Roger Tiley

Northern Eye Photography Festival 2017

14 Hydref, 2017 - 15 Hydref, 2017

Date(s)
14 - 15/10/2017
Cyswllt
Northern Eye Photography Festival 2017
Disgrifiad
Image 1

Cafodd Roger ei eni yng nghymoedd de Cymru ym 1960, mewn hen bentref glofaol, o’r enw Pont-y-cymer. Ar ôl gorffen yn ei Ysgol Uwchradd ym 1976, aeth ymlaen i astudio ar gyfer ei Lefel A yn y coleg trydyddol lleol. Gan nad oedd yn fyfyriwr delfrydol, ac yntau eisiau bod yn ddrymiwr mewn band roc, fe wnaeth y pennaeth adran fygwth ei daflu o'r ysgol.

Yr unig ffordd i wella’r sefyllfa oedd cofrestru ar gwrs Ffotograffiaeth Lefel A newydd, gan fod y tiwtor wir eisiau myfyrwyr. Dyma ddechrau ar daith anhygoel. Ar ôl cwblhau ei astudiaethau Lefel A yn llwyddiannus, enillodd Roger brentisiaeth fel ffotograffydd diwydiannol ar gyfer cwmni cydrannau ceir mawr. Nid dyma’r maes o ffotograffiaeth roedd yn dymuno ei ddilyn, ac ar ôl pedair blynedd, ym 1982, penderfynodd adael i astudio cwrs Ffotograffiaeth Ddogfennol, o dan y ffotograffydd Magnum, David Hurn.

Tra roedd ar y cwrs, roedd Roger yn teimlo ei fod yn bwysig cofnodi’r cymunedau glofaol y cafodd ei fagu ynddynt. Gan fod y glowyr a’u teuluoedd ond yn rhy falch o'i helpu gyda'i brosiect, ehangodd ar ei waith i gynnwys sawl ardal yng nghymoedd de Cymru, yn cynnwys cymoedd y Rhondda a Chynon.

Wrth i streic y glowyr ym 1984/85 ledaenu ar hyd y newyddion, dechreuwyd cyhoeddi lluniau Roger mewn cyhoeddiadau cenedlaethol a rhyngwladol. Adeiladwyd sylfaen gan y cyfnod hwn o’i waith, gan fod llawer o bynciau y mae wedi’u trafod ers hynny â chysylltiadau cryf â chymunedau diwydiannol.  

Bron i dri deg naw mlynedd yn ddiweddarach, mae Roger yn dal yn teimlo'n angerddol dros gyfarfod pobl, gan ddefnyddio ffotograffiaeth fel esgus, er mwyn bod yn dyst i'w bywydau a hefyd i deithio'r byd i fannau na fyddai'n mynd fel arfer, oni bai am yr esgus i dynnu lluniau. 

Bydd sgwrs Roger yn trafod dau gorff o waith comisiwn a gwblhawyd yn ddiweddar, a dau brosiect personol parhaus. 

Comisiynwyd Pwll Glo Kellingley,gogledd Swydd Efrog, gan Keo Films, Llundain (BBC factual), i ddogfennu'r wythnosau olaf cyn i’r pwll glo dwfn diwethaf yn y DU gau. Cafodd Roger fynediad llawn i’r pwll; ar yr wyneb a than y ddaear.  Gyda gwres a lleithder eithafol ar y talcen glo, a oedd hanner milltir i lawr yn y ddaear ac yn daith o saith milltir am i mewn, roedd yn her dechnegol a chreadigol o gofnodi bywydau'r grŵp arbennig hwn o ddynion.

Er ei fod wedi tynnu lluniau ar sawl talcen glo yn y gorffennol; yn UDA a’r DU, dyma’r tro cyntaf i Roger ddefnyddio camera digidol dan ddaear.

Ehangodd Keo ar ei gomisiwn wedi i’r pwll gau, i ddilyn bywydau rhai o’r dynion yn chwilio am waith newydd, tan Gala Glowyr Durham 2016. Cafodd y gyfres ei gwneud yn llyfr clawr caled, a werthodd bob copi ymhen mis.

Image 2

LGBT, prosiect personol yn archwilio sawl maes o gymunedau hoyw, lesbiaid a thrawsrywiol. Dechreuodd y prosiect hwn yn eithaf diweddar, pan wahoddwyd Roger i dynnu lluniau o aelodau grŵp 'LGBT yn cefnogi’r Glowyr’, wrth iddynt ail-ymweld â chwm Dulais tua deng mlynedd ar hugain wedi streic y glowyr ym 1984/85, fel y portreadwyd yn y ffilm ‘Pride.’

Yn ystod y streic, rhybuddiwyd Roger gan swyddogion NUM i beidio â thynnu lluniau o gyfranogiad LGBT gyda’r glowyr. Dyma un o’i ofidion mwyaf.

Mae’r prosiect LGBT yn gofnod tymor hir, sy’n trafod pwnc eang ac amrywiol, a fydd yn cael ei gyhoeddi mewn llyfr.

Image 3

Yn ôl mewn amser, prosiect personol sy’n dangos pobl sy’n cyfranogi mewn hanes byw. Mae’n bwnc diddorol, lle mae pobl yn ail-fyw eu hamseroedd mewn hanes ac yn rhannu eu brwdfrydedd gyda’r cyhoedd. Dechreuodd Roger ei brosiect yn ôl yn nechrau’r 1990au, ac yn gobeithio ei gwblhau’n fuan; ond mae’n un y mae’n mynnu ychwanegu ato!

Image 4

Argyfwng Ffenestr To, a gomisiynwyd yn ddiweddar gan elusen digartref i ddathlu eu hanner can mlynedd.  Gan weithio gyda staff ac aelodau o Crisis, fe wnaeth Roger bortreadau wedi’u hargraffu ar deils papur wedi’u llungopïo, a’u gosod ar y dirwedd lle’r oedd aelodau wedi cysgu ar y stryd, neu'n dal i gysgu ar y stryd. Gwahoddwyd aelodau hefyd i ysgrifennu testun yn dangos eu teimladau yn ystod y gorffennol a’u huchelgeisiau am y dyfodol. 

TANYSGRIFIO

Cofrestrwch gyda’ch cyfeiriad e-bost i gael y newyddion diweddaraf.

Caniatâd Marchnata

Bydd Oriel Colwyn yn defnyddio'r wybodaeth a roddwch ar y ffurflen hon i gysylltu â chi ac i ddarparu diweddariadau a marchnata. Cadarnhewch yr hoffech glywed gennym trwy e-bost trwy dicio'r blwch isod:

Gallwch newid eich meddwl unrhyw bryd drwy glicio ar y ddolen dad-danysgrifio yn nhroedyn unrhyw e-bost a gewch gennym, neu drwy gysylltu â ni yn curator@orielcolwyn.org. Byddwn yn trin eich gwybodaeth â pharch. I gael rhagor o wybodaeth am ein harferion preifatrwydd, ewch i'n gwefan. Drwy glicio isod, rydych yn cytuno y gallwn brosesu eich gwybodaeth yn unol â'r telerau hyn.

Rydym yn defnyddio Mailchimp fel ein platfform marchnata. Trwy glicio isod i danysgrifio, rydych yn cydnabod y bydd eich gwybodaeth yn cael ei throsglwyddo i Mailchimp i'w phrosesu. Dysgu rhagor am arferion preifatrwydd Mailchimp.

Intuit Mailchimp