Browser does not support script.
Various
18 Gorffennaf, 2019, 12am
18/07/2019 00:00:00
Mae’n bleser gan Oriel Colwyn fod yn cydweithio â’r Gymdeithas Ffotograffig Frenhinol, Ffotograffiaeth Cambrian a Theatr Colwyn er mwyn dangos y ffilm unigryw hon ar y sgrin sinema.
Ym 1982, pan benderfynodd Fred Gandolfi gau’r busnes teuluol, penderfynodd y ffotograffydd Ken Griffiths y dylid creu cofnod o’r gweithdy a’i gynnwys unigryw er cof a chadw. Ynghyd â’i frawd David a gyda chefnogaeth tîm angerddol o wneuthurwyr ffilmiau a ffotograffwyr, crëwyd ffilm hyfryd sy’n mynd â’r gynulleidfa ar siwrnai hiraethus drwy’r hen ddiwydiant Fictoraidd…
Wedi’i chreu dros gyfnod o 20 mlynedd, mae Gandolfi - Family Business yn adrodd stori Fred ac Arthur Gandolfi wrth iddynt addasu o fywyd fel gwneuthurwyr camerâu hynaf y byd i’w hymddeoliad haeddiannol iawn.
Roedd Fred ac Arthur Gandolfi yn byw ac yn gweithio yn eu gweithdai yn Peckham o’r cyfnod Edwardaidd i’r cyfnod digidol, ac erbyn y 1980au, fe’u hystyriwyd, ynghyd â Fred Dibner, fel cynrychiolaeth fyw o archaeoleg ddiwydiannol. Mae ffilm Griffith yn gofnod hyfryd o harddwch eu crefft, etifeddiaeth eu teulu, a blynyddoedd olaf eu bywydau rhyfeddol.
Ers ei dangosiad cyntaf yn 2004, pan enillwyd cystadleuaeth Ffilm Ddogfennol Ryngwladol Sheffield, dim ond llond llaw o weithiau mae’r ffilm wedi cael ei dangos.
Gandolfi-Family Business;(2003) Cyfarwyddwr: Ken Griffiths; Hyd 97 munud; ffilm 16mm wreiddiol.
Cofrestrwch gyda’ch cyfeiriad e-bost i gael y newyddion diweddaraf.
Bydd Oriel Colwyn yn defnyddio'r wybodaeth a roddwch ar y ffurflen hon i gysylltu â chi ac i ddarparu diweddariadau a marchnata. Cadarnhewch yr hoffech glywed gennym trwy e-bost trwy dicio'r blwch isod:
Gallwch newid eich meddwl unrhyw bryd drwy glicio ar y ddolen dad-danysgrifio yn nhroedyn unrhyw e-bost a gewch gennym, neu drwy gysylltu â ni yn curator@orielcolwyn.org. Byddwn yn trin eich gwybodaeth â pharch. I gael rhagor o wybodaeth am ein harferion preifatrwydd, ewch i'n gwefan. Drwy glicio isod, rydych yn cytuno y gallwn brosesu eich gwybodaeth yn unol â'r telerau hyn.
Rydym yn defnyddio Mailchimp fel ein platfform marchnata. Trwy glicio isod i danysgrifio, rydych yn cydnabod y bydd eich gwybodaeth yn cael ei throsglwyddo i Mailchimp i'w phrosesu. Dysgu rhagor am arferion preifatrwydd Mailchimp.