05/07/2025 13:00:00
  
  
	
		
			- Date(s)
- 05/07/2025
- Cyswllt 
- Talk Photo
- Registration URL
- https://theatrcolwyn.ticketsolve.com/ticketbooth/shows/1173665088
- Disgrifiad 
- Gyda lluniau anhygoel ystafell dywyll Dafydd ar waliau’r oriel, rydym ni’n ei groesawu i Oriel Colwyn i siarad am ei waith Efrog Newydd a Hollywood yn y digwyddiad TalkPhoto arbennig hwn.  
 - Dyddiad: Dydd Sadwrn 5 Gorffennaf- Amser: 1pm  (drysau 12.30pm)- Lleoliad: I fyny'r grisiau yn yr Oriel yn Oriel Colwyn
 - Pan roedd yn 11 mlwydd oed, symudodd y teulu i Rydychen. Mynychodd Dafydd yr ysgol ramadeg leol. Yn wahanol i Gaerfyrddin, roedd gan Rydychen nifer o ysgolion preifat, a gwelodd Dafydd ychydig o’r byd arall hwn wrth iddo chwarae gwyddbwyll gyda thîm ei ysgol. - Daeth yn gyfeillgar gyda rhai o’r bechgyn a’r merched o’r ysgol breifat mewn disgo eglwys wythnosol. Aeth ymlaen i astudio Celfyddyd Gain yn ysgol gelf Winchester, gan ddatblygu diddordeb mewn portreadu’r sefydliad bonheddig. Yn gyntaf, drwy ddarluniau, ac yna drwy ddefnyddio ffotograffiaeth. - Ar ôl treulio’r 1980au yn tynnu lluniau o uchelwyr Prydeinig, fe symudodd gyda’i wraig Linzi a 2 o blant ifanc  Efrog Newydd yn 1989. Gweithio i Vanity Fair, cylchgrawn Paper, a’r New York Observer. - Fe wnaethant ariannu ei ffotograffiaeth a rhoi esgus unigryw iddo, a’r mynediad i barhau i dynnu lluniau byd a oedd yn ysbrydoliaeth iddo.  
 - Fe dynnodd luniau pobl gyfoethog a phwerus Manhattan, gan gynnwys datblygwr eiddo ifanc o’r enw Donald Trump. Fe dynnodd luniau gala’r gymdeithas, ynghyd â sêr Hollywood. - Mae ei luniau o’r cyfnod roi cip ar bartïon a digwyddiadau Efrog Newydd a Hollywood - i ffurfio continwwm o sylwebaeth gymdeithasol 1989-1999.  
 
 
  
   
  
  
  Mae 
  	TALK PHOTO yn ddigwyddiad cymdeithasol sy’n cael ei gynnal bob pythefnos yng ngofod arddangos Oriel Colwyn, lle mae siaradwyr gwadd yma 
  	YN BERSONOL i rannu cyflwyniadau a chipolwg i’w gwaith neu brosiectau, gyda chynulleidfa gyfeillgar, fach.
  
  Mae tocynnau cynulleidfa ar gael ar sail cyntaf i’r felin.
  
  
    
      
        Os ydych yn gallu rhoi cyfraniad tuag at y sgyrsiau, yna dewiswch opsiwn cyfrannu, os gwelwch yn dda – bydd hyn o gymorth uniongyrchol i Oriel Colwyn a pharhad y digwyddiadau hyn yn y dyfodol.
      
    
  
  
    Os yw’n well gennych beidio â rhoi cyfraniad, dewiswch yr opsiwn am docyn AM DDIM.
  
  
    Gan nad oes llawer o le, byddwn yn cyfyngu nifer y bobl yn y gynulleidfa i 30, ac rydym yn falch o gynnig opsiwn 
    AM DDIM
     er mwyn cael gwared ag unrhyw rwystrau ariannol rhag bod yn bresennol.