Northern Eye 2025 Peter Caton

Northern Eye Speaker 2025

4 Hydref, 2025 - 5 Hydref, 2025

Date(s)
04 - 05/10/2025
Cyswllt
Northern Eye Speaker 2025
Disgrifiad
PeterProfileNE_2 (1)

Northern Eye Photography Festival 2025

Saturday 4th / Sunday 5th October 

Siaradwyr - PETER CATON


Mae Peter Caton yn ffotograffydd newyddiadurol sy’n adnabyddus yn rhyngwladol am ei waith, sy’n ymdrin â’r gydberthynas rhwng cyfiawnder amgylcheddol, hanesion dyngarol ac effaith gymdeithasol. Mewn gyrfa sydd wedi para mwy nag ugain mlynedd, mae Peter wedi ymroi i ddogfennu bywydau’r bobl hynny y mae newid hinsawdd, rhyfel ac anghydraddoldeb yn effeithio arnynt fwyaf - yn aml mewn mannau na chlywir amdanynt yn aml yn y cyfryngau torfol.

 Image of photographer in muddy overalls.

Ganwyd Peter yn Scarborough, Lloegr ac fe’i magwyd ar gyrion Parc Cenedlaethol y Moorsyng ngogledd Swydd Efrog, lle’r oedd ei rieni’n rheoli cartref mawr i blant. Eu hymrwymiad i waith cymdeithasol gydol eu hoes a roes sylfaen foesol gadarn iddo, a chydymdeimlad dwys â phroblemau pobl eraill.

Wrth ennill ei radd mewn ffotograffiaeth ym Middlesbrough, bu’r heriau economaidd-gymdeithasol i gymunedau dosbarth gweithiol gogledd Lloegr yn ddylanwad arall arno. Ar sail y profiadau cynnar hynny, datblygodd Peter frwdfrydedd gydol oes am adrodd straeon drwy ddelweddau fel ffordd o ennyn cydymdeimlad, codi ymwybyddiaeth a sbarduno newid.

Yn 2006, ar ôl ambell i daith yn ne Asia, penderfynodd Peter newid byd a byw bywyd ar grwydr, gan ymrwymo’n llwyr i’w yrfa ym maes ffotograffiaeth newyddiadurol. Dechreuodd weithio’n helaeth ledled yr isgyfandir, yn gweithio i asiantaethau dyngarol ac amgylcheddol fel Save the Children, CARE, Greenpeace, WFP, UNICEF, UNAIDS, MSF, Oxfam a’r Groes Goch. Wrth weithio ar y prosiectau hyn, cafodd olwg fanwl ar gymunedau sy’n wynebu amryw argyfyngau fel gorfod ymadael â’u cartrefi, sychder, lefel y môr yn codi a bygythiadau i iechyd y cyhoedd.

Yn 2007, comisiynwyd Peter i ddogfennu argyfwng cynyddol ffoaduriaid hinsawdd yn rhanbarth Sundarban yn India. Bu’r comisiwn hwnnw, a’r dinistr a achosodd Seiclon Sidr dros y ffin ym Mangladesh yn ddiweddarach, yn drobwynt yn ei yrfa. Cafodd y profiadau hyn ddylanwad dwys ar ei olwg ar y byd ac fe atgyfnerthont ei ymrwymiad i dynnu sylw at effaith newid hinsawdd ar fywydau pobl go iawn. Ers hynny, ei ysbrydoliaeth yw ei awydd i adrodd hanesion taer am sefyllfaoedd a gaiff eu hanwybyddu’n aml drwy greu naratif delweddol grymus a theimladwy.

Bu Peter yn byw yn Affrica ers tua degawd - yn byw a gweithio ledled y cyfandir wrth ddogfennu rhai o argyfyngau dyngarol ac amgylcheddol mwyaf enbyd yr oes sydd ohoni. Rhwng crastiroedd crimp dwyrain Affrica, lle mae cymunedau’n wynebu sychder mawr, a’r llifogydd sy’n gorfodi miloedd o bobl yn Ne Swdan i ffoi o’u cartrefi, mae Peter wedi dal i anelu ei lens ar fywydau a phrofiadau pobl sy’n llawn cadernid, bregusrwydd a gobaith. Mae wedi ennill nifer o wobrau rhyngwladol am ei waith yn Affrica, gan gynnwys Gwobr Ffotograffiaeth Ryngwladol (IPA) am ffotograffiaeth amgylcheddol.

