Jack Lowe

Northern Eye Photography Festival 2021

9 Hydref, 2021 - 10 Hydref, 2021

Date(s)
09 - 10/10/2021
Cyswllt
Northern Eye Photography Festival 2021
Disgrifiad
cover

Dogfennydd yw Jack Lowe sy’n defnyddio ffotograffiaeth, recordiadau sain a ffilm i wneud a rhannu stori ‘The Lifeboat Station Project’, ei siwrnai 8 mlynedd i bob un o orsafoedd bad achub yr RNLI ar arfordir y DU ac Iwerddon. 

Plannwyd hadau cyntaf y prosiect ym mhlentyndod Jack, pan ddechreuodd ei gariad at fadau achub. Yn llawer hwyrach yn ei fywyd, ar ôl gyrfa mewn ffotograffiaeth, cafodd Jack ei hun yn chwilio am newid cyfeiriad, rhywbeth a fyddai’n mynd ag o i ffwrdd o eistedd o flaen cyfrifiaduron bob dydd.

Meddyliodd am y pethau yr oedd yn teimlo’n fwyaf angerddol yn eu cylch ac ysgrifennodd y geiriau hyn ar ddarn o bapur:

  • Ffotograffiaeth

  • Badau Achub

  • Y Môr

Y darn bach hwnnw o bapur, ynghyd â llawer o feddwl, breuddwydio a chynllunio, arweiniodd Jack at y syniad o deithio i bob un o 238 gorsaf bad achub y DU ac Iwerddon i dynnu lluniau ohonyn nhw.

Drwy wneud hyn mae Jack yn creu archif ddigynsail a fydd yn cadw'r agwedd hanfodol hon o ddiwylliant ein hynysoedd ar gof a chadw ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol. 

Hwn oedd y tro cyntaf i unrhyw un geisio creu cofnod ffotograffig cyflawn o bob un o griwiau bad achub yr RNLI ac nid oedd yn hir iawn cyn i'r prosiect gael ei nodi am ei arwyddocâd hanesyddol a diwylliannol enfawr.

Mae Jack wedi cyfweld ac wedi tynnu lluniau o wirfoddolwyr y badau achub y mae o wedi’u cyfarfod ar eu siwrnai, ond mae ‘na dro yn y stori!  

Yn teithio yn ei ystafell dywyll symudol, hen ambiwlans o’r enw Neena, mae Jack yn defnyddio technegau ffotograffig Fictoraidd.

Gan ddefnyddio proses o’r enw colodion gwlyb, mae Jack yn creu ffotograffau unigryw ar wydr, gan ddal yr olygfa o bob gorsaf a’r dyfroedd y mae criwiau’r RNLI yn eu diogelu.

Mae pob plât gwydr, a elwir yn Ambroteip, yn ddarn o gelf unigryw ynddo’i hun.

Yn ogystal â'r golygfeydd, mae Jack hefyd yn tynnu lluniau o’r Llywiwr wrth y llyw, y merched, y mecanyddion ac wrth gwrs y criwiau.

Ar ôl ymweld â 150 o orsafoedd ac ar ôl 5 mlynedd o weithio ar yr arfordir, daeth stop sydyn ar daith Jack pan gyhoeddodd y Prif Weinidog y cyfyngiadau cadw pellter cymdeithasol cyntaf ar 16 Mawrth 2020.

Y Prosiect Gorsafoedd Bad Achub yw galwedigaeth lawn amser Jack ac mae o'n awyddus iawn i fynd yn ôl at y môr cyn gynted ag y bydd y rheolau'n caniatáu, gan anelu ar hyn o bryd at ailafael yn ei siwrnai ym mis Medi 2020.

At ei gilydd mae’r prosiect wedi datblygu i fod yn llawer iawn mwy na syniad a gweledigaeth gychwynnol Jack i fod yn siwrnai y mae o bellach yn cyfeirio ati fel gwaith pwysicaf ei fywyd.

Yn ddiweddar roedd digwyddiad arwyddocaol iawn i Jac a’r Prosiect Gorsafoedd Bad Achub pan brynodd Llyfrgell Genedlaethol Cymru ugain o’i brintiau argraffiad cyfyngedig ar gyfer y Casgliad Cenedlaethol o Ffotograffau Cymreig.

Yn y casgliad mae dros 800,000 o ffotograffau cysylltiedig â Chymru. Mae’r rhain yn amrywio o waith ffotograffwyr arloesol o ddyddiau cynharaf ffotograffiaeth i bortffolios gan ymarferwyr cyfoes y gelf.

Meddai Will Troughton, Curadur Ffotograffiaeth y Llyfrgell am y caffaeliad:

 “Mae Llyfrgell Genedlaethol Cymru wrth ei bodd ychwanegu detholiad o’r portreadau a’r tirluniau syfrdanol hyn at ei chasgliad lle byddant yn eistedd ochr yn ochr â gwaith gan rai o fawrion ffotograffiaeth.

Mae detholiad arall wedi’i brynu gan Martin Parr ar gyfer Sefydliad Martin Parr.

Mae ffotograffau o’r prosiect hefyd wedi cael eu harddangos yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru, Amgueddfa Perth, Amgueddfa Poole ac yn y Great North Museum yn ystod Arddangosfa Fawreddog y Gogledd yn 2018.

www.lifeboatstationproject.com

1

2

3

4

5

6 (1)7

8

9

TANYSGRIFIO

Cofrestrwch gyda’ch cyfeiriad e-bost i gael y newyddion diweddaraf.

Caniatâd Marchnata

Bydd Oriel Colwyn yn defnyddio'r wybodaeth a roddwch ar y ffurflen hon i gysylltu â chi ac i ddarparu diweddariadau a marchnata. Cadarnhewch yr hoffech glywed gennym trwy e-bost trwy dicio'r blwch isod:

Gallwch newid eich meddwl unrhyw bryd drwy glicio ar y ddolen dad-danysgrifio yn nhroedyn unrhyw e-bost a gewch gennym, neu drwy gysylltu â ni yn curator@orielcolwyn.org. Byddwn yn trin eich gwybodaeth â pharch. I gael rhagor o wybodaeth am ein harferion preifatrwydd, ewch i'n gwefan. Drwy glicio isod, rydych yn cytuno y gallwn brosesu eich gwybodaeth yn unol â'r telerau hyn.

Rydym yn defnyddio Mailchimp fel ein platfform marchnata. Trwy glicio isod i danysgrifio, rydych yn cydnabod y bydd eich gwybodaeth yn cael ei throsglwyddo i Mailchimp i'w phrosesu. Dysgu rhagor am arferion preifatrwydd Mailchimp.

Intuit Mailchimp