Offer Camera a'r Ystafell Dywyll

Digwyddiad Clirio

26 Gorffennaf, 2025, 11am

Date(s)
26/07/2025
Cyswllt
Digwyddiad Clirio
Disgrifiad
Cover DRCO

Digwyddiad Clirio Offer Camera a’r Ystafell Dywyll - Dydd Sadwrn 26 Gorffennaf

Amser: 11am - 4pm (Galwch heibio unrhyw adeg)
Lleoliad: I fyny’r grisiau yn yr Oriel yn Oriel Colwyn


Rhowch fywyd newydd i Offer Ffotograffiaeth - a Helpwch i Ail-adeiladu ein Hystafell Dywyll!

Rydym yn agor drysau ein horiel am ddigwyddiad clirio un diwrnod yn unig yn cynnwys ystod eang o offer camera ac ystafell dywyll ail-law. Dros y blynyddoedd, rydym wedi derbyn rhoddion hael yn cynnwys hen gamerâu i fagiau camerâu, chwyddwyr, ategolion a hanfodion eraill yr ystafell dywyll. Mae’r rhoddion hyn wedi ein helpu ni’n fawr i sefydlu’r ystafell dywyll - a rŵan rydym yn pasio’r pethau sy’n weddill i gartrefi newydd!

Dyma ddigwyddiad yn seiliedig ar roddion, gyda’r holl elw’n mynd yn uniongyrchol tuag at adnewyddu ac ail-agor ystafell dywyll gymunedol Oriel Colwyn.


Pam rŵan?

Yn ogystal â chynnal arddangosfeydd, gwyliau, sgyrsiau ffotograffiaeth a digwyddiadau ysbrydoledig, mae Oriel Colwyn yn gartref i un o’r unig ystafelloedd tywyll cymunedol yng Ngogledd Cymru. Yn anffodus, caewyd yr ystafell dywyll yn ystod y cyfnod clo, ond rydym yn gweithio’n galed i’w adfer a’i ail-lansio fel gofod creadigol ar gyfer ffotograffwyr o bob lefel.

Rydym eisiau cadw ysbryd y rhoddion hyn yn fyw trwy eu troi i mewn i gymorth ar gyfer pennod nesaf stori’r ystafell dywydd - a gallwch chi fod yn rhan ohono.

Mae rhai eitemau rydym eu hangen ar gyfer yr ystafell dywyll eto er mwyn cwblhau’r gofod, a bydd eich cyfraniadau yn mynd yn uniongyrchol tuag at y rhain.


Beth i’w ddisgwyl:

  • Ystod eang o offer ffotograffiaeth analog a digidol
  • Pori cyfeillgar ac anffurfiol yn ein horiel i fyny’r grisiau
  • Cyfle i gefnogi adnodd lleol unigryw ar gyfer pobl greadigol
  • Does dim angen archebu - galwch heibio rhwng 11am a 4pm
  • Rhaid i bopeth a brynir fynd ar y diwrnod

Yn Dod yn Fuan…

Unwaith fydd yr ystafell dywyll ar agor eto, rydym yn bwriadu lansio:

  • Gweithdai / cyrsiau ffotograffiaeth analog
  • Sesiynau ystafell dywyll cynaliadwy ac ecogyfeillgar
  • Cyflwyniadau ystafell dywyll i ddechreuwyr
  • Datblygu eich ffilm eich hun
  • Argraffu eich copïau negyddol eich hun
  • Prosiectau creadigol wedi’u harwain gan y gymuned
  • Gofod cefnogol ar gyfer dechreuwyr a phobl greadigol profiadol i ymarfer ffotograffiaeth analog
  • Llogi gofod ystafell dywyll

* Sylwch: mae ein hystafell dywyll wedi’i osod ar gyfer datblygu/argraffu printiau du a gwyn yn unig


Ymunwch â ni, ceisiwch offer gwych a helpwch i roi bywyd newydd i unig ystafell dywyll gymunedol Bae Colwyn.
Edrychwn ymlaen at eich croesawu chi.

 Wrth i’r ystafell dywyll baratoi i ail-agor, bydd manylion gweithdai/cyrsiau yn y dyfodol ar gael ar ein tudalen YSTAFELL DYWYLL.

TANYSGRIFIO

Cofrestrwch gyda’ch cyfeiriad e-bost i gael y newyddion diweddaraf.

Caniatâd Marchnata

Bydd Oriel Colwyn yn defnyddio'r wybodaeth a roddwch ar y ffurflen hon i gysylltu â chi ac i ddarparu diweddariadau a marchnata. Cadarnhewch yr hoffech glywed gennym trwy e-bost trwy dicio'r blwch isod:

Gallwch newid eich meddwl unrhyw bryd drwy glicio ar y ddolen dad-danysgrifio yn nhroedyn unrhyw e-bost a gewch gennym, neu drwy gysylltu â ni yn curator@orielcolwyn.org. Byddwn yn trin eich gwybodaeth â pharch. I gael rhagor o wybodaeth am ein harferion preifatrwydd, ewch i'n gwefan. Drwy glicio isod, rydych yn cytuno y gallwn brosesu eich gwybodaeth yn unol â'r telerau hyn.

Rydym yn defnyddio Mailchimp fel ein platfform marchnata. Trwy glicio isod i danysgrifio, rydych yn cydnabod y bydd eich gwybodaeth yn cael ei throsglwyddo i Mailchimp i'w phrosesu. Dysgu rhagor am arferion preifatrwydd Mailchimp.

Intuit Mailchimp