Alys Tomlinson

Northern Eye Photography Festival 2021

9 Hydref, 2021 - 10 Hydref, 2021

Date(s)
09 - 10/10/2021
Cyswllt
Northern Eye Photography Festival 2021
Disgrifiad
cover

Ganwyd Alys Tomlinson yn 1975 a chafodd ei magu yn Brighton. Ar ôl astudio gradd mewn Llenyddiaeth Saesneg aeth ymlaen i astudio ffotograffiaeth yn Central Saint Martins ac yn ddiweddar enillodd MA (gyda Rhagoriaeth) mewn Anthropoleg o SOAS, Prifysgol Llundain.

Mae ei chorff pwysicaf o waith, ‘Ex-Voto’ (2016-2018) yn archwilio safleoedd pererindodau Cristnogol yn Lourdes (Ffrainc), Ballyvourney (Iwerddon)  a Grabarka (Gwlad Pwyl). Mae’r gwaith yn cwmpasu portreadau ffurfiol, tirweddau fformat mawr a ffotograffau bywyd llonydd bach, manwl o’r gwrthrychau a’r olion ex-voto a adawyd ar ôl.

Ar hyn o bryd mae Alys y gweithio ar 'Mother Vera', ffilm ddogfennol wedi'i chefnogi gan Sefydliad Sundance, sy'n canolbwyntio ar un o'r pererinion y gwnaeth eu cyfarfod yn Grabarka gan archwilio ei bywyd mewn lleiandy ym Melarus.

Mae Alys yn byw ac yn gweithio yn Llundain. Mae detholiad o’i gwobrau diweddaraf yn cynnwys:

  • Enillydd Gwobr Portread Ffotograffig Taylor Wessing 2020;
  • Enwebiad am Prix Elysée  2020-2022;
  • Ar y rhestr fer am Wobr Darganfyddiad Newydd Recontres d’Arles 2019 ac Enillydd y Wobr Gyhoeddus.
  • Enillydd y wobr Ffotograffydd y Flwyddyn yng Ngwobrau Ffotograffiaeth y Byd Sony 2018.
  • Enillydd y Wobr Gyntaf yn y Categori Darganfyddiad yng Ngwobrau Ffotograffiaeth y Byd Sony 2018.
  • Cyhoeddiad ‘Ex-Voto’ gan Lyfrau GOST yn 2019.
  • Hunan-gyhoeddiad ‘Lost Summer yn 2020.

Mae detholiad o’i harddangosfeydd unigol yn cynnwys:

  • The Faithful, Gwobr Darganfyddiad Newydd Louis Roederer , Les Rencontres d’Arles, Arles, Ffrainc;
  • Ex-Voto, Cadeirlan Chichester, Chichester, y DU;
  • Ex-Voto, Side Gallery, Newcastle, y DU.

www.alystomlinson.co.uk

1

2

3

4

5

6

TANYSGRIFIO

Cofrestrwch gyda’ch cyfeiriad e-bost i gael y newyddion diweddaraf.

Caniatâd Marchnata

Bydd Oriel Colwyn yn defnyddio'r wybodaeth a roddwch ar y ffurflen hon i gysylltu â chi ac i ddarparu diweddariadau a marchnata. Cadarnhewch yr hoffech glywed gennym trwy e-bost trwy dicio'r blwch isod:

Gallwch newid eich meddwl unrhyw bryd drwy glicio ar y ddolen dad-danysgrifio yn nhroedyn unrhyw e-bost a gewch gennym, neu drwy gysylltu â ni yn curator@orielcolwyn.org. Byddwn yn trin eich gwybodaeth â pharch. I gael rhagor o wybodaeth am ein harferion preifatrwydd, ewch i'n gwefan. Drwy glicio isod, rydych yn cytuno y gallwn brosesu eich gwybodaeth yn unol â'r telerau hyn.

Rydym yn defnyddio Mailchimp fel ein platfform marchnata. Trwy glicio isod i danysgrifio, rydych yn cydnabod y bydd eich gwybodaeth yn cael ei throsglwyddo i Mailchimp i'w phrosesu. Dysgu rhagor am arferion preifatrwydd Mailchimp.

Intuit Mailchimp