Brian David Stevens

Northern Eye Photography Festival 2019

12 Hydref, 2019 - 13 Hydref, 2019

Date(s)
12 - 13/10/2019
Cyswllt
Northern Eye Photography Festival 2019
Disgrifiad
cover

Mae Brian yn byw yn Llundain ond mae ei rieni’n dod o Gymoedd y De ac yn byw yno hyd heddiw.

Wedi gweithio ar nifer o brosiectau personol yn ystod ei yrfa, mae Brian yn treulio cyfnodau hir yn tynnu lluniau o bobl a llefydd gyda llygad artistig a sensitifrwydd dwfn.  Cynhyrchwyd ei bortreadau adnabyddus ‘They that are left..." : 'Remembrance' portraits of War Veterans’ dros gyfnod o ddeng mlynedd ac fe’u harddangoswyd yn Oriel Colwyn.

Mae ei waith mwy diweddar ‘Beachy Head’  yn archwilio tirwedd sy’n adnabyddus am ei chlogwyni sialc eiconig ond â’u huchder yn gwneud yr ardal yn un o’r drwg-enwocaf yn y byd am hunanladdiad. 

Mae ei waith i’w weld yn y Galeri Portreadau Cenedlaethol, yng Ngalerïau Cenedlaethol yr Alban ac mewn casgliadau preifat eraill.

Mae Brian wedi cyhoeddi sawl llyfr, gyda Notting Hill Sound Systems (a arddangoswyd ngŵyl Diffusion eleni), Brighter Later a Beachy Head y mwyaf adnabyddus yn eu mysg,  ac mae ei lyfr diweddaraf, Doggerland, wedi’i gyhoeddi gan Another Place Press.

Mae Brian wedi arddangos ei waith ym Mhrydain ac yn rhyngwladol. 

Aur yw ei hoff liw.

www.briandavidstevens.com

1

2

3

4

5

6

TANYSGRIFIO

Cofrestrwch gyda’ch cyfeiriad e-bost i gael y newyddion diweddaraf.

Caniatâd Marchnata

Bydd Oriel Colwyn yn defnyddio'r wybodaeth a roddwch ar y ffurflen hon i gysylltu â chi ac i ddarparu diweddariadau a marchnata. Cadarnhewch yr hoffech glywed gennym trwy e-bost trwy dicio'r blwch isod:

Gallwch newid eich meddwl unrhyw bryd drwy glicio ar y ddolen dad-danysgrifio yn nhroedyn unrhyw e-bost a gewch gennym, neu drwy gysylltu â ni yn curator@orielcolwyn.org. Byddwn yn trin eich gwybodaeth â pharch. I gael rhagor o wybodaeth am ein harferion preifatrwydd, ewch i'n gwefan. Drwy glicio isod, rydych yn cytuno y gallwn brosesu eich gwybodaeth yn unol â'r telerau hyn.

Rydym yn defnyddio Mailchimp fel ein platfform marchnata. Trwy glicio isod i danysgrifio, rydych yn cydnabod y bydd eich gwybodaeth yn cael ei throsglwyddo i Mailchimp i'w phrosesu. Dysgu rhagor am arferion preifatrwydd Mailchimp.

Intuit Mailchimp