Lewis yn 2027 ac mae ar hyn o bryd yn codi arian drwy werthiant ymlaen llaw fel rhan o ymgyrch Kickstarter sy’n rhedeg tan Ragfyr 5.
Gallwch gefnogi ymgyrch David drwy’r ddolen YMA:
