Gan gydweithio gyda Sioe Lluniau ac Opteg 2014 Cambrian Photography 2014 rydym yn falch o fod yn croesawu Matt Hart yn rhan o ddiwrnod o sgyrsiau a dysgu ysbrydoledig.
Mae llefydd yn brin ar gyfer sgwrs Matt felly er mwyn gallu derbyn cymaint o bobl â phosibl, fe fydd yna ddwy sesiwn, un rhwng 1pm a 2pm, ac un arall rhwng 3pm - 4pm.
Mae’r ddwy sgwrs yn rhad ac am ddim ond bydd angen tocyn arnoch (gweler y dewisiadau isod). Mae’r ddwy sgwrs yn union yr un fath, felly archebwch eich lle mewn un sgwrs yn unig er mwyn sicrhau bod llefydd ar gael i bobl eraill sy’n dymuno mynychu.

Ar ôl cwblhau ei brosiect blwyddyn o hyd, "A YEAR OF BLACK AND WHITE", fe fydd Matt yn cyflwyno seminar am hyn oedd yn ysgogiad iddo ymgymryd â’r prosiect uchelgeisiol yma, sut yr aeth, beth y mae wedi’i ddysgu a beth yw ei her nesaf, yn cynnwys ei ddau brosiect newydd. Fe fydd Matt yn disgrifio’r broses o symud drosodd o offer Nikon Pro i X-Series gan Fuji (mae o’n enwog am ganu ei glodydd). Yna, fyddwch yn cael cyfle i ofyn cwestiynau iddo. Mae Matt wedi cynhyrchu llyfr hyfryd yn dogfennu “YEAR OF BLACK AND WHITE” a fydd ar gael, ochr yn ochr â’i arddangosfa yn Cambrain Photography.
Mae Matt Hart wedi’i leoli yn Lerpwl, y DU. Cafodd ei eni yn Hammersmith Llundain yn y 1960au ac mae wedi bod yng Nghaint y rhan fwyaf o’i fywyd. Mae o bellach wedi adleoli i ogledd-orllewin Lloegr lle mae o’n dod o hyd i ffynhonnell ddiddiwedd o ddeunyddiau ar gyfer ei ffotograffiaeth. Mae siwrnai Matt drwy ffotograffiaeth dros 40 mlynedd yn bennaf wedi bod yn defnyddio ffilm, ond yn fwy diweddar mae o’n ffafrio rhyddid a hyblygrwydd y cyfrwng digidol tra’n ceisio dal integriti y darlun gwreiddiol.

Gan ei fod ei fod wedi defnyddio rhan fwyaf o’i fywyd yn defnyddio ffilm du a gwyn, mae o’n ceisio archwilio ochr ddu a gwyn digidol, gan ddefnyddio technegau modern, i gael dyfnder a thôn yn ei luniau yr oedd o’n caru ei wneud gyda ffilm, ond gyda’i elfen unigryw ei hun.
Mae Matt wedi parhau i ddiweddaru catalog o luniau stoc sydd yn cael eu cynrychioli gan Getty, Dreamstime, I stock, Shutterstock ac Alamy. Mae ei luniau stoc yn cael eu defnyddio dros y byd mewn gwaith masnachol a hysbysebion. Mae o wedi gwneud gwaith i sawl asiantaeth y wasg yn cynnwys Ferrari Press Agency a Solent News a Picture Agency.
Gan ei fod o bellach yn byw yn Lerpwl fe fydd o’n tynnu mwy am fwy o luniau dros y misoedd i ddod yn Lerpwl, felly efallai y byddwch chi’n ei weld o allan yn y ddinas. Fe fydd o yn Brazillica, Africa Oye, LIMFestival felly os welwch chi o, dywedwch helo.