Jonathon Goldberg

Northern Eye Photography Festival 2017

14 Hydref, 2017 - 15 Hydref, 2017

Date(s)
14 - 15/10/2017
Cyswllt
Northern Eye Photography Festival 2017
Disgrifiad
Image 1

Mae Jonathan Goldberg yn ffotograffydd wedi’i leoli yn Llundain, a raddiodd o Brifysgol Brighton. Mae ei waith yn rhoi sylw i fyw yn gynaliadwy, fel y symudiad Trefi Trawsnewid.

Yn 2016 a 2013, cyrhaeddodd y rhestr fer ar gyfer Ffotograffydd Amgylcheddol y Flwyddyn (EPOTY) ac enillodd wobr Fideo’r Flwyddyn am ffilm fer am ei grŵp Cynaeafu Ffrwythau lleol.

Image 2

Yn 2015, cyrhaeddodd y rhestr fer am y Wobr Photovoice, gan ddangos ei waith yn Printspace, Llundain. Cyn hynny, comisiynwyd Jonathan ar gyfer traethawd ffotograffau ar One Planet Living yn ymwneud â Chludiant Cynaliadwy, a arweiniodd at arddangosfa proffil uchel ar wal yng Ngorsaf Drenau Brighton.

Bydd Jonathan yn siarad am ei brosiect The Runway Stops Here (Grow Heathrow) 

1 Mawrth 2010, fe wnaeth aelodau Trawsnewid Heathrow dyrru am safle gardd farchnad segur yn Sipson; un o’r pentrefi a gafodd eu tarmacio’n llwyr i wneud y drydedd redfa yn Heathrow. Eu bwriad oedd creu canolbwynt i breswylwyr lleol frwydro yn erbyn ymgyrch i ddymchwel eu cartrefi.

Image 3

Heddiw mae Grow Heathrow wedi esblygu i fod yn eco-bentref cymhleth, ac mae cael eu bygwth ag ehangiad y maes awyr mor fyw nawr ag yr oedd bryd hynny.

Bydd Jonathan yn siarad gydag Amanda Jackson ac yn myfyrio ynghylch tebygolrwydd â’i phrosiect yn seiliedig ar Eco-bentref Lammas Tir y Gafel, yng ngogledd Sir Benfro.

TANYSGRIFIO

Cofrestrwch gyda’ch cyfeiriad e-bost i gael y newyddion diweddaraf.

Caniatâd Marchnata

Bydd Oriel Colwyn yn defnyddio'r wybodaeth a roddwch ar y ffurflen hon i gysylltu â chi ac i ddarparu diweddariadau a marchnata. Cadarnhewch yr hoffech glywed gennym trwy e-bost trwy dicio'r blwch isod:

Gallwch newid eich meddwl unrhyw bryd drwy glicio ar y ddolen dad-danysgrifio yn nhroedyn unrhyw e-bost a gewch gennym, neu drwy gysylltu â ni yn curator@orielcolwyn.org. Byddwn yn trin eich gwybodaeth â pharch. I gael rhagor o wybodaeth am ein harferion preifatrwydd, ewch i'n gwefan. Drwy glicio isod, rydych yn cytuno y gallwn brosesu eich gwybodaeth yn unol â'r telerau hyn.

Rydym yn defnyddio Mailchimp fel ein platfform marchnata. Trwy glicio isod i danysgrifio, rydych yn cydnabod y bydd eich gwybodaeth yn cael ei throsglwyddo i Mailchimp i'w phrosesu. Dysgu rhagor am arferion preifatrwydd Mailchimp.

Intuit Mailchimp