Mae Eddie Otchere yn ffotograffydd sydd yn fwyaf adnabyddus am ei bortreadau o rapwyr, cantorion a DJs arloesol canol y 1990au a’r 2000au. Mae ei waith yn cynnwys lluniau o Biggie Smalls, Black Star (Mos Def a Thalib Kweli), So Solid Crew, Estelle, Goldie, Omar a llu o rai eraill, yn ogystal â’i ffotograffau swyddogol o Metalheadz: Blue Note sessions 1994-1996. Mae o hefyd wedi gweithio gyda brandiau mawr fel Apple, Converse, Casio G-Shock, Leica, a Spotify.
Ers 1993 mae ffotograffau Otchere wedi’u harddangos a’u cyhoeddi ledled y byd, yn cynnwys ar gloriau cylchgronau rhyngwladol blaenllaw fel Dazed, Lodown a Mixmag, yn ogystal ag ar gloriau rhai o albymau mwyaf arloesol cerddoriaeth rap a drwm a bas.
Mae o hefyd yn gydawdur y nofel gwlt Junglist (1995, ailgyhoeddwyd 2019).
Mae’r ffotograffydd enwog Eddie Otchere (Llundain, y DU), a gydnabyddir fel croniclydd mwyaf blaenllaw'r diwylliant ieuenctid Du ym Mhrydain, newydd lansio ei waith diweddaraf, Spirit Behind the Lens: The Making of a Hip Hop Photographer. Mae ei lyfr gafaelgar yn cynnig cipolwg digynsail i fyd egnïol y diwylliant ieuenctid Du cyfoes ac yn cyfuno atgofion personol â chasgliad eiconig o ffotograffau a dynnwyd dros gyfnod o 30 o flynyddoedd - y rhan fwyaf erioed wedi’u gweld o’r blaen.
Gan roi golwg o’r tu mewn o brofiad y dosbarth gweithio Du, mae ei waith yn ein hatgoffa mai adrodd straeon drwy luniau yw sylfaen ffotograffiaeth, yn enwedig dogfennu symudiadau diwylliannol.
O’i ddelweddau eiconig o’r sin Jyngl ganol y 90au i’r Clan Wu-Tang yn Kentish Town a’i archwiliad o Brydain wledig, mae gwaith Otchere yn fyw ag emosiwn y cof materol, mae’n dathlu’r arloeswyr yn yr ymwybyddiaeth o werth creadigol y diwylliant du a’r symudiadau diwylliannol wedi codi o gymunedau tai cymdeithasol trefol.
Yn deillio o wraidd diwylliant tanddaearol Llundain, mae gwaith Otchere wedi bod yn ganolog i ffurfiad hunaniaeth wledol Jungle, Garage y Du, drwm a bas a hip hop. Drwy’r gwaith hynod bersonol hwn mae Otchere yn archwilio rhamant ffotograffiaeth ei hun. Fel ffotograffydd hynod fedrus a gwyddonydd ystafell dywyll, mae’n rhannu ei fewnwelediad i’w grefft, ei ddylanwadau a’r hanes personol a siapiodd ei gelf.

Goldie ©Eddie Otchere

Snoop ©Eddie Otchere

Contact Sheet, Fatboy Slim ©Eddie Otchere

Method Man (Wu-Tang Clan) ©Eddie Otchere
Northern Eye Festival 2024
Caiff ein gŵyl ffotograffiaeth boblogaidd ei chynnal fel arfer bob dwy flynedd yn nhref Bae Colwyn yn y flwyddyn ‘od’, rydym ni’n ŵyl gyfeillgar sydd eitha’ hoff o fod ychydig yn ‘od’, yn wahanol heb gyfyngu pethau i’r dethol rai, gyda dymuniad cyffredinol i glodfori ffotograffiaeth a denu sylw ehangach iddo, felly mae hynny’n ein gweddu ni’n berffaith.
Serch hynny, allem ni ddim aros i’ch croesawu chi’n ôl i’n gŵyl lawn nesaf yn 2025, felly gan gymryd yr awenau ar ôl y newyddion anffodus bod Gŵyl ‘Eye’ Aberystwyth eleni wedi cael ei gohirio, rydym wedi cynnull detholiad o siaradwyr a gwesteion o safon uchel ar gyfer penwythnos o ymgolli mewn ffotograffiaeth yma ym Mae Colwyn fis Tachwedd yma.
Eleni, fe fydd Penwythnos Siaradwyr arbennig yn cael ei gynnal ddydd Sadwrn 23 a dydd Sul 24 TACHWEDD a bydd yn cael ei gynnal yn adeilad PORTH EIRIAS ar bromenâd Bae Colwyn..