Ers pedair blynedd, mae llifogydd di-baid wedi creu dinistr aruthrol yn Ne Swdan, gyda chymunedau cyfan yn gorfod ffoi o’u cartrefi heb lawer o obaith o fedru dychwelyd. De Swdan yw’r genedl ieuengaf yn y byd - a ddaeth yn annibynnol yn 2011 - ac mae’n wynebu heriau dybryd wrth geisio adfer wedi’r rhyfel a brwydro yn erbyn newid hinsawdd ar yr un pryd. Ceir pryderon ymysg arbenigwyr mai dyma fydd yr achos cyntaf o ddadleoli torfol a pharhaol oherwydd newid hinsawdd. Parhaodd yr argyfwng yn 2024 gan effeithio ar 1.4 miliwn o bobl mewn 43 o siroedd. Mae’n sefyllfa ddifrifol - mae mwy nag wyth miliwn o bobl, dros hanner poblogaeth y wlad, yn wynebu newyn a diffyg diogeledd bwyd. Mae tir amaeth yn gorwedd dan ddŵr a chnydau wedi’u difetha ac mae cymunedau mewn mannau anghysbell, fel Fangak, bellach yn byw ar fwyd wedi’i fforio fel lilïau’r dŵr.

 Image from exhibition of a man rowing a simple hand made canoe away from a straw hut.
Yoak Chatin, 80, rows in his hand made canoe in Wangkotha Village in Old Fangak. ©Peter Caton

Treuliodd Peter fwy na phedair blynedd yn dogfennu’r drychineb wrth iddi ddatblygu, gan deithio i ogledd De Swdan yn ystod y tymhorau glawog. Tynnodd ei luniau cyntaf o’r llifogydd yn 2020 ac erbyn 2022, roeddent wedi effeithio ar bron i filiwn o bobl. Dechreuodd y llifogydd yn 2019, pan oedd De Swdan yn dal yn adfer ar ôl rhyfel cartref ffyrnig a laddodd bron i 400,000 o bobl. Wrth i’r llifogydd amgylchynu pentrefi cyfan, cafodd pobl eu dal yno gan eu hatal rhag ffoi o’r ymladd. Fe gollodd rhai pobl bopeth a gorfod symud i wersylloedd, lle cawsant ei dal eto gan lifogydd. Amcangyfrifir bod y gyflafan amgylcheddol hon wedi costio £542 miliwn i’r economi wrth i newydd waethygu oherwydd cnydau’n methu a da byw’n marw.

 Image of a woman, chest deep in water, holding a container containing a child on her head.
Nyalong Wal, 36, carries her daughter, Nyamal Tuoch, 2, to dry land. ©Peter Caton

Mae Peter yn dal i fyw bywyd crwydrol, heb ddim ond ei gês a’i offer tynnu lluniau ar ei gefn. Mae’n defnyddio camera digidol Hasselblad H5D-50c a golau Elinchrom cludadwy, sy’n ei alluogi i dynnu lluniau mor raenus â’r stiwdio mewn mannau anghysbell ac amgylcheddau heriol. Creda Peter yn gryf y gall ffotograffiaeth addysgu ac ysbrydoli pobl a sbarduno newid, ac mae’n dal yn ymrwymo i adrodd yr hanesion sy’n bwysig - ble bynnag y maent yn datblygu.

 www.petercaton.co.uk

TANYSGRIFIO

Cofrestrwch gyda’ch cyfeiriad e-bost i gael y newyddion diweddaraf.

Caniatâd Marchnata

Bydd Oriel Colwyn yn defnyddio'r wybodaeth a roddwch ar y ffurflen hon i gysylltu â chi ac i ddarparu diweddariadau a marchnata. Cadarnhewch yr hoffech glywed gennym trwy e-bost trwy dicio'r blwch isod:

Gallwch newid eich meddwl unrhyw bryd drwy glicio ar y ddolen dad-danysgrifio yn nhroedyn unrhyw e-bost a gewch gennym, neu drwy gysylltu â ni yn curator@orielcolwyn.org. Byddwn yn trin eich gwybodaeth â pharch. I gael rhagor o wybodaeth am ein harferion preifatrwydd, ewch i'n gwefan. Drwy glicio isod, rydych yn cytuno y gallwn brosesu eich gwybodaeth yn unol â'r telerau hyn.

Rydym yn defnyddio Mailchimp fel ein platfform marchnata. Trwy glicio isod i danysgrifio, rydych yn cydnabod y bydd eich gwybodaeth yn cael ei throsglwyddo i Mailchimp i'w phrosesu. Dysgu rhagor am arferion preifatrwydd Mailchimp.

Intuit Mailchimp