Browser does not support script.
Gweithdy
19 Gorffennaf, 2025, 2pm
19/07/2025 14:00:00
Ymunwch â ni am weithdy hwyliog, creadigol a chymdeithasol lle byddwch yn creu eich camera ffilm 35mm ‘Konstruktor’ Lomograffi eich hun! Mae’n berffaith ar gyfer pobl sy’n hoffi gwaith llaw a’r rhai sydd â diddordeb mewn ffotograffiaeth analog – mae’r camera DIY Konstruktor yn gamera SLR 35mm cwbl weithredol. Yn ystod y gweithdy, byddwch yn cael dealltwriaeth ymarferol o’r mecanwaith cywrain sy’n sail i’r lluniau analog rydych chi’n eu tynnu, sut mae llun yn cael ei dynnu wrth glicio botwm a chewch lawer o hwyl hefyd!
Pan fyddwch chi wedi gorffen adeiladu’r camera, mae’n amser addurno: Mae’r pecyn yn cynnwys detholiad o sticeri lliwgar, a gallwch anghofio’r rheolau ac addurno eich camera mewn arddull gwbl unigryw.
Ar ôl i chi gwblhau eich camera eich hun, gallwch fynd ag ef adref i’w ddefnyddio gyda rholyn o Ilford HP5* am ddim. Mae’r gweithdy hwn yn addas ar gyfer unigolion 16 oed a hŷn a bydd yn para rhwng 2 a 3 awr. Gofynnwn am gyfraniad o £25 i dalu cost y pecyn camera.
Dewch i ymuno â’r hwyl!
TOCYNNAU
Cofrestrwch gyda’ch cyfeiriad e-bost i gael y newyddion diweddaraf.
Bydd Oriel Colwyn yn defnyddio'r wybodaeth a roddwch ar y ffurflen hon i gysylltu â chi ac i ddarparu diweddariadau a marchnata. Cadarnhewch yr hoffech glywed gennym trwy e-bost trwy dicio'r blwch isod:
Gallwch newid eich meddwl unrhyw bryd drwy glicio ar y ddolen dad-danysgrifio yn nhroedyn unrhyw e-bost a gewch gennym, neu drwy gysylltu â ni yn curator@orielcolwyn.org. Byddwn yn trin eich gwybodaeth â pharch. I gael rhagor o wybodaeth am ein harferion preifatrwydd, ewch i'n gwefan. Drwy glicio isod, rydych yn cytuno y gallwn brosesu eich gwybodaeth yn unol â'r telerau hyn.
Rydym yn defnyddio Mailchimp fel ein platfform marchnata. Trwy glicio isod i danysgrifio, rydych yn cydnabod y bydd eich gwybodaeth yn cael ei throsglwyddo i Mailchimp i'w phrosesu. Dysgu rhagor am arferion preifatrwydd Mailchimp.